BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Sebon carbolic a'r faciwîs
Mae gan Grace Roberts, yn wreiddiol o Gaernarfon ond bellach yn byw yn Queensland, Awstralia, atgof penodol iawn am ddyfodiad y faciwîs i'r dref:

"Faciwis odda ni Cofis Dre yn eu galw nhw, Pennau Llau yn debycach iddi.

"Roeddwn i yn eu damio nhw i'r cymyla, munud roedd mam yn clywed bod mwy o fforinyrs wedi cyrraedd y Dref doedd dim mercy i'w gael ganddi.

"'Griff' medda hi wrth fy nhad 'get plenty hot water ready for the tub, Gracie will need another bath and her head washed and probably de-liced again'. Roeddwn yn gwybod yn iawn mae faciwîs oedd wedi cyrraedd y dref unwaith eto, dyna oedd y drefn pob tro. I'r twb golchi o flaen y tân, cael fy sgwrio hefo Carbolic Soap (sebon coch drewllyd) a golchi fy mhen hefo paraffin i ladd nits a llau os oedd gennyf rai ne beidio.

"Cofiwch doedd neb yn sbïo a'r ben mam na dad, ond wedyn toedd dim poen hefo dad - pen moel oedd ganddo fo. Fasa lluan ddim yn rhyw gyffyrddus a'r ei ben o.

"Them were the days - amser clawd a poenys ond amser fy mhlentyndod, amser caled ond amser i'w gofio.

"Mi faswn yn dioddef y Carbolic Soap a'r Paraffîn eto os faswn yn meddwl y basan yn dod â heddwch i Blant y Byd.

"Cyn gorffen os oes yna faciwîs yn darllen hwn ac yn fy nghofio i mi faswn yn hoffi clywed ganddynt.

"Yn 22 Hole-in-the Wall oeddwn yn byw ar y pryd.

"Cofion Annwyl at y Faciwîs. Gracie Williams (Cochan)gynt."



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy