BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cadair olwyn Chwaraeon i'r anabl
O boccia i bêl-droed, athletau i dennis, mae digon o ddewis yn Ynys Môn, Conwy a Gwynedd. Cofiwch rannu straeon a lluniau eich clybiau chi efo ni.

I ddod o hyd i'ch clwb agosaf ewch i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru (dolen ar y dde), a chliciwch ar y Cyfarwyddiadur Clybiau.

Ynys Môn
Dyma Karen Williams, Swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru ar Ynys Môn i sôn am be sy'n digwydd ar yr ynys.

"Rydyn ni'n cynnal sesiynau pêl-droed bob dydd Iau rhwng 5:00pm a 6:00pm yng Nghanolfan Hamdden Llangefni. Yn ddiweddar mae Clwb Pêl-droed Merched Llangefni wedi cymryd grŵp o bêl-droedwyr dan eu hadain, gan greu tîm pêl-droed Llewod Llangefni. Mae'r tîm yma'n agored i bobl o bob oed - fe ddechreuodd fel tîm ar gyfer pobl dros 15 oed ond erbyn hyn rydyn ni'n derbyn plant iau hefyd.

"Fe fyddwn ni'n dechrau prosiect nofio-am-ddim yn y sir ymhen ychydig fisoedd, gan roi cyfle i blant ac oedolion fynd i nofio.

"Rydyn ni hefyd yn gobeithio dechrau clwb codi pwysau yng Nghaergybi dan arweiniad Raymond Williams. Fe fydd hynny'n rywbeth gwahanol i'r hyn sydd gan y rhan fwyaf o siroedd eraill.

"Mae sesiynau trampolîn neu boccia ar gael yng Nghanolfan Hamdden Biwmares bob dydd Iau rhwng 2:00 - 3:30pm. Fe ellwch chi hefyd chwarae boccea yng Nghanolfan Mona ar ddydd Iau yn Llangefni a chyda Thyddyn Môn yng Nghanolfan Hamdden Amlwch ar ddyddiau Gwener.

"Rydyn ni'n gobeithio cychwyn clwb athletau i blant ac oedolion yn ystod yr haf, gyda chymorth Mencap a'r gwasanaethau cymdeithasol. Os ydy hyn yn llwyddo, fe fyddai'n beth gwych i Ynys Môn.

"Mae tair sir y gogledd orllewin - Gwynedd, Conwy a Môn - wedi dod at ei gilydd i gynnal sesiynau chwaraeon i bobl fyddar. Rydyn ni'n dod at ein gilydd yng Nghanolfan Hamdden Maes Glas ym Mangor bob wythnos. Newydd ddechrau mae'r trefniant yma ond gobeithio y bydd yn mynd o nerth i nerth."

Conwy
Ian Martin, Swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru, Conwy, sy'n dweud be' sydd ar gael yn yr ardal.

"Mae Clwb Pêl-droed Anabl Llandudno yn cyfarfod yn neuadd hamdden Ysgol John Bright bob dydd Mawrth. Mae'r clwb yn agored i blant â phob math o anabledd, er mai plant ag anableddau dysgu ydy'r rhan fwyaf.

"Mae Clwb Allsports Abergele hefyd yn cynnal sesiynau pêl-droed i bobl ifanc o dan 16 oed am 5:00pm bob dydd Mercher.

"Mae sesiynau tennis ar gyfer pobl ag anabledd corfforol ar gael yng nghanolfan tennis Parc Eirias, Bae Colwyn, bob dydd Sadwrn rhwng 12:00pm a 1:00pm gyda sesiynau tennis ar gyfer pobl ag anabledd dysgu bob dydd Iau rhwng 5:00pm a 6:00pm.

"Os oes arnoch chi awydd mynd i fowlio, cysylltwch â fi ar 01492 575575 i gael gwybodaeth am glwb bowlio Llandudno i bobl ag anawsterau gweld.

"Bob dydd Mercher rhwng 6:00pm a 7:00pm mae sesiynau badminton yng nghanolfan hamdden Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos.

"Rydw i'n gysylltiedig â Chymdeithas Cricedwyr Anabl Cymru, sy'n cynnal sesiynau rhwydi yn Rhiwabon yn ystod y gaeaf. Bydd y chwaraewyr gorau yn mynd ymlaen i chwarae dros Gymru yng nghynghrair y siroedd. Os oes gan unrhyw un o Gonwy ddiddordeb mewn sefydlu clwb criced yn yr ardal, cysylltwch â fi - byddai'n wych cael ymarfer criced rhywle yn agosach na Wrecsam.

"Mae Morfilod Conwy (Conwy Whales) yn cynnal sesiynau nofio ym mhwll Bae Colwyn bob dydd Sadwrn rhwng 6:00pm a 7:00pm. Wedi trafodaethau gyda rhieni plant sydd ag anableddau, penderfynodd Cyngor Sir Conwy beidio â chynnal dosbarthiadau i'r plant yma yn unigol, ond i helpu'r plant i gymryd rhan yn y dosbarthiadau sydd ar gael yn barod.

"Mae cynlluniau ar y gweill i gynnig cyfleusterau dringo ac athletau yng Nghonwy yn y dyfodol agos."

Gwynedd
Marcus Politis, Swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru yng Ngwynedd, sy'n sôn am gyfleusterau'r sir ac yn egluro rheolau'r gêm boblogaidd, boccia.

"Math o fowls ydy Boccia. Mae'r peli yn rhai meddal ac yn ysgafnach na'r arfer ac mae'n bosib defnyddio ramp i anelu'r bêl yn ogystal a'i thaflu. Mae tri pherson ym mhob tîm a diben y gêm yw ceisio taflu'r bêl mor agos i'r un gwyn â phosib.

"Mae'n bosib chwarae dan do, mewn neuadd tre neu ysgol, a thu allan efo'r peli hyfforddi newydd".

Clybiau

Clwb Boccia Porthmadog - Canolfan Hamdden y dref, 11:30 - 12:30
Clwb Boccia y Moelwyn - Blaenau Ffestiniog
Sally Morris - 01766 830899
Clwb Ni - Pwllheli
Eluned Jones - 01758

"Rydym ar hyn o bryd yn cynnal sesiynau blasu chwaraeon i bobl fyddar yng Nghanolfan Hamdden Maes Glas, Bangor bob nos Iau rhwng 6:00pm a 7:00pm.

"Mae sesiynau pêl-droed i bobl ifanc ag anableddau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Caernarfon bob nos Wener rhwng 5:00pm a 6:00pm.

"Yn ogystal â hyn, mae pyllau nofio Porthmadog, Pwllheli, Bangor, Arfon, Blaenau Ffestiniog a Thywyn yn cynnig sesiynau nofio am ddim bob wythnos.

"Mae cyfle i blant efo anableddau gymryd rhan mewn athletau gyda chlwb Menai Trac. Cysylltwch â christinerogers@tesco.net neu helenwalling@securetrading.com i drafod eu cyfleusterau.

"Mae clwb chwaraeon amrywiol yn Nolgellau sy'n cynnal sesiynau boccia, cyrlio, athletau a badminton yng nghanolfan hamdden y dre bob dydd Iau rhwng 1:30pm a 2:30pm - rhif ffôn: 01341 423579.

"Cysylltwch â fi ar 01758 704109 am ragor a fanylion am chwaraeon i bobl anabl yng Ngwynedd."



Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy