BBC HomeExplore the BBC

LLUN
28ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Milwyr Prydain yn paratoi i fynd i'r Falkland Creithiau'r Falkland
Chwarter canrif ers i Brydain anfon ei lluoedd arfog i amddiffyn ei thiriogaeth ar Ynysoedd y Falkland - neu'r Malfinas - yn Ne'r Iwerydd, mae rhai o gyn-aelodau'r Gwarchodlu Cymreig wedi bod yn siarad am eu profiadau.
Bu nifer o'r cyn-filwyr yn siarad am y tro cyntaf ar raglen Manylu ar BBC Radio Cymru am yr hyn ddigwyddodd iddyn nhw yn ystod y brwydro ffyrnig mewn rhyfel barodd ychydig dros ddeufis rhwng Ebrill a Mehefin 1982.

Mae'r atgofion yn dal yn fyw iawn yn y cof a'r profiadau wedi cael effaith ddofn ar eu bywydau ers hynny.

Siân Sutton, gohebydd BBC Radio Cymru, fu'n siarad â nhw:

Maldwyn Jones
Roedd Maldwyn Jones wedi bod gyda'r Gwarchodlu Cymreig am saith blynedd pan daeth yr alwad i fynd i ryfel ym 1982. Ymunodd â 3,000 o filwyr ar fwrdd llong bleser y QE2 yn Southampton ar gyfer siwrne wyth mil o filltiroedd i Dde'r Iwerydd.

Roedd ar fwrdd y Sir Galahad wrth angor yn Port Pleasant, neu Bluff Cove, pan gafodd ei tharo gan fomiau awyrennau'r Ariannin. Mae'r hyn welodd ac a glywodd y diwrnod hwnnw wedi bod yn anodd iddo siarad amdano ers hynny.

Mae Maldwyn Jones erbyn hyn y blismon cymunedol ym Methesda ac yn aelod o fudiad SAMA - 'South Atlantic Medal Association' - sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i gyn-filwyr y Falklands.

Wil Howarth
Roedd Wil Howarth o Amlwch yn guardsman 23 oed ac ar fwrdd y Sir Galahad pan gafodd ei tharo gan awyrennau rhyfel yr Ariannin ar Fehefin 8, 1982.

Mae'n cofio'r dryswch a'r ofn ar fwrdd y llong wrth iddi losgi a chlywed llais Simon Weston, ymysg eraill, yn gweiddi.

Aeth nôl i'r Ynysoedd bedair blynedd yn ôl.

Clive Aspden
Roedd Clive Aspden yn 19 oed ac yn un o bump o fechgyn o ardal Blaenau Ffestiniog i fynd gyda'r Gwarchodlu Cymreig i'r Falklands.

Roedd eisoes wedi glanio ar y tir yn Fitzroy yn disgwyl gweddill y Gatrawd pan welodd yr awyrennau isel yn anelu am y Sir Galahad a Sir Tristram wrth angor yn Bluff Cove. Roedd yn gwybod yn reddfol fod ei ffrindiau a chydfilwyr wedi'u taro a'u hanafu. O'r 58 o bobl gafodd eu lladd ar y Sir Galahad y diwrnod hwnnw roedd 32 yn aelodau'r Gwarchodlu Cymreig.

Ond er waetha'r colledion aeth Clive Aspden a'i gydfilwyr ymlaen a'r frwydr i Port Stanley er mwyn rhyddhau'r Ynysoedd o ddwylo lluoedd yr Ariannin. Mae siarad am y tro cyntaf am ei brofiad yn boenus ac emosiynol iddo.

John Alun Hughes
Deunaw oed oedd John Alun Hughes hefyd o Flaenau Ffestiniog pan aeth i ryfel yn y Falklands. Ond cafodd ei brofiad effaith ddifrifol ar ei fywyd ers hynny. Ar ol cael ei godi mewn hofrennydd o fwrdd bad achub y Sir Galahad cafodd ei anfon yn syth adre ar fwrdd llong ysbyty. Ddeng mlynedd yn diweddarach cafodd wybod ei fod yn dioddef o anwylder PTSD - Post Traumatic Stress Disorder.

Mae'n mynnu bod deunaw oed yn rhy ifanc i fynd i ryfel a bod angen mwy o gefnogaeth ar filwyr heddiw yn Irac ac Afghanistan.

Yr Uwch Gapten Eirwyn Jones
Swyddog gweinyddol gyda'r Gwarchodlu Cymreig oedd Eirwyn Jones ym 1982. Ei gyfrifoldeb yn ystod rhyfel y Falklands oedd torri'r newyddion i deuluoedd y gogledd am golledion milwyr. Dyma brofiad anoddaf ei yrfa 35 mlynedd gyda'r gwarchodlu, meddai.

Ond ar ôl i'r brwydro ddod i ben cafodd Eirwyn Jones newyddion drwg ei hun. Roedd ei fab oedd yn rhingyll gyda'r Gwarchodlu wedi'i anafu'n ddifrifol mewn damwain Collodd ei ddwy goes wrth i daflegryn exocet daro grwp o 8 o aelodau'r gwarchodlu wrth iddyn nhw glirio'r maes awyr yn Port Stanley.

Ond mae gan yr Uwch Gapten farn bendant am sut y dylai milwyr gael eu cofio yn enwedig eleni bum mlynedd ar hugain ers y Falklands.

Yr Arglwydd Wyn Roberts o Gonwy
Roedd yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn is weinidog yn y Swyddfa Gymreig ac yn rhan o lywodraeth geidwadol y dydd. Roedd yn cefnogi penderfyniad y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, i anfon Tasglu Prydain i amddiffyn yr Ynysoedd a'u cipio nôl o ddwylo'r Ariannin.

Ond drwy ei ddyddiadur ar y pryd mae'n nodi bod dilyn hynt y brwydro a gwylio'r cyfan o bell ar deledu wedi cael effaith arno'n bersonol hefyd.

Cefndir

  • Ar Ebrill 2, 1982 daeth cadarnhad bod milwyr y Cadfridog Galtieri wedi goresgyn Ynysoedd y Falkland oedd wedi bod yn nwylo Prydain ers 1833. Margaret Thatcher gyda milwyr ar eu ffordd i ryfel
  • Ymateb y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, oedd anfon Tasglu a Llynges Prydain ar siwrne 8,000 o filltiroedd i Dde'r Iwerydd i'w hamddiffyn a'u cipio yn ôl.
  • Gadawodd y llongau cyntaf Brydain ar 5 Ebrill 1982 ac roedd llawer o Gymry yn eu plith yn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig.
  • Yn ystod y brwydro ffyrnig dros Ynysoedd y Falkland, bu farw dros 250 o filwyr Prydain a 650 o aelodau lluoedd yr Ariannin.
  • Os oes ganddoch chi stori bersonol neu sylw am yr eitem hon fe fydden ni'n falch o glywed ganddoch chi. Gallwch lenwi'r blwch isod neu anfon ebost at: gogleddorllewin@bbc.co.uk


    Papurau Bro
    Radio Cymru
    Lluniau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy