BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Beryl Stafford Williams Byd y nofelydd
Mae gyrfa Beryl Stafford Williams o Benmaenmawr fel awdures yn mynd o nerth i nerth - ond wnaeth hi ddim dechrau ysgrifennu o ddifri tan ar ôl ymddeol.

"Roeddwn yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, am gyfnod cyn mynd yn bennaeth yr adran Saesneg yn Ysgol Tryfan, Bangor. Roeddwn i'n dysgu llenyddiaeth ac yn hoff iawn ohono ond doeddwn i erioed wedi sgwennu llyfr cyn i mi ymddeol.

Felly ar ôl i'r plentyn olaf adael y nyth, roedd gen i ystafell sbâr - doeddwn i erioed wedi cael desg fy hun o'r blaen!

Mae'n bwysig iawn cael stafell i chi eich hun - gallu cau'r drws a chael llonydd i fwrw iddi. Mae'n anodd sgwennu weithiau pan mae rhywbeth wedi digwydd neu pan mae bywyd yn brysur, felly mae'n bwysig neilltuo rhai wythnosau i fynd ati o ddifri i sgwennu pennod neu ddau, hyd yn oed pan ddaw hi ddim.

Pan nad ydych chi'n siŵr lle i fynd nesaf mae'n rhaid i chi aros a pheidio gadael y gwaith. Dwi'n cofio'r nofelydd Martin Amis yn dweud: "When I get stuck, I stick it out". Roedd yn mynd i'r wal arno fo weithiauhefyd ond mae'n hanfodol aros nes mae rhywbeth wedi dwad. Does dim iws mynd i stwnsian rownd y tŷ - rhywbryd mi ddaw ryw frawddeg neu ddwy, yna paragraff fydd yn eich helpu chi i droi cornel.

Mae rhai pobl yn meddwl fod sgwennu nofel yn hawdd gan nad oes yna reolau - 'does dim rhaid dysgu rheolau cynghanedd fel sydd wrth gyfansoddi awdl! Ond mae'n waith anodd. Mae'n waith creadigol maith, un o'r hiraf fedrwch chi ei wneud. Rhaid i chi fod yn barod i ddisgyblu eich hun.

Mi ddechreuais ysgrifennu yn y Gymraeg yn gyntaf, ac ennill Gwobr Goffa Daniel Owen gyda fy llyfr Mellt Yn Taro yn 1995. Mae 'na fwy o fri am y wobr yma erbyn hyn, gyda'r orsedd yn bresennol yn y seremoni - mi ges i'r wobr yn y Babell Lên, ond rwy'n falch iawn ohoni.

Mae fy llyfrau i gyd yn wahanol. Mae Mellt yn Taro yn ddwy stori sy'n rhedeg yn gyfochrog. Mae merch fodern yn gwneud gwaith ymchwil i gymeriadau oedd yn byw 100 mlynedd ynghynt, ac yn gweld y tebygrwydd rhwng ei pherthynas hi a'i chariad a'r gŵr a'r wraig o'r gorffennol.

Yn Llanw a Thrai, mi gefais fy ysbrydoli gan y Fenai - dwi'n edrych allan drosti ar hyn o bryd. Mae llanw'r Fenai yn gymhleth iawn gan eu bod yn dod i mewn o'r ddau ben. Felly 'dwi wedi mynd ati i weu llanw a thrai y Fenai i mewn i fywyd y prif gymeriad.

Un o fy hoff awduron yw Virginia Woolf. Mi ddywedodd rhywun fod na rhywbeth digon tebyg rhwng ei llyfr, Mrs Galloway, a Llanw a Thrai gan fod y stori i gyd yn digwydd o fewn un diwrnod, er mod i'n mynd nôl a 'mlaen mewn amser hefyd.

Dwi'n hoff o awduron sy'n sôn am lefydd arbennig. Mae Kate Roberts yn dod o'r hen sir Gaernarfon fel fi a dwi'n hoff iawn o'r ffordd mae hi'n disgrifio'r wlad a bywyd yr ardal yma. Mae hi'n ddwys iawn, ond mae 'na hiwmor iddi hefyd.

Dwi hefyd yn hoff iawn o Thomas Hardy gan eich bod chi'n gallu gweld tirwedd Dorset yn glir yn ei nofelau. Dwi wedi ceisio sgwennu am dirwedd a gwlad yr ardal yma yn fy llyfrau, yn enwedig In The Dark - am Benmaenmawr, mynyddoedd Eryri ac ardal Ffestiniog.

Mae'n ddarlun o fywyd yn ystod yr Ail Rhyfel Byd yn yr ardal yma. Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn celfyddyd gain ac wrth fyw ym Mangor roeddwn yn ymwybodol o'r stori am luniau'r Galeri Celf Gwladol yn Llundain yn cael eu cadw'n ddiogel yng ngogledd Cymru yn ystod y rhyfel. Cawsant eu symud i Neuadd Prichard Jones, Castell y Penrhyn ac wedyn i ogofâu ym Manod.

Dwi'n gwybod diwedd y stori cyn cychwyn, ond dydw i byth yn mapio'r llyfr allan - dwi'n hoffi gweithio allan y canol wrth i mi fynd ymlaen.

Mae sgwennu yn anodd ond hefyd yn bleser, yn enwedig ar ôl y drafft cyntaf. Yr adeg honno - mae'n bosib gweld ffurf y stori, mae'r cymeriadau yn tyfu ac rydych yn dechrau cael boddhad o gyflawni'r gwaith.

Os ydych chi am fynd ati i 'sgwennu nofel, byddwch yn barod i fod yn ddisgybledig - am fisoedd neu hyd yn oed blynyddoedd o waith caled wrth i chi ddechrau ar daith hir. Efallai y byddai'n syniad cychwyn gyda straeon byr gan ei bod hi'n bosib llunio stori fer mewn 'chydig o wythnosau.

Ond mae sgwennu yn rhoi lot fawr o bleser i mi."



Papurau Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy