BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Sachau o datws Llyn a siopau ym Mhwllheli Enwau Llefydd Llŷn
Gwilym Jones o Dudweiliog yn trafod cof gwlad Pen Llŷn am enwau lleol fel rhan o brosiect newydd Beth sy' mewn Enw? BBC Cymru sy'n ceisio darganfod faint mae enw'n gallu ei ddatgelu am le a'i hanes.
Mae enwau Llŷn yn cyfrannu at gymeriad yr ardal - maent i gyd yn enwau Cymraeg, ac yn aml mae ganddynt gysylltiadau hanesyddol.

Mae llawer yn enwau cyffredin a chyfarwydd y mae hi'n hawdd iawn eu dehongli - Glan yr Afon, tŷ wrth afon; Abersoch, genau'r afon Soch; Llaniestyn fel bron pob 'llan' arall wedi ei chysegru i sant.

Ond mae i wlad Llŷn fel ymhobman arall enwau anghyfarwydd sy'n anodd i'w dehongli yn aml gan eu bod wedi eu camsillafu gyda threiglad blynyddoedd a chais yn unig ar fy rhan i'w dadansoddi yw'r erthygl hon.

Cymerwn Mynytho i ddechrau. Yn ôl rhai mae'r enw hwn yn golygu Mân Nythod a cheir yn yr ardal annedd-dai bychan a fu unwaith yn fythynnod unnos yn britho degau o erwau o dir comin.

Heb unrhyw amheuaeth bu dylanwad hen deulu bendefigaidd Nanhoron ar enw'r bythynnod ar ôl iddynt eu hawlio amser cau y tiroedd comin: ystyriwn Alma, afon yn y Crimea lle y collwyd un o wehelyth Edwards Nanhoron ar faes y gâd ym 1854; cawn Aliwel, pentref yn yr India, lle bu brwydro ym 1846.

Gwelwn hefyd New York, California, Carmel, China a'r Aifft, enwau heb amheuaeth â chysylltiadau â morwyr yr ardal.

Tybiaf fod yr enw Cornwal ar dŷ'n gysylltiedig â'r gwaith plwm a fu yn Llanengan gan i liaws ymfudo o Gernyw i weithio ynddo.

Willings neu Wellington Terrace - dyma res o dai nad yw mwyach. Adeiladwyd y rhesdai yn wreiddiol gan fyddigion Nanhoron i gartrefu milwyr. Dengys hyn mor deyrngar oeddynt i'r frenhiniaeth. Enwyd y rhesdai er clod i Ddug Wellington ar ôl iddo drechu Napoleon yn Waterloo ym 1815.

Yn yr un ardal cawn fwthyn o'r enw Sodom.

Ychydig bellter o Mynytho saif pentref Llanbedrog. Bu yno ar un cyfnod fwthyn o'r enw Cockrwth, ond Cae Crwth ydyw'r enw cywir arno mae'n debyg.

Yno hefyd cawn Pickstryd, yn ôl yr hyn a ddywed y diweddar Myrddin Fardd, Pig Street yw'r enw cywir. Ar lethrau mynydd y Rhiw cawn Gimla neu i fod yn gywir Cimile. Ystyr 'cimi' oedd tir comin.

Pentref tawel bychan ydyw Rhydyclafdy sydd nepell o Bwllheli. Dywedir y bu yma ysbyty ar gyfer gwahanglwyfion yn yr oesoedd a aeth heibio. Os gwir yw hyn mae'r enw Rhyd-y-Clafdy'n gwneud synnwyr.

Yma hefyd saif Tyddyn Singrig. Ystyr 'Sin' yn ôl geiriadur Spurrell yw elusen felly tybiaf mai Tyddyn Elusen y Grug sydd yma gan fod eglwys hynafol Llanfihangel Bachellaeth bron ar drothwy'r drws.

Yn Uwchmynydd sydd ar derfyn eithaf Llŷn saif fferm y Cwrt, enw sy'n deillio o'r Saesneg Court. Yma y cynhelid llys barn yn yr oes a aeth heibio. Hwn oedd y Court of Bardsey Lordship gydag Abad Enlli yn teyrnasu. Wrth ymyl saif Secar neu Exchequer oedd hefyd yn gysylltiedig ar llys.

Yma hefyd ceir Bryn y Crogbren lle y dienyddid lladron defaid. Yng nghyffiniau'r uchod cawn fferm Llawenan a Ffrydiau Caswenan.

Yr olaf yn ôl y sôn yw'r enw cywir am y Swnt peryglus sydd yn rhedeg rhwng Ynys Enlli a'r tir mawr. Mae hanes i'r llestr Gwenan Gorn oedd yn eiddo i Madog ab Owain Gwynedd gael ei dryllio yma. Stori arall yw mai Gwenan oedd enw llong y Brenin Arthur ac iddi fynd yn ddrylliau yma.

Yn yr ardal yma ceir Stelig Bach a Stelig Fawr, talfyriad o Ystol Helyg medd rhai.

Os y teithiwn i gyfeiriad y gogledd cyrhaeddwn Tudweiliog.

Yn ôl chwedl daeth yr enw pan groesodd marchog o'r Iwerddon ar ei geffyl o'r enw Gweiliog. Oherwydd blinder gwrthododd y march symud modfedd ar ôl cyrraedd traeth Tywyn sydd islaw'r pentref. Rhoddodd ei droed yn gadarn ar graig a elwir hyd heddiw yn Garreg yr Ebol gan bod ôl troed y march yn dal i fod ar y garreg. Yn ôl y sôn ceisiodd y marchog gymell ei farch gan weiddi "Tyrd Gweiliog!"

Yn Nhudweiliog hefyd saif hen blasdy Cefn-Amwlch. Oherwydd bod mynydd bychan gyda bwlch ar ei gopa y tu cefn i'r plasdy yr enw cywir i'r lle yn ôl y gwybodusion yw Cefn-ar-Fwlch.

Ychydig bellter o Gefn-Amwlch saif plasdy arall o'r enw Brynodol neu Bryn-ar-Ddol a fferm a elwir yn Pwllgwd. Pwll coed medd rhai yw'r enw cywir ond yn ôl hen ddogfennau Pyllau Cydach sydd yn gywir. Daw y Cydach o Cyd. Tir cyd neu dir comin yw ystyr hyn gyda'r terfyniad -ach sy'n golygu gerllaw. Felly cawn yr ystyr Pyllau Tir Cyd gerllaw.

Garn Fadryn Traeth arall yn yr ardal yw Porthysglaig ond Porth yr Haig ddylai hwn fod mae'n debyg gan y bu ar un cyfnod ddiwydiant pysgota penwaig yno - haig o benwaig.

Nepell o Gefnamwlch mae cyffordd a elwir Beudy Bigin. Bu yno unwaith feudy a dywed mai'r enw gwreiddiol oedd Beudy Bing. Ystyr Bing yn Saesneg yw 'alley in a cowhouse'.

Ym Morfa Nefyn ar draeth Porthdinllaen saif craig sydd ond yn weladwy pan fydd y mor ar drai. Gelwir y graig hon yn Maen Bridin er mai Brudyn sy'n gywir ac sy'n golygu maen y Seryddwyr.

Yma ar wyneb llyfn y maen y byddai'r derwyddon yn amcanu amseroedd y trai a'r llanw a dyddiau y flwyddyn.

Mae'r enw Dinllaen neu Dinlleyn ynddo'i hunan yn nodi Din - Dinas neu amddiffynfa a lleyn yn wreiddiol o Leinster yn yr Iwerddon.

Dywedir bod olion o hen amddiffynfa yn weladwy ar y clogwyn uwchben y Berth.

Brenhines Llŷn ydyw Carn Fadrun, y dywedir mae hen enw Cymraeg a'r cadno yw Madrun felly cawn Garn y Cadno.

  • Mwy am Beth sy mewn enw?

  • Cyfrannwch

    Duncan Brown o Waunfawr
    Gallt y Sil ger Caernarfon. Sil efallai yn golygu pysgod mân (ac mae'r Afon Seiont gerllaw - cofier silidons = sil y don, ar lafa yn arfon am minnows). Ond tybiaf mai'r ystyr mwyaf tebygol yw "yr allt lle bu'r silod mân neu'r eisin yn cael eu chwythu o Felin Peblig gynt ar ôl silio, gan wyntoedd y de orllewin gan orchuddio'r allt dan sylw i gyfeiriad Caernarfon, ac esgor ar yr enw disgrifiadol hwn o'i gyfnod?

    Ianto Glan Tawe, Abertawe gynt
    Parthed yr enw Tyddynsingrig (Penrhyn Lly^n): Geiriadur Prifysgol Cymru, tudalen 1199. Eisingrug, singrug (eisin + crug; caed y ffurf singrig drwy golli'r sillaf gyntaf ddiacen.) Tomen o eisin a welid yn gyffredin gynt ar lecyn agored gerllaw melin lle y nithid ye eisin oddi wrth y grawn ar ôl silio. Digwydd yn gyffredin yn y ffurf Singrug fel enw ar fythynnod a chaeau drwy Gymru


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Ar y Marc
    Llyfrgell Genedlaethol Cymru


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy