Ddaru ni wneud yn dda eleni; dwi'n falch o'r tîm i gyd.
Mi gafodd Edward Roberts, Anthony White a Thomas Thomas aur fel tîm saethu'r dynion, ac mi gafodd Thomas efydd yn y gystadleuaeth unigol.
Daeth Dominic Breen-Turner yn ail yn nosbarth laser yr hwylio, gyda'i frawd Luke yn ail. Roedd yr enillydd yn aelod o dîm rhyngwladol Ffindir, er mae Dominic yn sicr y byddai'r brodyr wedi dal o fyny gydag un ras ychwanegol!
Un fedal annisgwyl oedd yr arian a gafodd Siwan Jones yn y llofnaid yn y gystadleuaeth gymnasteg. Gwych.
Ddaru ein tîm pêl-droed wneud yn reit dda; curo Gibraltar ond colli i Guernsey. Ddaru ni wedyn chwarae ynys Rhodes i weld pwy oedd am ddod yn 5ed neu 6ed, ond yn anffodus roedd yn gêm fudr iawn. Ddaru dau o'n chwaraewyr orfod gadael y cae ar stretsier ac roedd yn rhaid i un arall gael pum pwyth yn ei ben ar ôl cael ei daro gan benelin.
Dwi yn ymwybodol fod pêl-droed yn gêm lawn taclo caled, ond mae poeri yn wynebau fy chwaraewyr yn annerbyniol ac rydym wedi gwneud cwyn yn erbyn Rhodes. Nid dyma'r ffordd i ymddwyn.
Felly ddaru ni ddod adref efo sawl anaf, ond ddaru pawb fwynhau ar y cyfan. Ddaru'r nofiwr Claire Wilson gario ein fflag a Siwan Jones oedd yr un i arllwys dŵr o foroedd Ynys Môn i ffynnon yr ynysoedd yn y seremoni agoriadol.
Rydym yn edrych ymlaen at y gemau yn 2011 yn barod. Mi fyddent ar yr Isle of Wight tro yma felly mi fydd yn bosib i ni fynd a thîm mwy gan y bydd yn llawer rhatach i gael bysiau lawr a dal y cwch draw i'r ynys.
Mae Ynys Môn wedi cymryd rhan yng Ngemau'r Ynysoedd ers iddynt gychwyn yn 1985. Cafodd y gemau cyntaf eu cynnal ar Ynys Manaw. Maen nhw wastad yn dathlu rhywbeth, a 1985 oedd Blwyddyn y Chwaraeon, felly ddaru nhw benderfynu gwahodd ynysoedd eraill o Ewrop draw am dwrnament chwaraeon. Ddaru pymtheg ynys gymryd rhan, a gan ein bod i gyd wedi cael amser mor dda, ddaru nhw benderfynu cynnal gemau pob dwy flynedd a gwahodd gweddill y byd.
Y rhai sy'n dod bellaf yw'r rhai o Ynysoedd y Falklands, ond y chwaraewyr sy'n dod o Ynys Helena sydd wastad efo'r siwrne hiraf. Mae'n rhaid iddynt fynd ar gwch am wyth diwrnod, gan eu bod yng nghanol mor yr Iwerydd, cyn cyrraedd Capetown.
Ddaru ni ar Fôn wneud cais i gynnal y gemau yn '09, ond ddaru ni golli i Åland, ynys sy'n rhan o Ffindir, er ei bod yn agosach i Sweden. Mae'n rhaid i ni gael mwy o gefnogaeth gan y cyngor os yr ydym am lwyddo i ddenu'r gemau yma yn y dyfodol.
Dim ond tîm o 75 aeth eleni gan fod o mor ddrud i gyrraedd Åland - roedd yn rhaid i ni fynd ar awyren a chwch, ac mae Sgandinafia yn le costus iawn.
Roedd gennym ni dîm athletau, saethwyr, pêl-droed, golff, gymnasteg, nofio a hwylio. Eleni, roedd yn rhaid i ni hyfforddi pawb mewn ymwybyddiaeth o gyffuriau, gan eu bod wedi profi pawb y tro yma.
Mae'n anodd i ni ar Fôn gan nad oes gennym yr adnoddau yma. Mae'n rhaid i'r gymnastwyr dynnu'r holl offer allan o'r storau pob tro gan nad oes yna gampfa iddynt, fel y mae ym Mangor.
Ond mae timau Ynys Môn wedi gwella dros y blynyddoedd; ddaru ni gychwyn efo medal efydd, yna rhai arian ac yn y tair gêm ddiwethaf rydym wedi ennill sawl un aur.
Roeddwn i yn aelod o'r tîm pêl-droed ac mi es i'r gemau sawl gwaith, a wastad wedi mwynhau. Mae yna awyrgylch ffantastig, mae o fel Gemau Olympaidd bach! Mae yna seremonïau agor a chau ac yn lle torsh, cawn y seremoni ddŵr. Mae cynrychiolwyr o'r ynysoedd gwahanol i gyd yn dod a dŵr efo nhw, ac yn ei gymysgu o fewn ffynnon. Mae o wir yn wych cymryd rhan yn y gemau yma.
Rhai o dim Ynys Môn sy'n brysur hyfforddi ar gyfer y gemau yn 2009.