BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llanrwst
Hen Lanrwst Cymru, Lloegr a lle?
Aelodau o Gymdeithas Hanesyddol Llanrwst a'r cylch yn egluro tarddiad y dywediad Cymru, Lloegr a Llanrwst.

Sawl gwaith glywsoch chi'r dywediad hwn - ac ymfalchïo ynddo os ydych yn un o drigolion y dref - heb wybod o ble y daeth?

Yn ddiweddar, aeth rhai o aelodau Cymdeithas Hanes Llanrwst a'r Cylch ati i olrhain ymchwil a wnaed gan Mr Robert Jones, sy'n bwrw goleuni ar y dywediad ac yn egluro pam y bu i Gyngor Tref Llanrwst wneud cais am sedd i Lanrwst yn y Cenhedloedd Unedig yn 1946, gan ddweud bod gan y dref faner eisoes a pherson penodedig i eistedd ar banel yr aelodau yn Efrog Newydd.

Rhoddodd yr ymchwil hwn hwy ar ben ffordd hefyd ar sut i atgynhyrchu baner Llanrwst - rhywbeth arall y gall y trigolion ymfalchïo ynddo.

Cafodd Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Gymdeithas gadarnhad o'r cais a wnaed mewn llythyr oddi wrth Lysgennad Prydain i'r Cenhedloedd Unedig, Syr Jeremy Greenstock, sy'n nodi i'r Prif weinidog yn 1946, Clement Atlee, ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cyffredinol ar y funud olaf, fel petai, yn dweud y dylai Llanrwst ddod o dan ymbarél Prydain, ac nid sefyll ar ei phen ei hun!

Dyma grynodeb o ymchwil manwl Mr Robert Jones:

Mae gan Lanrwst [neu Lanerost, Lanwrwst neu Llanroost] le unigryw yn hanes dinasyddol Cymru.

Sefydlwyd y dref gan Grwst ap Gwaith Hengaer tua 540OC ac erbyn 1276 roedd aneddiad sylweddol wedi tyfu o amgylch yr eglwys, a sefydlwyd gan Rhun ap Nefydd Hardd. Yr adeg hynny, ymddengys bod y dref yn dod o dan reolaeth Esgob Llanelwy yn hytrach na Thŷ Gwynedd nac arglwyddiaeth Normanaidd Dinbych.

Yn 1276, cipiodd Llywelyn ap Gruffydd, Tywysog Cymru, Blwyf Llanrwst, gan gyhoeddi annibyniaeth y plwyf oddi wrth yr Esgobaeth a chyhoeddi mai ei Fwrdeistref Rydd Gymreig ef oedd Llanrwst. Er i'r Archesgob fynd mor bell â cheisio cymorth y Pab i wyrdroi hyn, parhaodd y sefyllfa am flynyddoedd, gyda Llywelyn yn pledio ei gysylltiad teuluol agos â'r dref fel rheswm dros ddiogelu'r aneddiad.

[Roedd Maelgwn Gwynedd wedi rhoi Siarter Frenhinol i Grwst, oedd yn ddisgynnydd i'r Brenin Coel Hen Codebog a'r Brenin Urien Rheged. Yn dilyn Brwydr Llanrwst yn 954OC a threchu Ty'r Deheubarth, roedd Gwynedd yn tra-arglwyddiaethu ar Gymru, ac fe godwyd eglwys newydd wedi ei chysegru i Grwst fel iawn am ladd y Tywysog Idwal, mab Owain Gwynedd.

Roedd cyswllt agos, felly, rhwng Llanrwst â Thñ Gwynedd].

Ar ôl marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd yn 1282, methiant fu pob ymgais ar ran Esgobaeth Llanelwy i gael goruchafiaeth ar Lanrwst. Gyda chymorth mynachod Sistersaidd Abaty Aberconwy, mynnodd y dref gadw'r annibyniaeth fu'n perthyn iddi ers 29 mlynedd, gan rwygo i lawr unrhyw symbol oedd yn gysylltiedig â Llanelwy neu â Brenin Lloegr, Edward Plantagenet, a chyhoeddi, 'Cymru, Lloegr a Llanrwst!'

Creodd Edward nifer o Fwrdeistrefi Seisnig, megis Conwy, a bu Llanrwst yn bur llewyrchus gan na châi masnachwyr Cymreig fasnachu o fewn deng milltir i'r Bwrdeistrefi Seisnig hyn.

Yn 1350, ymddangosodd arfbais Bwrdeistref Rydd Llanrwst am y tro cyntaf yn ei ffurf sylfaenol gyda'r ddau Lew Coch a dau Lew Aur ar gefndiroedd croes, fel datblygiad o arwyddlun Tŷ Gwynedd. Yn y bôn, cyfeirio oedd at statws annibynnol Llanrwst, gan ei dangos fel caer olaf Llywelyn.

Yn dilyn dinistrio Llanrwst gan Harri'r IV yn ystod Gwrthryfel Glyndr, ac yna gan yr Iorciaid a Syr William Herbert, Iarll Penfro, gwnaeth Llanrwst ymdrech i ail-arddel ei statws fel Bwrdeistref Rydd. Ailadeiladwyd yr Eglwys yn 1470 ac fe honnir bod arfbais y dref a'r arwyddair 'Cymru, Lloegr a Llanrwst' ar ei ffenestr newydd.

Yn 1636, ychwanegodd Syr Richard Wynne lun y bont newydd at arfbais y dref fel symbol o bwysigrwydd y dref fel man croesi pwysig.

Mae'r arfbais a welir heddiw yn dyddio o oes Siarl yr 2il, ac yn cynnwys dwy arfbais Gwynedd a chroesau Sant Siôr a Dewi Sant.

Mae'r oen pasgedig - sef symbol Ysbyty Marchogion Sant Ioan o Jerwsalem yn Ysbyty Ifan ar un adeg - uwchben yr arfbais, yn cynrychioli'r cysylltiadau agos â'r fan honno.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, parhawyd i arddel annibyniaeth Llanrwst, ond ar lefel symbolaidd yn unig a chan gydnabod ei safle o fewn fframwaith y Deyrnas Unedig.

Yn ystod ymweliad arweinwyr Ymerodrol yn 1897, yn dilyn Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Fictoria, gwelwyd yr hen arfbais unwaith eto. Dywed Mr Robert Jones iddo weld llun o Brif Weinidog Canada, Syr Wilfrid Laurier, yn annerch torf o flaen Neuadd y Dref, a bod amryw o faneri Llanrwst yn chwifio. Gwelwyd y faner hefyd mewn lluniau o orymdaith Dydd Gyl Fai 1906.

Ond yn fwy diddorol fyth, mae Mr Robert Jones yn dweud iddo ddod o hyd i focs yn nhŵr cloc yr ysgol yn cynnwys hen faner Llanrwst a honno'n fudr a phydredig. Ar y bocs gellid gweld arysgrif yn dweud iddo gael ei gyflwyno gan Gymdeithas Hynafiaethau a Hanes Nantconwy ar achlysur dathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Fictoria. Dangosodd ymchwil Mr Jones i'r faner hon gael ei defnyddio yn seremoni agor Ysgol Heol Watling yn 1897.

Dywed Mr Robert Jones fod enghraifft arall o'r faner i'w gweld yn Swyddfa'r Heddlu ar Ffordd Tan yr Ysgol. Arferai arfbais Llanrwst fod uwchben mainc yr ynadon - ond paentiwyd yr Arfbais Frenhinol drosti. Arferai dwy golofn sefyll o bopty'r arfbais gyda phedair baner - dwy faner Llanrwst, baner Jac yr Undeb a'r Ddraig Goch.

Gallai hen drigolion Llanrwst adnabod yr arfbais, a sonient am ei gweld ar sawl adeilad gan gynnwys Neuadd y Dref, Eglwys Sant Grwst, Eglwys y Santes Fair, Capel Seion, Fferm Cae Melwr a'r Elusendai.

Yn anffodus, ni yr neb beth ddigwyddodd i'r creiriau y daeth Mr Robert Jones o hyd iddynt, ond mae digon o dystiolaeth o fodolaeth y faner ac mae, ynghyd ag arfbais y dref, yn rhan bwysig o'i hanes ac yn cadarnhau statws y plwyf hynafol fel Bwrdeistref Rydd Gymreig Llywelyn ap Gruffydd, tref oedd yn falch o allu datgan yn heriol - 'Cymru, Lloegr a Llanrwst!'


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy