BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Angharad Tomos (Llun: Martin Roberts) Wil Wrth y Wal
Ail-feddiannu'r Faenol
Enw drama blant Eisteddfod Eryri a'r Cylch 2005 oedd Wil Wrth y Wal a ysgrifenwyd gan Angharad Thomas gyda'r gerddoriaeth gan Gai Toms.
Cwmni'r Frân Wen oedd â'r dasg o roi trefn ar y 250 o blant lleol rhwng 9 ac 11 mlwydd oed oedd yn cymryd rhan - 70 o brif gymeriadau yn ogystal â chorws a dawnswyr gyda rhai o blant ysgol eraill y cylch wedi bod yn helpu i greu'r set a'r props.

Cafodd y ddrama ei pherfformio ar nos Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod. Angharad Tomos sy'n egluro sut aeth hi ati i 'sgwennu'r stori.

"Mi ges i sawl dewis o beth i 'sgwennu amdano ar gyfer drama'r plant i Eisteddfod 2005 gan Gwmni'r Fran Wen. Ond o'r rhain, hanes y Faenol oedd y gorau.

"Mae'r stori yn cychwyn efo Wil yn disgwyl am fws ger wal y Faenol yn yr oes yma. Mae'n dechrau meddwl beth fyddai'r hanesion fyddai'r wal yn eu hadrodd pe bai'n gallu siarad. Felly 'dwi'n portreadu hanes Stâd y Faenol o'r 16fed ganrif ymlaen.

"Gai Toms sydd wedi 'sgwennu'r caneuon ar gyfer y ddrama gerdd. Dim ond unwaith dwi wedi cwrdd ag o i drafod Wil wrth y Wal - mi orffennais y sgript cyn y Nadolig. Y cwmni sy'n castio'r plant - yr unig orchymyn oedd i mi greu digon o gymeriadau, gan fod dros 200 o blant yn cymryd rhan. Hefyd, gan fod yn rhaid iddyn nhw ymarfer ar wahân, dwi wedi rhannu lot o'r hyn sydd yn digwydd rhwng set y chwarelwyr a set y pobl sy'n gweithio ar y cei, yn allforio'r llechi dros môr.

Neuadd y Faenol"Roedd o hefyd yn bwysig cael cydbwysedd rhwng y bechgyn a'r merched. Gan fod y chwarelwyr i gyd yn fechgyn mi greais olygfa gyda gwragedd y gweithwyr yn golchi dillad.

"Wil ydy'r hoelen ar gyfer y gwaith, mae'n mynd a dod mewn gwahanol gyfnodau trwy gydol y ddrama.

"Mi es i'r archifdy yng Nghaernarfon i ymchwilio i hanes y Faenol. Doedd na ddim diffyg straeon ac roedd yn rhaid i mi ddewis a dethol cyfnodau gwahanol dros y 300 mlynedd.

"Roedd digon o straeon am deulu'r Faenol, yr Assheton Smiths. Roedden nhw mor gyfoethog fel nad oedden nhw'n gwybod beth i'w wneud efo'r holl arian. Roedd ganddyn nhw lyn a chwch ar y stâd, ac anifeiliaid oedd yn gwneud campau. Felly mae'n ddramatig i ddangos y gwrthdaro rhwng y boneddigion a'r bobl leol oedd yn gorfod dioddef i gynnal eu safon o fyw.

"Dwi'n synnu nad oes neb wedi gwneud ffilm am y chwarelwyr a'r deinamics rhyngddyn nhw a'r teulu mawr. Mae safle'r Faenol mor ddramatig ar lannau'r Fenai, a'r teulu oedd biau Portdinorwig hefyd. Doedd yna fyth middle man - y teulu oedd yn rhedeg y chwareli ac yn trwsio'r trenau oedd yn mynd i'w cei nhw. Roedden nhw'n hollol hunan-gynhaliol.

"Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod teuluoedd fel yr Assheton Smiths wedi cau'r tiroedd comin a gwneud i'r bobl oedd yn byw yno dalu rhent iddynt. Wedyn, mi wnaethon nhw honni mai oherwydd mai nhw oedd berchen y tir, nhw hefyd oedd berchen y llech o dan y tir. Mae lot o rannau o Gymru yn dal yn nwylo pobl gyfoethog, er eu bod yn cuddio'r ffaith erbyn hyn.

"'Dwi erioed wedi bod y tu ôl i waliau'r Faenol felly dwi, fel Wil, yn chwilfrydig am beth sydd y tu ôl iddynt.

"Mi fydd yn ddiddorol gweld y ddrama wedi ei gorffen. Dwi'n reit falch mai 'sgwennu'r sgript oedd fy ngwaith i - bydd yn her i gael y plant i gyd i gydweithio am un noson. Ond dwi'n gobeithio eu bod wedi dysgu rhywfaint am hanes yr ardal.

"Doeddwn i ddim yn siŵr lle i ddod â'r stori ddiddorol yma i'w ben - gyda chyngherddau Bryn Terfel yn y Faenol neu gyda'r chwarel yn cau efallai. Ond mi ganfyddais bod na barti mawr wedi bod yn 1914 pan enillodd ceffyl o'r stâd y Grand National - a bod mam yr Archdderwydd nesaf, Selwyn Griffiths, wedi bod yn y parti yma pan oedd tua 14 mlwydd oed. Felly mae'n gorffen gyda'r Eisteddfod yn dod i'r Faenol yn 2005, a'r bobl yn ailfeddiannu'r tir."


Cyfrannwch

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy