BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Elfed Morris Ymladd yn India
Mae Elfed Morris o Lanrwst yn cofio'r sialens o fyw a gweithio yn India yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

"Roeddwn i yn fecanic yn yr airforce ar ôl ymuno yn 1941.

Aethon ni allan efo'r nightfighter squadron. Roedd y Japaneaid wedi dechrau rêdio Calcutta, gan y bydden nhw'n anfon popeth allan i'r rhyfel yn y dwyrain pell trwy ddociau'r ddinas.

Aeth hi'n operation yn syth wedi i ni gyrraedd. Saethodd un, Flight Sergeant Pring, dair awyren Japaneaidd i lawr y noson honno, a dwy y noson wedyn. Ddaru nhw ddim rêdio Calcutta am amser hir ar ôl hynny.

Ond ddaru ni aros yno i ddelio efo'r raid dros Chittagong.

Erbyn Rhagfyr 1943, roedd na broblemau efo awyrennau ysbïo dros Bagachi, tua 30 milltir o Calcutta. Er i ni dynnu'r gynnau a'r armour plating i ffwrdd o'r awyrennau, roedd yn dal yn amhosib iddyn nhw allu hedfan yn ddigon uchel i saethu'r awyrennau ysbïo i lawr.

Roedd India yn gythraul o le i fyw - dim antibiotics na phensilin ac roedd y lle yn llawn o malaria. Roedden ni i gyd yn ringworm drostom hefyd.

Ges i fy mrathu gan neidr ddŵr wenwynig ond doeddwn i ddim yn bell o'r ysbyty yn Karachi felly ges i'r antidôt yn ddigon cyflym. Ond pan ddois i rownd, pwy oedd rownd y gwely ond tri doctor Cymraeg! Mae'n rhaid mod i wedi bod yn gweiddi yn Gymraeg pan roeddwn i allan ohoni a dyna lle roedd Dr Price, llawfeddyg o Lanrwst a brawd i foi oedd yn gweithio yn y banc yn y dre yn edrych arna i.

Roedd o'n dallt yn union pwy oeddwn i ac mi ddôth â sigaréts a chacennau a phopeth i mi. Doeddwn i ddim wedi siarad Cymraeg am dair blynedd ond mae'n rhaid fy mod i wedi 'bablo' yn fy nghwsg.

Ges i ddwy flynedd efo'r sgwadron yn Calcutta cyn cael fy mhostio nôl i Karachi. Roedd y bwyd yn dal yn ddrwg, ond roedd hi'n llai llaith yna gan ein bod yn yr anialwch.

Mi ddaru ni gael miwtini yn Karachi oherwydd y bwyd ac am eu bod eisiau i ni wisgo best blues er ei bod hi'n boeth a hanner yr hogia wedi bod yn ymladd yn Bengal, a heb best blues i'w gwisgo. Felly mi ddaru HQ alw am ddiwrnod o wyliau i sortio pethau allan, ac mi wellodd pethau ychydig.

Ddaru ni gael miwtini arall ar ôl diwedd y rhyfel. Erbyn Ionawr 1946, roedden ni yn dal yng nghanol India yn gweithio ar injans awyrennau i American Airlines. Roedden ni felly yn teimlo fel 'sifis' - ddim yn gwneud dim gwaith i'r awyrlu bellach, ac eisiau dod adref. Felly ddaru ni benderfynu cael miwtini. Ddaru ni i gyd orfod mynd ar barêd a chael lot o fygythiadau ond, yn y diwedd, bu'n rhaid i HQ alw am ddiwrnod o wyliau eto i sortio pethau allan, gan y byddai tri miwtini yn golygu bod yr awyrlu wedi colli rheolaeth.

Cafodd rhai o arweinwyr y miwtini eu rhoi yn y clinc, ond er fy mod i yn un o'r cheerleaders, ches i ddim fy nal."



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy