|
DIDDORDEBAU: Mae Liz yn hoff iawn o gadw ceffylau a chystadlu mewn adrannau dressage. Mae ganddi ddau geffyl ar hyn o bryd, Celt a Seren. YMDDANGOS YN: Rhaglen 6 Disgrifiwch eich swydd. 'Dwi'n gynghorydd dros Forfa Nefyn, Edern a Ceidio. Ein gwaith ni ydy ymdrechu i ganfod ac adlewyrchu barn y bobl. Roeddwn yn ffodus gyda'r etholiad fod 'na gynghorydd newydd arall mewn etholaeth ochr yn ochr â mi yn cychwyn yr un pryd felly rydyn ni'n gallu cymharu profiadau. Beth ydy'r peth gorau am eich swydd? Gweld, canfod a datrys problem. Y teimlad fy mod wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth ac wedi helpu unigolyn. Beth ydy'r peth gwaethaf am eich swydd? Trïo cadw cydbwysedd rhwng helpu pobl â materion cynllunio a pholisi - mae rhywun bron yn bownd o bechu, beth bynnag a ddaw. Un o'r gwersi dwi 'di eu dysgu ydy pa mor araf mae pethau'n mynd - mae'n bwysig peidio â cholli calon. Does dim modd newid y byd dros nos ac mae'n bwysig dyfalbarhau, er ei bod hefyd yn bwysig sicrhau fod pethau yn newid yn y diwedd. Ydych chi'n gwneud gwaith arall, yn ogystal â bod yn gynghorydd? Dwi'n rhedeg canolfan hyrwyddo addysg ddwyieithog mewn colegau addysg bellach. Mae'n swydd llawn amser ac mae'n anodd cael hyd i'r amser i wneud popeth ar hyn o bryd. Dwi'n canolbwyntio ar anghenion y boblogaeth yn hytrach na chreu pholisïau, er nad ydw i'n gallu colli gormod o bwyllgorau.
Sut brofiad oedd cael eich ffilmio yn y gwaith? Mae 'chydig bach yn rhyfedd ac mi roeddwn yn teimlo'n ymwybodol fod y camerâu yna. Ro'n i yn poeni am y bobl ro'n yn delio efo nhw ar ffilm gan eu bod wedi cael eu tynnu i mewn i'r sefyllfa. Ond mae'r rhaglen wedi bod yn ddefnyddiol iawn i godi proffeil ein hymgyrch i adeiladu llwybrau cerdded ar hyd lonydd peryglus - peth da iawn. Dwi'n gobeithio y bydd yn rhoi darlun o beth yw gwaith cynghorydd gan fod 'na ryw feddwl ein bod yn eistedd ar ein penolau, yn gwneud dim ond hawlio expenses! Fyddwch chi'n gwylio eich hun ar y teledu? Na fyddaf! Mae'n gas gen i weld fy hun ar y teledu! Fydd y teulu yn gwylio ac yn chwerthin am fy mhen dwi'n siŵr. Beth fyddai swydd eich breuddwydion? Job sy'n cymryd cyn lleied o amser â phosib am lot o arian!
 |