BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SADWRN
19eg Ebrill 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Milgi Palu clwyddau
Mae hen draddodiad yng Nghymru o ddweud celwydd golau - ac aeth Lloyd Jones ar drywydd y rhai sydd wrthi'n palu nhw hyd heddiw!

Shaggy dog story neu tall story yw'r termau Saesneg am y tynnu coes a fu ar lawer i greadur diniwed dros y blynyddoedd.

Mae'r cylchgrawn Llafar Gwlad wedi hel llawer o'r rhain, llawer ohonynt am gŵn!

Roedd Jac Zachariah (Jac Sac) o Lanrwst yn berchen ar glamp o filgi brych, yn ôl un chwedl, ac fe âi Jac â'r ci efo fo i swyddfa'r dôl i nôl ei bres; ond un diwrnod aeth â chi bychan bach i'r swyddfa oherwydd ei fod yn derbyn cil dwrn am fynd â fo am dro. Sylwodd y swyddogion, ond roedd ateb Jac yn chwim - roedd coesau'r ci wedi gwisgo allan tra'n ei ddilyn o le i le yn ymofyn gwaith.

Mae sawl stori arall am filgwn. Dyma un fersiwn:
Unwaith roedd dyn a chanddo filgi chwim, y gorau'n y fro ar ddal sgwarnog. Gymaint oedd colled y perchennog wedi marw'r anifael, gwnaeth wasgod allan o'i groen.

Flynyddoedd wedyn, tra'n cerdded mewn cae, codwyd sgwarnog gan y dyn hwnnw - ac heb rybudd dyma'r wasgod yn rhigo'i hun o'i gefn ac yn gwibio ar ôl y sgwarnog.

Dyma fersiwn arall o'r stori, o'r llyfr Y Sipsiwn Cymreig gan Eldra ac AOH Jarman:
Yr oedd Happy a'i gi yn mynd am dro pan welodd y ci ddwy ysgyfarnog yn y cae gwair. Rhedodd ar eu hol a thorrwyd ef yn ddau hanner gan bladur. Daliodd dau hanner y ci y ddwy ysgyfarnog a'u dwyn at Happy...

Mae cannoedd o storïau fel hyn, y rhan fwyaf ohonynt yn delio efo'r tywydd neu gwledydd pell, neu drybini ar y môr, neu hynt y frân wen.

Weithiau rhywbeth anghygoel o fawr yw'r testun. Fel taten. Mae stori am forwr Ianci yn dweud wrth lanc o Ben Llŷn fod ei long ef yn America mor fawr yr oedd rhaid i'r capten fynd o'i hamgylch mewn car; atebodd y Cymro fod ei long ef mor fawr yr oedd rhaid i'r cogydd ddefnyddio sybmarîn i brofi'r tatws pan oedd o'n gwneud lob scows.

Dyma stori arall cyffelyb: pan oedd ffermwr yn codi tatws yn America (lle roedd popeth yn fwy ac yn well) roedd y cnwd mor anferthol bu rhaid gadael rhai o'r tatws mwyaf yn y ddaear - yn wir, cymaint oedd maint un ohonynt fel y codwyd siop chips wrth ei hochr a bu'r ffermwr yn gwerthu sglodion ohonni am fisoedd.

Roedd Cofi Dre yn dangos Americanwr o amgylch Gwynedd un tro, ac wedi dechrau blino clywed am yr adeiladau mawr dros y dŵr, a chwimder y Iancs yn eu codi. Wedi cyrraedd yn ôl i'r dre dyma'r Ianc yn gweld Castell Caernarfon ac yn gofyn be oedd o.

'Dydw i ddim yn gwybod,' medd y Cofi, 'doedd o ddim yna bore 'ma.'

Brolwyd fod un gwesty yn America mor fawr yr oedd ugain dyn yn gwneud dim oll heblaw cymysgu mwstard efo rhawiau drwy'r dydd a'r nos i ddiwallu anghenion y gwestai.

Ymysg y storiau am bysgotwyr celwyddog, honai un 'sgotwr fod y pysgodyn a fachodd mor fawr yr oedd y llun yn unig yn pwyso dros triphwys!

Roedd llu o straeon am y tywydd. Dywedai un cymeriad fod y tywydd yn Alaska mor oer yr oedd geiriau yn rhewi'n gorn wrth adael ei geg - rhaid oedd eu dadmer mewn padell ffrio cyn cael unrhyw sens!

Dywedai un arall ei fod wedi deffro ym Mhegwn y De un bore gyda dwy belen fawr o iâ yn ei wely; wedi iddynt feirioli llenwid y cwt gydag arogl erchyll.
"Mae'n rhaid fy mod i wedi rhechan ddwywaith yn fy nghwsg," meddai'r celwyddwr digywilydd.

Casglwyd llu o'r storiau hyn yn Straeon Celwydd Golau gan Arthur Tomos, Gwasg Carreg Gwalch.

Hoffem glywed os oes gennych straeon teuluol o'r math yma - gyrrwch nhw aton ni drwy ebostio gogleddorllewin@bbc.co.uk neu llenwch y blwch isod.


Cyfrannwch

John Williams, Aberdaron
Mae un stori celwydd golau adnabyddus am eira mawr 82. Dywedodd cymeriad o'r fro a oedd yn gyrru lori ar y pryd fod yr eira wedi cyrraedd mor uchel nes ei fod wedi baglu ar bolyn teligraff pan aeth allan o'r lori. Hefyd ei fod wedi prynnu cerbyd oedd mor rhad ar ei betrol fel y bod mwy o betrol yn y tanc pan orfenodd y siwrnai o Aberdaron i Bwllheli na pan cychwynnai.

George Jones Llanfairfechan.
Rwyn cofio rl cymeriad or enw Wil Bach a fyddain bywn agos ir Virginia yn Llanfairfechan. Arferai Wil bicio ir dafarn am un botel fach o stowt bob gydar nos. Roedd ganddo storfa o straeon golau a dwyn cofio dwy.Tran sn am glociau un diwrnod dywedodd bod ganddo fo gloc wyth niwrnod yn y ty, ac yr oedd mor eithafol o hen yr oedd cysgod y pendil wedi gwisgor pren i ffwrdd yn gyfan gwbl oi gefn, fel nad oedd dim ar l ond twll mawr a coeliwyd ef yn llwyr gan y dafarnwraig.
Dywedodd wrthym un diwrnod ei fod wedi prynu binocwlar newydd sbon, a hwnnw wedi costio ffortiwn. Roedd o wedi edrych drywddyn nhw ar Garreg Fawr, y bryn uwchben y pentref, ac wedi gweld dyn yn cerdded ir copa.Wyddoch chi be, meddai Wil wrth ei wrandawyr astud, mae nhw mor gryf mi welais y dyn na yn newid ei feddwl.Roedd na gymeriad arall yn Llanfairfechan or enw Bob Gas, ac mi roedd ganddo fo lyfr tew o straeon yn ei ben. Ydym ni wedi gweld diwedd y cymeriadau ma yng Nghymru?


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Papurau Bro
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy