BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dolgellau
Yma i Chi
Mawrth 9 - 30, 2008
Dolgellau oedd y lle diweddaraf i gael budd o gydweithrediad cymunedol gyda BBC Cymru gyda'r prosiect Yma i Chi! ym mis Mawrth 2008. Un o uchafbwyntiau'r ymgyrch oedd y diwrnod agored yng Nghanolfan Hamdden Glan Wnion ddydd Sul, 16 Mawrth 2008 lle heidiodd cannoedd o bobl leol i weld beth oedd gan y BBC i'w gynnig.
Ian Gwyn Hughes
Ian Gwyn Hughes yn dysgu'r grefft o sylwebu ar gêm bêl- droed i ddwy ifanc. next page
1  2  3  4  5  6  7  8  9  10  11  12  13  14  15  16 
17  18  19  20 

Roedd cyfle i bobl droi eu llaw at ddarllen y newyddion, sylwebu, gweld Tardis Doctor Who a chwrdd â rhai o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd BBC Cymru gan gynnwys Iolo Williams, Lisa Gwilym a Jonsi ac ymweld â gwahanol stondinau gwasanaethau'r BBC a'n partneriaid lleol.

Ynglŷn ag Yma i Chi!

Roedd prosiect Yma i Chi yn para pedair wythnos ac yn rhoi Dolgellau dan chwyddwydr y cyfryngau drwy gydol mis Mawrth ac yn rhoi gyfle i dîm y wefan gasglu cyfoeth o wybodaeth ar gyfer ein tudalennau ar gyfer Dolgellau.

Roedd yn cynnwys holl wasanaethau BBC Cymru - teledu, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ac ar-lein - gan roi sylw i bopeth o newyddion, celfyddydau ac addysg i ddrama, cerddoriaeth a chwaraeon.

Ond y gwahaniaeth oedd mai'r bobl sy'n byw yn yr ardal oedd yn arwain y prosiect. Gwahoddwyd pbl leol i ddod yn rhan o'r gwaith drwy gyfrannu at raglenni, datblygu syniadau sy'n bwysig iddyn nhw ac ysgrifennu ar gyfer gwefannau'r BBC.

Roedd cael pobl leol i gymryd rhan yn allweddol i lwyddiant y prosiect a bu criw ymgynghorol o bobl leol yn brysur yn creu syniadau ar gyfer darllediadau BBC Cymru o'r ardal.

Darlledwyd llawer o raglenni teledu a radio o'r dref, ac am y dref, yn ystod yr ymgyrch ac ehangwyd ein tudalennau am Ddolgellau ar y wefan hon gyda chyfraniadau gan bobl y cylch - felly diolch i chi gyd!

Fe allwch chi gael gafael at dîm Yma i Chi BBC Cymru drwy ebostio ymaichi@bbc.co.uk neu ffonio 08703 500 700.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy