BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Elias Jones yn ei lifrai, 1941 Steddfod yn yr Aifft
Mae Elias Jones o Amlwch yn cofio emosiwn eisteddfod enwog Cairo yn 1943 a'i gyfnod fel milwr yn yr Aifft.
"Roeddwn i yn yr Aifft efo'r RAF o 1940 i 1945 - yng Nghairo ran fwyaf, yn HQ RAF Middle East.

"Ar y dechrau, mi fyddwn i'n gadael Cairo bob yn ail ddiwrnod i fynd i Tubruk yn El Alamein. Roeddwn i'n weithiwr weirles ar yr awyrennau am ychydig o fisoedd - yn gyrru rhagolygon y tywydd a mynd â sypleis allan i El Alamein.

"Yna mi aethon ni i fyw mewn gwersyll ynghanol Cairo, y Gaziro Club, cyn cael hostel yng nghanol y ddinas i fyw.

Y seremoni gadeirio yn Eisteddfod yr Aifft. "Gan fod cannoedd o Brydeinwyr yno roedd 'na gapeli yno hefyd, ac mi wnaeth y Cymry gymryd un ohonynt drosodd fel Capel Cymraeg Cairo. Roedd un o'r prif Gapleiniaid yn y Dwyrain Canol yn dod o Lannerchymedd ac mi fydden ni'n cyfarfod yn y Capel Cymraeg bob nos Sul, yna mynd ymlaen i fwyty Eidalaidd a chanu caneuon Cymraeg drwy'r nos!

"Roedd eisteddfod yn cael ei chynnal yn y Capel Cymraeg bob blwyddyn. Doeddwn i ddim yn un i gymryd rhan mewn eisteddfodau fel arfer ond mi wnes i fwynhau gwylio pawb yn cystadlu. Un peth sy'n aros yn y cof ydy'r 'steddfod gyntaf - yn y YMCA dwi'n meddwl. Daeth bachgen ifanc i fyny i ganu, a'r neuadd yn llawn o soldiwrs y fyddin a'r awyrlu ar leave o'r anialwch. A dyna'r hogyn yma, John Evans o Frynsiencyn, yn canu 'Cartref' - roedd na ddagrau yn ll'gadau pawb.

Elias gyda chyd-filwyr"Dwi'n cofio'r BBC yn darlledu o'r Aifft ar Ddydd Gwŷl Dewi Sant yn 1941 hefyd. Mi wnaethon nhw ofyn i ni, giang o fois Cymraeg ddweud gair ac mi nes i glywed fod pawb adref yn Amlwch yn gwrando.

"Cof arall ydy bod ar diwti un noson a gyrru neges morse code o Cairo i Algiers. Ar ôl gorffen mi ofynnais i'r boi mewn morse code o ble roedd yn dod - "Wales" gyrrodd yn ôl. "Where in Wales?" gofynnais. "Anglesey," meddai, "Amlwch." Roeddwn yn ei 'nabod o'n iawn ac felly roedden ni'n gallu siarad Cymraeg ar yr awyr heb boeni bod neb yn gwrando arnon ni.

Elias yn yr ysbyty, Mehefin 1943"Yn ystod y rhyfel, mi gefais i pneumonia. Ges i fy anfon i'r General Army Hospital a mendio yn dda. Ond roeddwn yn gwybod ar ôl i mi wella y buaswn yn cael fy ngyrru i wersyll convalescence y fyddin, a doeddwn i ddim eisiau mynd yno.

"Felly mi ddywedais hynny wrth y Caplan, ac mi ofynnodd o lle ro'n i'n dod - Amlwch meddwn i. Roedd o'n dod o Lannerchymedd - Madog Jones oedd o!

"Paid â phoeni," meddai pan eglurais fy mhroblem - a'r bore wedyn daeth dau orderly o'r RAF mewn ambiwlans a mynd â fi i Balesteina i wella. Mi wnes i weithio ar Kibbutz Iddewig am ddau fis, yn trin planhigion a choed ac yn y blaen. Roedd yn agoriad llygad bod yn Tel Aviv - roedd yn ddistaw iawn yno ar ôl Cairo.

Stryd ym Mhalesteina, 1941 "Fel dynion sengl, doedden ni ddim yn cael dod adref o gwbl, ches i ddim dod hyd yn oed i angladd fy mrawd, oedd yn gapten llong.

"Ar ôl y rhyfel mi es i adref i Amlwch a chreu busnes yn gwerthu setiau weirles, ac wedyn setiau teledu. Yna mi werthais y busnes a mynd i weithio fel postfeistr ym Mhorth Amlwch.

"'Doeddwn i heb fod nôl i'r Aifft nes i mi glywed am gynllun y Loteri i helpu pobl fel fi i fynd nôl i ymweld â'r lle. Mi es i yno efo fy mab, fy merch a fy mab-yng-nghyfraith.

Elias dan goeden balmwydd"Roedden ni'n aros yn Luksor ond mi es i a fy merch i fyny i Gairo am y diwrnod. Roedden nhw wedi fy rhybuddio na fyddwn yn adnabod llawer ar y ddinas a 'toeddwn i ddim chwaith. Mae'r lle wedi ehangu gymaint - mae dros 70 miliwn o bobl yn byw yno rŵan, yr ail ddinas fwyaf yn y byd. Ond mi wnes i weld lle roeddwn wedi campio yn y Gaziro Club, ac mi es i a fy merch i weld y pyramidiau, y Sphinx ac Amgueddfa'r Aifft.

"Dwi'n 87 erbyn hyn ac yn edrych ymlaen at fynd am cruise bach ar long y Van Gogh o Falmouth draw i Cadiz, Aporto a Tangiers - mae giang ohonom yn mynd."

Ffotograffau Elias Jones o'r cyfnod.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy