BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

GWENER
29ain Awst 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Un noson yng ngolau'r lleuad
Roedd Arthur Rowlands o Gaernarfon yn caru ei waith fel plismon, ond daeth gwallgofrwydd lleidr a'i yrfa i ben un nos o haf.

Arthur Rowlands Mae lot yn dweud wrtha'i, 'chi yw'r plismon dall'! Ond doeddwn i erioed yn blismon ar ôl i mi golli fy ngolwg.

Collais fy ngolwg ar yr ail o Awst 1961. Roeddwn yn gwnstabl yng Nghorris ar y pryd. Roeddem wedi gweld fod achosion o ddwyn a thorri mewn yn codi pob haf wrth i bobl ddod mewn i'r ardal o ganolbarth Lloegr ac yn cuddio allan yn y meysydd carafannau a ballu. Felly cefais fy anfon allan yn yr oriau man i gadw golwg ar bethau. Eisteddwn yn fy nghar ger Bont ar Ddyfi, jest cyn Machynlleth, ar y ffin rhwng Sir Gaernarfon a Threfaldwyn, yn cadw llygad ar bwy oedd o gwmpas adeg yna o'r nos.

Y noson yna, daeth plismon o Fachynlleth i fy helpu. Roeddwn i jest yn cerdded efo fo dros y bont, ar fin mynd adref, pan ddaru ni glywed sŵn wrth y rhes o dai ger y bont. Roedd golau'r lleuad fel golau'r dydd, a gwelais yn glir ger talcen y tŷ, oedd wedi ei wyngalchu, boi mewn dillad tywyll ar gefn beic.

Mi neidiodd ar ei feic a mynd am y goedwig, a ni ar ei ol o. Ond mi ddaru ni ei golli o. Wrth fynd yn ol i fy nghar, welais i'r beic eto, yn gorwedd ger wal y tai.

Y peth olaf welais erioed oedd y boi dieithr 'ma oedd yn gwisgo cap llwyd efo tasl melyn, cot du a gwn wrth ei ochr, oedd yn pwyntio ataf i.

Ddaru o sgrechian mewn llais uchel, 'Yous shouldn't have come, I'm going to kill you'. Nes i feddwl efallai y gallwn ei daro fo yn erbyn y wal a chipio'r gwn, ond mi gododd o'r gwn a fy saethu yn fy wyneb.

A dyna fy niwedd i fel heddwas. Dwi ddim yn cofio rhyw lawer wedyn, dim ond bod o'n teimlo fel bod tap wedi agor yn fy ngheg a fy llygaid, wrth i'r gwaed lifo o'r anafiadau.

Dysgais wedyn bod fy nghyfaill o Fachynlleth a'r postmon yn un o'r tai teras wedi dod o hyd i mi a galw'r nyrs o lawr y lon. Es i'n syth i ysbyty Aberystwyth a daeth fy ngwraig i'm gweld i ganol nos. Dwi'n cofio clywed ei llais hi, er nad oeddwn yn gallu gweld ei hwyneb hi byth eto.

Daeth plismyn i fyny o Scotland Yard i drefnu man hunt am y boi. Ddaru soldiwrs o'r gwersyll ger llaw chwilio'r goedwig ond plismon lleol ddaru ddod o hyd iddo. Roedd o wedi torri mewn i rywle a chafodd ei ddal yn pluo ciw iâr ger yr afon. Mi ddaru o danio ei wn sawl gwaith ac anafu un o'r cŵn heddlu cyn iddo gael ei ddal.

Cafodd ei ddedfrydu i 30 mlynedd yn Broadmoor. Dywedodd y barnwr i mi wedyn mai dyna'r mwyaf allai roi iddo, ond na fyddai byth yn dod allan. Roedd yn wallgof, a dyle fo byth wedi bod allan yn y gymuned.

Mae sawl un wedi gofyn ydw i'n teimlo'n chwerw tuag at. Mi oeddwn i ar y cychwyn. Roedd o wedi gwneud gymaint o niwed i fi a fy nheulu bach. Roedd bod yn blismon yn rhan bwysig iawn o fy mywyd, a dyna ddiwedd ar yr yrfa, a finnau jest yn 39.

Ond roedd fy ngwraig yn ardderchog. Dwi'n cofio hi'n dweud wrtha'i i beidio â phoeni, bysai hi'n gallu mynd yn ol i fod yn athrawes, byddai popeth yn iawn. Ddaru hi ddim yn y diwedd. Roedd hi'n ymwybodol fy mod i'n benderfynol o fynd yn ôl i'r gwaith.

Es i goleg i'r dall yn Llundain i ddysgu sgiliau, gan gynnwys sut i fod yn deleffonydd. Roedd yn rhaid i mi ddysgu 300 o rifau ar fy nghof - mi wnes i lwyddo dysgu 450! Mi wnes i ddysgu Braille i helpu efo fy ngwaith, a dwi'n difaru nes i ddim cadw o fyny'n well erbyn hyn.

Wnes i byth fyw ym Meirionydd ar ôl y saethu. Ddaru ni orfod symud i Gaernarfon, ac mi wnes i weithio fel teleffonydd ym mhencadlys Heddlu Sir Gaernarfon. Dwi'n cofio'r chief yn dod draw, yn ysgwyd llaw efo fi ac yn dweud, 'you can never keep a good man down'. Dwi wedi cofio hynny erioed.

Mi ddysgais i sut i weithio gyda chi i'r deillion. Dwi wedi cael sawl un dros y blynyddoedd ac maen nhw wedi gwneud byd o wahaniaeth i mi.

Gan fy mod i wedi gallu gweld am mor hir, dwi yn cofio beth mae'r ardal yma yn edrych fel. Os mae rhywun yn egluro ym mhle ydw i, wrth fynd am dro er enghraifft, dwi'n gallu defnyddio fy nychymyg i feddwl sut y mae'r anifeiliaid a'r planhigion yn edrych.

Mae hyn yn dra gwahanol i rywun sydd erioed wedi gallu gweld. Dwi'n cofio ceisio egluro i rywun oedd wedi bod yn ddall ers ei enedigaeth beth yw'r gwahaniaeth rhwng oren a choch wrth sôn am dân. Ond sut ydych am wneud hyn, os nad oes gennych ddealltwriaeth o beth yw lliw?

Mae fy nghlyw yn wych, hefyd. Dwi'n hoffi bod allan yn y wlad a gwrando allan am adar dwi'n cofio o fy mhlentyndod yn Y Bala. Mae gan yr aderyn du a'r fronfraith gân hynod o swynol.



Papurau Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy