BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Trawsfynydd
Cwpan Trawsfynydd Cwpan Trawsfynydd
Copi o dancard efydd hynafol ydy un o atyniadau canolfan dreftadaeth sy'n olrhain hanes pentref Trawsfynydd.
Cafodd y gwaith o wneud replica o'r tancard enwog o efydd, a elwir yn Gwpan Trawsfynydd, ei gomisiynu gan Ganolfan Treftadaeth Llys Ednowain yn Nhrawsfynydd ar gyfer ei arddangosfa yno.

Cafwyd hyd i'r gwpan, sy'n dyddio o tua'r flwyddyn 100 C.C., mewn mawndir ger y pentref yng nghanol yr 19ed ganrif. Mae wedi ei gwneud o lafnau o goed ywen a'i gorchuddio ag efydd. Mae ganddi handlen efydd wedi ei gweithio'n batrwm Celtaidd cywrain yn yr arddull La Tène oedd yn amlwg yn Ewrop o tua 500 C.C. ymlaen.

Yn ôl cyn rheolwr Llys Ednowain, Dewi Prysor, mae'r gwpan yn ddarganfyddiad pwysig am ei bod yn dangos y cysylltiadau diwylliannol a masnachol rhwng Celtiaid gogledd Cymru a gweddill Ewrop.

"Sefydlwyd ysgolion crefftwyr metel yn yr arddull La Tène dros Brydain i gyd, yn enwedig Ynys Môn a de-ddwyrain Lloegr, ac roedd eu gwaith yn gynnyrch o'r safon uchaf. Ceir llawer o engreifftiau o'r celfyddyd hwn wedi eu gwneud yng Nghymru, ond yn ne-ddwyrain Lloegr, mae'n debyg, y gwnaethpwyd Cwpan Trawsfynydd," meddai.

Yn ôl yr hanesydd lleol o Drawsfynydd, Isgoed Williams, rhoddwyd y gwpan i'r Twrna Llwyd, Penglannau, Gellilydan, i'w chadw, wedi ei darganfod rywbryd rhwng 1846 a 1856. Wedi iddo ef a'i wraig wahanu bu'n byw ym Mhenlan, Maentwrog, a gadawodd y cwpan i'w landledi, Phoebe Roberts, yn ei ewyllys. Gwerthodd Phoebe Roberts hi i berson â'i gwerthodd hi wedyn i'r Amgueddfa Genedlaethol yn Lerpwl, lle mae'r gwreiddiol yn dal i'w gweld.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy