BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Mabwysiadu
Dyma Sally o Gaernarfon sy'n sôn am ei phrofiad hi a'i gŵr o fabwysiadu (rydym wedi newid yr enwau am resymau diogelwch).

"Roedd Andrea yn ddwy a hanner a'i chwaer Angharad yn 15 mis pan ddaru ni eu mabwysiadu. A dyna un o'r pethau gorau i ddigwydd i ni.

Nid oeddwn i a fy ngŵr yn gallu cael plant. Roeddem wedi bod yn briod am dros 11 mlynedd ac roedd gen bawb yn y teulu blant heblaw amdanom ni, ac roedd o fel bod rhywbeth ar goll.

Felly ddaru ni gychwyn meddwl am fabwysiadu. Mae'n bosib gwneud hynny trwy sawl asiantaeth ac mi wnes i ffonio sawl un ond Bernardos ddaeth yn ôl atom yn gyntaf.

Roedd pecyn mawr o wybodaeth am fabwysiadu gennym o fewn diwrnod, a ddaru ni dreulio'r penwythnos yn darllen trwyddo.

Ar ôl i ni drafod efo'r teulu, a phenderfynu mai dyma beth oeddem am ei wneud, y stepan nesaf oedd i rywun o Bernardos ddod draw a gwneud ymholiadau meddygol a heddlu. Yna, ddaru banel penderfynu ein bod yn cael mynd ar sesiwn hyfforddi am bedwar diwrnod. Roedd yn agoriad llygad wrth i ni ddysgu am blant oedd wedi cael eu cam-drin a'u curo - digon i dorri'ch calon.

Ar y diwrnod olaf roedd yn amser i ni wneud penderfyniad pendant os 'roeddem dal yn barod i fabwysiadu. Gan ein bod yn awyddus, dechreuodd gweithiwr cymdeithasol o Bernardos dod i'n gweld pob wythnos am dri mis i sgwrsio efo ni - mynd trwy ein bywyd gyda chrib man a dweud y gwir.

Roedd o'n brofiad braidd yn nerfus i gychwyn ond ar ôl dod yn ffrindiau efo hi, roedd yn llawer haws sôn am ein gwaith, ein teuluoedd, ein cartref.

Ddaru nhw wedyn creu llyfryn amdanom ac ar ôl i ni ei arwyddo, penderfynodd panel o dros 12 o bobl ein bod yn cael mabwysiadu gyda Bernardos.

Ddaru ni ofyn am ddau o blant, mor ifanc â phosib ac o fewn naw mis i ni gychwyn y broses, daeth dwy chwaer fach i fyw efo ni.

Roeddent gyda'r gwasanaethau cymdeithasol gan nad oedd eu rhieni yn ffit i edrych ar eu holau. Roedd o wedi bod yn ofnadwy iddynt, yn enwedig yr hynaf.

Roedd yn rhaid iddynt gael eu mabwysiadu ym mhell o ddinas eu genedigaeth i sicrhau nad oedd neb yn gwybod lle roeddent wedi mynd i sicrhau eu diogelwch.

Roeddwn yn reit nerfus am y mis gyntaf, yn codi pob nos, trwy'r nos i sicrhau eu bod yn iawn. Ar ôl bod efo ni yn y tŷ am dair wythnos ddaru ni dechrau Andrea yn yr ysgol feithrin leol.

Er mai Saesneg oedd ei hiaith hi fel babi, roedd hi'n rhugl yn y Gymraeg o fewn tymor. Roedd yn hollol newid bywyd iddyn nhw ac i ni.

Ond chwe mis ar ôl iddynt ddod i fyw efo ni, ddaru eu mam mynd i'r cwrt i geisio cael gwarchodaeth ohonynt eto ac roedd yn amser ofnadwy i fi a fy ngŵr wrth ddisgwyl am y penderfyniad. Erbyn hynny, roedd y merched wedi setlo efo ni ac yn rhan o'r teulu, ond beth os fyse hi'n curo? Er iddi golli, cymerodd o dal tair blynedd i ni orffen y gwaith papur a mabwysiadu'r genod yn swyddogol - roedd hynny'n amser i ddathlu.

Roedd y fam dal i anfon cardiau pen-blwydd a ballu i'r genod ond ar ôl y flwyddyn gyntaf, gofynnais i hyn stopio.

Rwan, mae hi'n anfon nhw at swyddfa gwasanaethau cymdeithasol bydd yn eu cadw i'r genod eu gweld os maen nhw eisiau pan maen nhw'n hŷn.

Mae'r fam hefyd wedi gofyn i mi 'sgwennu llythyr pob blwyddyn ati, i ddweud sut mae'r genod. Dwi'n gwneud hyn pob Mehefin ac yn sôn eu bod yn gwneud yn dda yn yr ysgol, wedi dysgu nofio ac yn y blaen.

Roedd hi am i ni ddanfon lluniau ond nid oes rhaid i ni a ;dwi'n meddwl, er diogelwch y genod ei bod yn well peidio.

Maen nhw'n gwybod eu bod wedi eu mabwysiadu. Un diwrnod, pan roeddent yn rhyw chwech a phump, ddaru un cychwyn sôn am eu anti oedd yn disgwyl babi a gofyn ac roedden nhw wedi cicio yn fy mol i.

Wel, dywedais i nad oeddent wedi tyfu yn fy mol i a'u bod efo mam arall, ond doedd hi ddim yn gallu edrych ar eu holau ac felly gan eu bod yn ferched mor arbennig, daethant atom ni fel mam a dad newydd. Ac roeddent yn hapus efo hynny. Mi wnawn ni egluro pethau'n fwy manwl pan maen nhw'n hŷn.

Mae'r holl wybodaeth am eu teulu genedigol yn cael ei gadw ym mhencadlys Bernardos yn Llundain am gan mlynedd felly gallent fynd i ddarganfod popeth pan maen nhw wedi tyfu fyny. Ond ar hyn o bryd maen nhw'n hollol hapus gyda phopeth.

Rydym wedi cyfarfod teuluoedd eraill sydd wedi mabwysiadu gyda Bernardos hefyd. Mae wedi bod yn helpu mawr i'r genod gweld cwpwl sy'n ffrindiau efo ni nad oedd efo plant yn groeso tri o blant i'w teulu - ac felly deall fod o'n beth hollol arferol sy'n digwydd i rhai plant.

Mae mabwysiadu yn gallu bod yn brofiad hir a stressful - 'da chi'n colli eich preifatrwydd wrth rannu popeth am eich bywyd gyda'r gweithiwr cymdeithasol - ond mae hynny'n haws wrth i'r wythnosau fynd heibio.

Ac maen nhw dal i roi cymorth i chi ar ôl i'r plant ddod. Yn gyntaf, byddai ein gweithiwr ni yn dod pob wythnos, yna pob pythefnos, pob mis a phob ryw pedair mis nes i ni eu mabwysiadu'n gyfreithiol, ac roedd hi wastad ar ddiwedd y ffôn.

Ac mae o werth o. Mae ein bywyd ni wedi newid yn llwyr - 'da ni'n gwneud pethau nad oeddem erioed wedi breuddwydio gwneud, fel mynd i Disneyland Paris! Er roeddem yn briod am 11 mlynedd cyn i'r genod dod, mae'n anodd meddwl am fywyd hebddynt.

Mae lot o bobl yn dweud hefyd ein bod yn edrych fel teulu - mae Angharad, y 'fenga, yn edrych gymaint fel fy ngŵr. 'Da ni wir yn deulu hapus."



Papurau Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy