BBC HomeExplore the BBC

SUL
6ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Sir Conwy

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Gwyn Fôn, Dafydd Chilton a Gareth Rees Williams Taith feicio'r Urdd
I nodi cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy 2008 ger Llandudno bu beicwyr glew o Ddyffryn Conwy yn seiclo o amgylch y sir cyn gorffen eu taith yn niwrnod agored BBC Cymru ym Mae Colwyn.
Gwyn Fôn, Dafydd Chilton a Gareth Rees Williams o Glwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy oedd y tri heini a gychwynnodd yn fore - 7.30am - o Fae Colwyn.

Fe wnaethon nhw feicio o amgylch ffiniau sir Conwy - tuag at y Rhyl i'r dwyrain, at Ddinbych, lawr i Gerrigydrudion, yna draw at rannau gorllewinol y sir, i fyny at Landygai cyn cyrraedd nôl ym Mae Colwyn i ganol miri Diwrnod Agored y BBC yng nghanolfan hamdden Parc Eirias brynhawn Sul, Ebrill 22.

Fe fuon nhw'n beicio am 6 awr a 27 munud a theithio 96 milltir i gyd - a doedd dim golwg wedi blino arnyn nhw ar ôl cyrraedd Parc Eirias

Yn ôl y tri - paned o de oedd y prif beth oedd ar eu meddwl!

Cafodd Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy ei sefydlu yn ystod gŵyl Llanast Llanrwst, fis Tachwedd 2006; un o'r rhesymau dros ei sefydlu oedd am fod cyn lleied o bobl sy'n siarad Cymraeg yn ymwneud â'r maes awyr agored yn y gogledd orllewin, er bod y math yma o weithgaredd hamdden mor boblogaidd yma.

Mae mwyafrif helaeth y clwb yn siaradwyr Cymraeg meddai Dafydd Chilton ac roedden nhw am wneud rhywbeth i nodi dyfodiad Eisteddfod yr Urdd i'r ardal yn 2008: "Mae'n achlysur arbennig ac roedden ni eisiau gwneud rhywbeth i'w nodi ac hefyd eisiau dangos mai dim jyst corau a dawnsio gwerin sydd gan yr Urdd i'w gynnig - mae bod yn Gymro yn golygu gwneud pethau fel hyn hefyd," meddai.

Y diwrnod cynt, dydd Sadwrn 21 Ebrill, roedd y clwb yn arwain taith feicio deuluol o amgylch Llyn Alwen fel rhan o wythnos o weithgareddau lleol i nodi Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy 2008.

Mae mwy o wybodaeth am y clwb beicio ar gael mewn stori ym mhapur bro Yr Odyn, fan hyn: Clwb beicio newydd

Mae wythnos lawn o weithgareddau wedi ei threfnu i dynnu sylw at Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy 2008 fel rhan o'r Ŵyl Gyhoeddi rhwng 23 a 28 Ebrill 2007.

Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ar Fferm Gloddaeth Isaf, Bae Penrhyn ar gyrion tref Llandudno rhwng 26 a 31 Mai 2008.

Bydd wythnos yr Ŵyl Gyhoeddi yn gorffen gyda gorymdaith fawr trwy ganol tref Llandudno ddydd Sadwrn 28 Ebrill gan ddechrau o North Western Gardens am 11.30am ac yn cyrraedd y prom am 12.45pm lle bydd jambori yn digwydd.

O'r prom bydd pawb yn cerdded yn ôl i North Western Gardens i orffen yr orymdaith erbyn 14.45pm.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy