BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eric Jones Mynydda
Does dim llawer o bobl â mwy brofiad yn y byd mynydda nag Eric Jones o Dremadog a oedd yn rhan o'r ymgyrch gyntaf i ddringo Everest heb ocsigen. Dyma ei gyngor am ddringo yn y gogledd orllewin.

Beth yw eich arbenigedd?
Mynydda

Sut ddaru chi gychwyn?
Wel, mi wnes i gychwyn yn weddol hwyr yn fy mywyd, pan oeddwn yn 25. Roeddwn yn mynd i gerdded yn Eryri ac yn gweld pobl efo rhaffau yn dringo a phenderfynais y buaswn i'n hoffi gwneud hynny hefyd.

Pam oedd dringo yn apelio atoch chi?
Fy niddordeb cynnar oedd motobeics ond unwaith ddechreuais i fynydda a chael hwyl mawr ar wneud hynny, hwnna oedd y sbort i mi. Mae na lot o antur i'w gael allan yn yr awyr iach.

Ar ôl ryw dair mlynedd o ddringo yn Eryri, es i allan i'r Alpau a'r Dolomites yn yr Eidal. Mae'r mynyddoedd yn lot mwy fa'na wrth gwrs ond roedd dysgu dringo yn Eryri yn help mawr. Ar ôl cael mwy o brofiad, es i ymlaen i Chamonix yn Ffrainc ac Alpau'r Swistir.

Pa offer/dillad sydd ei angen arnoch chi?
Yr offer priodol - mae gofyn cael cyngor iawn trwy fynd i ysgol dringo i ddysgu sut i ddefnyddio'r offer yn iawn. Mae'n hawdd dweud "prynwch gwmpawd", ond dydi hynny'n dda i ddim os nad ydych chi'n gwybod sut i'w ddefnyddio fo. Mae'r ganolfan fynydda yng Nghapel Curig yn lle da i gychwyn.

Lle ydy eich hoff le i ddringo?
Lle dwi'n byw ers 25 mlynedd - Tremadog. Mae'n lle bendigedig i ddringo. Y lle agosaf at fy nghalon ydy Bwlch Lanberis. Er mai dyna lle wnes i gychwyn dwi'n dal i gael pleser mawr o fynd lawr yno i ddringo.

Beth ydy eich profiad mwyaf cofiadwy?
Yn nechrau'r 1970au es i allan i Batagonia i ddringo sawl gwaith, ac yna i'r Himalaya. Dwi wedi bod ar Everest ddwy waith. Y tro cyntaf yn 1978 ar ochr Nepal ar y cais cyntaf i ddringo'r mynydd heb ocsigen. Mi es i yn ôl yn 1995 i ddringo o ochr Tibet.

Mae dringo yn yr Himalaya yn dra gwahanol. Dydi'r corff ddim yn cael digon o ocsigen ac mae popeth yn digwydd yn arafach, ond dwi'n cael mwynhad mawr ohono.

Pwy ydy eich arwr chi?
Pan wnes i ddechrau, roeddwn i'n edmygu Walter Benetti o'r Eidal.

Oes gennych chi gyngor i'r rhai sydd am ddechrau dringo?
Mae'n bwysig iawn mynd i ysgol i gael hyfforddiant priodol. Mae dringo yn beth digon peryglus fel ma'i felly mae'n bwysig eich bod yn dysgu'r ffordd iawn i fod mor saff â phosibl.

Y ffordd orau o ymarfer dringo ydy dringo ei hun. Os ydy'r tywydd yn oer ac yn wlyb, mae 'na lot o waliau dringo dan do ar gael, er ei bod wastad yn well bod allan yn yr awyr agored. Mae dringo yn ffordd wych o gadw'n ffit ac i fod allan yn yr awyr iach.

Os ydych chi am roi tro arni, ewch i:
Yr Ysgol Genedlaethol yng Nghapel Curig neu mae 'na amrywiaeth o hyfforddwyr annibynnol o gwmpas hefyd. Mae'n bosib cael mwy o wybodaeth wrth fynd i www.thebmc.co.uk/



Ar y Marc
Natur
Straeon Digidol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy