BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

GWENER
11eg Gorffennaf 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Canol Oesoedd
Roedd y Canol Oesoedd yn gyfnod o newid mawr ym Môn, lle roedd un o brif lysoedd tywysogion Gwynedd. Andrew Davidson o Gymdeithas Archaeolegol Gwynedd sy'n bwrw golwg ar gyfnod y tywysogion a'r eglwysi.
Llywelyn ap Gruffydd

"Mae nifer o Gymry, ond ddim cymaint o fewnfudwyr, yn gwybod mai 1282 oedd y dyddiad pwysig yng Nghymru, nid yn 1066 fel yn Lloegr. Dyma'r adeg pan fu farw Llywelyn ap Gruffydd ac, yn ddiweddarach ei frawd, a chychwyn cyfnod brenhinoedd Lloegr. Cyn hynny, tywysogion Cymreig oedd yn llywodraethu dros ran helaeth o Gymru.

"Byddai'r tywysogion yn symud o le i le. Roedd un llys brenhinol i bob chwe chwmwd. Roedd y cwmwd yn rhan o'r cantref, sef casgliad o tua chant setliad. Mae yna olion un o lysoedd y tywysogion yn Rhosyr, Aberffraw.

"Byddent yn symud o le i le i arbed cost mawr i un ardal a hefyd i bwysleisio eu hawdurdod wrth fod yno yn gorfforol.

"Yn 1282/3 newidiwyd y canolfannau pŵer i'r cestyll yng Nghaernarfon, Conwy a Biwmares.

"Enghraifft o un o'r ymdrechion cynnar gan y Normaniaid i goncro Cymru yw'r mwnt pridd yn Aberlleiniog.

"Nid oes llawer o olion o'r 14eg ganrif gan ei fod yn gyfnod anodd iawn oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd. Bu farw llawer o bobl ac anifeiliaid fferm oherwydd pla a bu diffyg yn y cnydau hefyd. Yna, daeth gwrthryfel Glyndŵr yn 1401.

Eglwys Penmon

"Ond yn sydyn tua diwedd y 15fed ganrif dechreuwyd adeiladu unwaith eto a chafodd nifer o eglwysi'r ynys eu newid yr adeg yma.

"Yr hynaf a'r mwyaf diddorol yw Eglwys Penmon. Hefyd, mae bwa dros ddrws eglwys Aberffraw a thŵr ar eglwys Llaneilan sy'n dyddio yn ôl i'r 12fed ganrif.

"Mae cadeirlan Bangor hefyd yn dyddio yn ôl i'r 15fed ganrif a dywedir fod y tŵr gorllewinol yn ddylanwad mawr ar eglwys Clynnog, sydd yn werth ei weld. Am gyfnod, roedd eglwysi Bangor a Chlynnog ochr yn ochr o ran pwysigrwydd ond Bangor a enillodd a Deiniol ddaeth yn brif sant yr ardal.

"Nid oes llawer o dai yn dyddio yn ôl i'r canol oesoedd, heblaw am Hafoty yn Llansadwrn sydd erbyn hyn dan ofal CADW."



Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy