BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Hen goron o Eisteddfod Môn Hanes Eisteddfod Môn
Penderfynwyd sefydlu Cymdeithas Eisteddfod Gadeiriol Môn yn dilyn llwyddiant Eisteddfod Llanrhuddlad 1906.
  • Cliciwch yma i weld rhai lluniau o arddangosfa'r canmlwyddiant
  • Prif dudalen yr Eisteddfod
  • Y nod oedd trefnu eisteddfod fyddai'n dod â holl gymunedau'r ynys at ei gilydd, gan symud i wahanol dref neu bentref bob blwyddyn, ac a fyddai'n 'drwyadl Gymreig' o ran cymeriad.

    Llun o seremoni gyhoeddi Bae Cemaes 1933 Ac felly y cynhaliwyd eisteddfod gyntaf y gymdeithas yng Nghaergybi yn 1907 gan ddechrau ar draddodiad mwy neu lai ddi-dor dros y blynyddoedd.

    Rhoddodd y Rhyfel Byd Cyntaf stop ar yr ŵyl oedd i fod i'w chynnal yn Rhosneigr yn 1915. Ond cafodd yr ŵyl adfywiad yn Llannerch-y-medd yn 1920 lle sefydlwyd Gorsedd Beirdd Ynys Môn am y tro cyntaf.

    Parhaodd yr eisteddfod drwy'r Ail Ryfel Byd ond penderfynodd y Gymdeithas drefnu chwech eisteddfod undydd yn Neuadd y Dref Llangefni rhwng 1940 i 1945 a chytunodd pawb oedd yn gysylltiedig â'r eisteddfodau gynnig eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim er mwyn ysgafnhau'r baich ariannol.

    Dathlodd yr eisteddfod ei jiwbilî yn 1957 a chyhoeddodd W.H. Rogers, dirprwy brifathro Ysgol y Sir, Caergybi, lyfryn o'r enw Hanes Sefydlu Eisteddfod a Gadeiriol Môn. Ynddo, mae'n dweud:

    Panel o arddangosfa Oriel Ynys Môn "Nid oes Sir arall, hyd y gwyddom, a chanddi Eisteddfod a Chymdeithas a ddaliodd yn fyw a llewyrchus gyhyd. Beth sy'n cyfrif am ei llwyddiant? Nodwedd ddaearyddol yr ynys i raddau hwyrach; y mae hi'n gryno ac yn hawdd i'w thramwyo. Ond pwysicach o lawer na hynny yw ysbryd ffeind a haelionus ei thrigolion a'r gwerth a rônt ar ddiwylliant (nid yr uchelael) mewn cerddoriaeth, llên a chelfyddyd."

    Dros y blynyddoedd, bu rhai eisteddfodau yn fwy llwyddiannus nac eraill ond yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1974 rhoddwyd yr Eisteddfod ar dir ariannol cadarnach pan gafodd nawdd gan Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn, ar yr amod ei bod yn eisteddfod symudol sy'n cael ei gwahodd i wahanol ardaloedd o'r ynys.

    Mae patrwm yr Eisteddfod erbyn hyn yn ymdebygu i drefn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Gorsedd y Beirdd, seremonïau cadeirio a choroni, gŵyl ddrama a gŵyl offerynnol ac arddangosfa gelf a chrefft ynghlwm â hi.

    Cadair Môn 1923 Wrth baratoi at Eisteddfod y canmlwyddiant ym Modffordd 2007, dywedodd y Cynghorydd Derlwyn Hughes, deilydd portffolio dros yr Iaith Gymraeg y Cyngor: "Mae Eisteddfod Môn yn rhan hanfodol o ddiwylliant, treftadaeth a'r Iaith Gymraeg ar yr Ynys."

    "Mae cenedlaethau o Gymry ifanc o'n cymdeithasau wedi cymryd rhan yn yr wyl a mwynhau'n fawr dros y blynyddoedd.

    "Mae'r canmlwyddiant yn achlysur hanesyddol y dylid ei ddathlu, a roedd y Pwyllgor Gwaith yn falch o allu cefnogi'r paratoadau yma," meddai.

    Roedd cyngerdd ym mhafiliwn Sioe Môn fis Mai 2006 yn rhan o ddathliadau'r canmlwyddiant. Yn cymryd rhan roedd rhai o dalentau cerddorol amlycaf yr ynys: Sara Mai a'r Moniars, Elin Fflur a'r Band, Mojo, Rafters, Meinir Gwilym, 4 yn y Bar, Broc Môr, Môn Heli ac Unsain.

    Gyda diolch i arddangosfa Hanes yr Eisteddfod yn Ystod y Ganrif yn Oriel Môn am ran helaeth o'r hanes yma.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Theatr


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy