BBC HomeExplore the BBC

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dolgellau
Cerddwyr Dolgellau yn cerdded dros bont y Bermo Cerdded i ffitrwydd
Bob dydd Llun, mae criw o bensiynwyr o Ddolgellau yn dod at ei gilydd i ddal y bws o sgwâr Eldon i gornel fach newydd o'r wlad brydferth o'u cwmpas i fwynhau diwrnod o gerdded ac awyr iach.
Ers ei sefydlu yn haf 2007 mae Grŵp Cerdded Dolgellau wedi dod yn un o rai mwyaf llwyddiannus Gwynedd ar ôl cael ei sbarduno gan gynllun y Cyngor Chwaraeon, Let's Walk Cymru.

Mae tua 20 o deithiau hawdd ar eu rhaglen hyd yma - gan gynnwys tro o Abergwynant i'r George ac i lefydd fel Abaty Cymer a Choed y Brenin - oll yn llefydd y mae'r gwasanaeth bws lleol yn mynd heibio iddynt yn gyfleus.

Ar y bws Yn ôl Ann Jones, sy'n trefnu'r teithiau gyda'i gŵr, Gareth, mae'r aelodau wedi dod yn fwy ffit a bywiog ers dechrau cerdded a phrin yn sylwi eu bod yn cerdded mor bell - tua 3 neu 4 milltir fel arfer - gan eu bod yn sgwrsio ac yn mwynhau cwmni ei gilydd. Yr atyniad pennaf ydy bod allan ynghanol byd natur a chael cymdeithasu a mwynhau'r awyr iach, tra'n cadw'n ffit yr un pryd.

Mae croeso i bawb ymuno, er bod y rhan fwyaf dros 60 - ac felly'n gallu mynd ar y bws am ddim. Mae'r aelod hynaf yn 88 oed ac ymysg y rhai mwyaf egnïol yn y grŵp sydd yn aml yn cymryd yr awenau fel arweinydd y daith. Aelod arall yw gwraig ddall sy'n dod ar y teithiau gyda'i chi tywys. Ond fe hoffai Ann a Gareth weld aelodau ifanc yn ymuno, gan gynnwys mamau gyda'u coetsys babi.

Gareth ac Ann Jones ar un o'u teithiau Ers ymddeol ar ôl symud i Ddolgellau yn 1964 - Gareth fel rheolwr siop WHSmith ac Ann i redeg gwesty - mae'r ddau (yn y llun ar y dde) wedi mwynhau cadw'n ffit a cherdded. Eu hoff dro yw drwy Gwm Hafod Oer: dal y bws i ben Talyllyn yna dod yn ôl ar hyd y llwybr beics sy'n dod allan yng ngwesty Fron Oleu, ac yna yn ôl ar hyd y ffordd i'r dref.

Maent yn cyfarfod am 10am bob dydd Llun yng Nghanolfan Hamdden Glan Wnion cyn cychwyn ar eu taith. Os hoffai unrhyw un ymuno ar y teithiau neu gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Ann Jones ar 01341 422 615. Am ragor o wybodaeth am gynllun Let's Walk Cymru a chadw'n ffit , cysylltwch ag Emma Quaeck, Cydlynydd Adfeiriad Cardiaidd ac Ymarfer Cyngor Gwynedd, ar 01766 512711.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy