BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Mari Hughes O'r ddinas fawr i'r pentre bach
Yn Lerpwl y mae stori Mari Hughes o Ysbyty Ifan yn cychwyn - gydag atgof pell o'r Rhyfel Byd Cyntaf.

"Yn Lerpwl ges i fy ngeni. Roedd fy mam a nhad yn Gymry, a mam wedi mynnu ein bod yn siarad Cymraeg adref.

Mae gen i un atgof bach o ryfel 1914 - dim ond un peth! Roeddwn yn cychwyn yr ysgol am y tro cyntaf a minnau'n siarad Cymraeg adref. Pan es i'r ysgol, roedd y plant i gyd yn Saeson. Roedd y giât ar agor felly mi gerddais i adref a dweud wrth mam nad o'n i ddim am fynd yn ôl. Ond ddaru mam fynd a fi'n syth nôl!

Adeiladau'r Liver, Lerpwl

Ond yn rhyfedd iawn, 'chydig o ddyddiau wedyn, cafodd yr ysgol ei chau gan fod y cyngor eisiau'r ysgol i recriwtio i'r fyddin a bu ar gau am fis - a finnau'n meddwl fy mod i 'di cael gwyliau a fy ffordd fy hyn!

Roeddwn wrth fy modd yn Lerpwl. Roeddwn yn aelod o'r Liverpool Welsh Dramatic Society gyda Morris Jones ac yn cystadlu yn yr eisteddfodau - mi ddaru ni ennill chwe gwaith yn y genedlaethol. Ges i lot o hwyl efo'r dramâu.

Lerpwl yn y rhyfel
Roeddwn yn athrawes yn Lerpwl adeg y rhyfel ac mi gawson ein 'efaciwetio' gan bod y llywodraeth yn meddwl eu bod am fomio Lerpwl yn syth, er na wnaethon nhw ddim.

Aeth y rhan fwyaf i Gymru ac roeddwn i'n meddwl y byswn i'n mynd hefyd. Doedden ni ddim yn cael gwybod lle roedden ni'n mynd, jest hel y plant at ei gilydd, gweld fod gan bob plentyn gas mask a phecyn o fwyd a mynd â nhw lawr i'r stesion.

Efaciwîs

Ddaru ni landio yn Southport, a wedyn cael bws i fynd â ni i ryw bentref bach o'r enw Banks - a dyna od, oherwydd Banks Road oedd enw'r ysgol!

Ein gwaith ni fel athrawon oedd dosbarthu'r plant i wahanol bobl - byddai rhywun yn dod atoch ac yn dweud, 'Dwi'n cymryd tri hogyn' neu 'Mi gymra i ddwy ferch'.

Daeth un ddynes neis ofnadwy mewn ffrog las - mi alla i ei gweld hi rŵan - a dyma hi'n dod ata i a dweud ei bod lawr i gael dau athro neu ddwy athrawes. Dyna fi'n gofyn a fyddai hi'n cymryd fy ffrind a minnau ac mi gytunodd.

Doedd gen i ddim eisiau i'r brifathrawes ddallt ein bod ni'n cael mynd efo'n gilydd - a dyma fi'n gweiddi at fy ffrind, Gwladys, oedd draw ochr arall y 'stafell: "Peidiwch â gwneud dim trefniadau gyda phobl eraill gan fod y ddynes yn y ffrog las am ein cymryd ni'n dwy!"

Mi aeth y lle fel y bedd - pawb yn sbïo arna i, a finnau'n methu dallt pam.

Mewn dipyn o ddiwrnodau wedyn, mi ddaru'r ddynes gyfadda, 'Oh, you gave us such a fright in the hall, what language were you speaking? We all thought it was German'.

Mae na lot o 'll' a 'ch' mewn Almaeneg, fel yn y Gymraeg!

Mi fuo ni yn fanno am 'chydig, ond roedd o'n rhy agos i Lerpwl a doedd dim yn digwydd yna eto. Doedd y plant ddim yn licio'r wlad lot chwaith. Doedd na ddim cae chwarae iddyn nhw - jest cae llond o gabejis. Doeddwn i ddim eisiau gweld yr un cabej byth eto ar ôl hynny...!"

Ymlaen i fwy o atgofion Mari am adael y ddinas fawr.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy