BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
11eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llanrwst
Hen Lanrwst Yn ôl i Fryn y Boten
Datblygodd Llanrwst yn ganolfan trin crwyn a chynnyrch lledr. Bu tanerdy yn rhan o gymeriad Llanrwst ers canrifoedd. Ceir sôn amdano yn hanes Syr John Wynn am deulu Gwydir.

Roedd y coed derw a dyfai ar lechweddau y dyffryn yn cynhyrchu'r rhisgl gorau ar gyfer y tannin angenrheidiol. Mae J. Lloyd Williams yn cynnwys disgrifiad da o'r gweithgarwch hwnnw yn ei Atgofion Tri Chwarter Canrif.

Un o ddiwydiannau pwysicaf Llanrwst yn yr hen amser oedd gwneud lledr. Yr oedd yno ddau farcty, un ym Mhen-isa'r dre a'r llall yn y Plas Isa. Y pryd hwnnw ceid y tannin angenrheidiol o risgl y coed derw, ac roedd cyflawnder o dderw yng nghoedwigoedd Gwydir.

Am gryn fis bob Gwanwyn, byddai'n helynt a hanner yno - catrawd o wŷr, gwragedd a phlant yn gweithio'n brysur yn y coed, yn treulio'r dydd ar ei hyd, yn cynnau tân yn yr awyr agored, ac yn bwyta'u prydau; ac o hynny'n cael rhywfaint o flas y bywyd anwar y mae olion ohono yn par i lechu yng ngwaelod ei natur.

Gwaith y dynion fyddai torri i lawr y deri a farciwyd gan y coedwigwr a'u dewisai yn ddoeth, un oddi yma ac un oddi acw, ac nid dinoethi darn o wlad. Hyfryd fyddai clywed ergydion y byweill a 'shi, shi' y llifiau yn atseinio o lechweddau Carreg y Gwalch; yna yn gwrando am sŵn un o'r cewri yn cwympo, a'r cangau a'r brigau yn gwichian a griddfan wrth ddisgyn yn drwm yn erbyn y ddaear a'u hysigo a'u hollti. Ac yn awr, daw bwyell a llif i ddi-aelodi'r hen gawr a heriodd ystormydd pum canrif.

Fel haid o fwlturod, daw merched a phlant a gyrdd coed yn eu dwylo a churo a churo ar y rhisgl. Eu camp hwy fydd peidio â malurio'r rhisgl ac ar yr un pryd malu'r haen o gelloedd tyner noddlyd a ffurfir bob gwanwyn rhwng y pren a'i risgl. Wedi gwneud hyn yn ddeheuig, gwaith hawdd fydd dirisglo'r coed - diosg y rhisgl oddi am y pren, a gadael hwnnw'n wyn-felyn ac yn llaith oherwydd y nodd a wasgwyd o'r celloedd newydd anedig. Cludid peth o'r rhisgl ar ei union i'r barcdai, a dodid ef yn y pyllau dŵr i fwydo'r tannin allan. Pentyrrid y gweddill yn deisi mawr cochddu i aros ei anfon i Loegr neu Iwerddon.

Ar derfyn dydd llawn prysurdeb, gwelid yr orymdaith yn mynd tua'r dre'; y merched a'r plant yn llusgo beichiau a changau a brigau'r derw yn goed tân. Ar eu holau byddai'r ffordd o'r Pren Gwyn i'r Bont wedi ei rhychu a'i llinellu gan y llusgo.

Yn y ddwy ysgol, ni byddai ond dyrnaid o'r plant mwyaf parchus, ac ychydig o waith a wneid nes byddai'r cynhaeaf rhisgl drosodd.

Crefftwyr y dre...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy