BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
29ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Svetlana Khorkina, gymnast Olympaidd Gymnasteg
Mae llawer mwy i gymnasteg na'r campau welwch chi yn y Gemau Olympaidd. Ai dyma'r chwaraeon i chi? Croeso i chi rannu straeon neu fanylion eich clwb chi efo ni.
Cliciwch yma i weld rhestr o glybiau gymnasteg yr ardal.

Pan fyddwch chi'n meddwl am gymnasteg, y campau welwch chi yn y Gemau Olympaidd sy'n dod i'r meddwl gyntaf - y bîm, y bariau asymetrig, y cylchoedd, y ceffyl a'r ymarferiadau llawr.

Ond mae Lynda Dodd o Glwb Gymnasteg y Moelwyn yn ein hatgoffa bod mwy o lawer iddi na hyn:

"Mae'r mathau poblogaidd eraill o gymnasteg sy'n cael eu dysgu yn y clybiau yn cynnwys chwaraeon acro, lle mae timau o ddau a thri yn dod at ei gilydd i ddangos eu sgiliau cydbwyso, taflu, tymblo a dal ei gilydd.

"Rydyn ni hefyd yn gwneud gymnasteg rhythmic, sy'n defnyddio rhubannau, cylchoedd, pêl a phastwn, trampolîn a thymblo.

"Mae dosbarthiadau cychwynnol yn costio tua £30 y tymor, tra bo dosbarthiadau lefel uwch yn costio tua £40 y tymor. Ond mae'r rhan fwyaf o ganolfannau hamdden sy'n cael eu cynnal gan y cynghorau yn cynnal dosbarthiadau i ddechreuwyr.

"Mae llawer o gystadlu rhwng clybiau gogledd Cymru ac mae'r enillwyr yn aml yn mynd ymlaen i bencampwriaethau Cymru ac wedyn, os ydyn nhw'n llwyddiannus, i bencampwriaethau Prydain. Mae llawer yn cystadlu yn yr Eisteddfod hefyd.

"Camp i blant oed ysgol ydy gymnasteg yn bennaf ac mae'r rhan fwyaf o glybiau neu ddosbarthiadau a gaiff eu cynnal gan y cyngor yn croesawu plant o tua chwe mlwydd oed ymlaen."

Fodd bynnag, meddai Lynda "rydyn ni'n cael rhai yn dod nôl i wneud gymnasteg ar ôl bod i'r brifysgol, ymhell i mewn i'w hugeiniau."

Meddai Elen Williams o glwb gymnasteg Ynys Môn:
"Mi fuaswn i'n annog pobl ifanc i fynd am wers i gael blas ar gymnasteg i weld os ydyn nhw'n ei fwynhau. Mae'n cymryd blynyddoedd i fod yn ddigon cryf a galluog i wneud y triciau welwch chi ar y teledu, ond mae'r sgiliau a'r ffitrwydd a gewch chi wrth ymarfer gymnasteg yn gallu bod yn help mawr i wneud chwaraeon eraill.

"Rydan ni fel clwb ar Ynys Môn wedi bod yn canolbwyntio ar gemau'r ynysoedd, gan fod Môn wedi rhoi cais i gynnal y gemau yma yn 2009.

"Mae Gemau yr Ynysoedd yn brofiad gwych, gyda phobl o Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel, Y Faros a mwy yn dod at ei gilydd mewn cyfeillgarwch ac i gystadlu. Mae'r Gemau Olympaidd wedi mynd mor broffesiynol erbyn hyn ac mae'n dda bod cyfle i gystadleuwyr amatur ddod at ei gilydd.

"Rhaid eich bod wedi cael eich geni ar yr ynys, neu wedi bod yn byw yma ers rhai blynyddoedd i gael cymryd rhan."



Ar y Marc
Natur
Straeon Digidol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy