BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dolgellau
Yr arboretum yng Nghoed y Brenin Dewch am dro
Dewch am daith o amgylch Llanfachreth a Brithdir yng nghwmni warden y Parc Cenedlaethol, Rhys Gwynn.

Rydym wedi agor taith gerdded, sy'n cynnwys rhan o lwybr Cynwch ei hun, yn mynd o Ddolgellau i Lanfachreth.

Bydd yn cychwyn ym maes parcio Saithgroesffordd, rhwng Dolgellau a Llanfachreth. Yn gyntaf, bydd yn mynd i lawr tuag at hen weithfeydd copr y Glasdir. Er mai rhyw weithfeydd bach yng nghefn gwlad Meirionydd oeddent, mi ddaru nhw weddnewid cloddio am gopr dros y byd. Mi ddaeth dau frawd, yr Elmores, a gweithio rhyw sustem o gyfuno'r garreg, ar ôl ei malu, gydag olew; byddai'r olew yn glynu at y copr, ac felly'n creu ffordd llawer mwy effeithiol o ddod o hyd iddo. Lledaenodd y dechneg yma dros y byd.

Mae yna hen hanes i weithfeydd copr yng Nghoed y Brenin hefyd. Roedd yna gymaint o gopr wedi treiddio i mewn i'r mawn, fel y byddent yn ei losgi i gael y llwch a'i gario'r holl ffordd i lawr i Abertawe. Mae hwnna'n dipyn o daith, felly mae'n rhaid bod yna ddigon o werth yn y copr i gyfiawnhau'r gost o'i gludo.

Mae'r daith wedyn yn mynd trwy ardd goedwig y Comisiwn Coedwigaeth - yr arboretum - prydferth iawn, llawn coed newydd.

Yna, i lawr am bentref Llanfachreth, a chodi ar hyd y topiau. Nid yw'r daith yn mynd mor uchel â'r Rhobell Fawr, jest ar hyd ei godrau gyda'r golygfeydd bendigedig i lawr dros yr Aran a'r Fawddach. Yna i lawr trwy Ffridd Carmel ac yn ôl ar hyd y ffordd am Lanfachreth, heibio coed pîn Corsica anferth o fawr. Maen nhw yn y llyfrau record am fod mor fawr - dim gymaint y taldra, ond eu trwch rownd y bôn.

Wedyn, yn ôl ar hyd hen ffyrdd y stâd i'r maes parcio. Mae'n daith o ryw naw milltir - eithaf hir ond heb lawer o ddringo.

Pont Llam yr Ewig, Brithdir Cyn bo hir, mi fydd yna daith arall o amgylch Brithdir sy'n dilyn y llwybr ar hyd Afon Clywedog. Bydd yn cychwyn yn yr arosfa gyferbyn ag ysgol gynradd Brithdir. Taith sy'n hollol wahanol i Lanfachreth. Gyda'r daith i Lanfachreth, cewch olygfeydd eang allan dros y wlad ond mae llwybr Clywedog mewn ceunant, ac felly cewch naws hollol wahanol.

  • Dilynwch daith y Crynwyr

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Eisteddfodau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy