BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Sir Conwy

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Gwaith Nant-y-plwm
Roedd Nant y Plwm ger Llansannan yn safle mwyngloddio am blwm yn y 1800au. Roedd cymdeithas yn gysylltiedig â'r gwaith hefyd a sefydlwyd i ofalu am les y gweithwyr (mwy isod).

Fe arweiniodd yr archeolegydd a'r hanesydd lleol, Bill Woodhouse, ambell daith i lawr i'r hen weithfeydd yn niwedd y 1970au. Yn y lluniau hyn mae'n arwain criw o bobl ifanc o ardal Wrecsam, gyda diolch i'w weddw, Eirlys Wynne-Woodhouse, a Rhiannon Davies am gyfrannu'r lluniau.


previous page Y tu allan i'r gwaith next page
1  2  3  4  5  6  7  8 

Yn 1845, sefydlwyd Cymdeithas Frawdgar i ofalu am yr aelodau a oedd yn gweithio yn y pwll. Byddai'n cyfarfod 'ar y Llun cyntaf yn y mis tan arwydd y Llew Coch yn Llansannan ... pan y bydd i bob aelod dalu dau swllt i'r drysorgist'.

"Mae o wir yn esiampl," meddai Rhiannon Davies o Lansannan a ddaeth â'r hanes i'n sylw drwy gopi y daeth Mr Bill Woodhouse o hyd iddo wrth wneud ymchwil i hanes yr ardal. "Mae i gyd yn Gymraeg. Maen nhw'n addo bod yn deyrngar i'r aelodau ac i'r frenhines ac roedd 30 o reolau - i fod yn gyfrifol am beth oedd yn digwydd os oedd yr aelodau yn sâl a thalu budd-dâl iddyn nhw ac yn y blaen."

Os byddai un o'r aelodau yn mynd yn glaf, byddai'n cael saith swllt yr wythnos am hanner blwyddyn. Wedi hynny, tri swllt a chwe cheiniog tra byddai'n dal yn 'afiach'. Hefyd roedd rhaid i'r swyddogion ymweld â'r claf, bob yn ail, unwaith yr wythnos a byddai gofyn i feddyg ymweld â'r claf 'fel bo gofyn'.

Os byddai un o'r aelodau yn marw, byddai ei weddw a'i deulu yn cael arian i'w gladdu ac os byddai gwraig un o'r aelodau yn marw, byddai'r aelod hwnnw yn cael help ariannol i'w chladdu.

Ymysg y nifer o reolau a chanllawiau eraill mae'r rheol na châi neb sy'n filwr neu'n perthyn i 'wasanaeth morawl ei Mawrhydi' fod yn aelod o'r gymdeithas.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy