BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lantern Cystadleuaeth Cerddorion Newydd
Wedi i'r chwe band gystadlu yng nghystadleuaeth Gwobrau Talent y BBC ym Miwmares fel rhan o ymgyrch Yma i Chi (lluniau isod), penderfynodd y panel o feirniaid fod dau grŵp ar y brig.

Felly, bydd Lantern o ardal Conwy ag Evolve o Lanelwy yn cael y cyfle i recordio mewn stiwdio ar gyfer Radio 1, Radio Cymru neu Radio Wales a'r cyfle i gefnogi artist enwog rhywle ym Mhrydain.

Lantern
Gwrandewch ar Catastrophe gan Lantern
Pedwar cerddor o ardal Conwy sy'n gigio yn rheolaidd yng ngogledd Cymru ydy Lantern. Maen nhw'n ysgrifennu cerddoriaeth roc progressive yn bennaf. Maen nhw'n disgrifio eu sŵn fel 'metal melodic, tanddaearol' a Pink Floyd ydy un o'u dylanwadau mwyaf.
Taff - Llais
Jonathan Harding - Smith - Gitâr
Jam - Gitâr Fâs
Jason Dickins - Drymiau
Ben Chamberlaine - Gitâr Rhythm

Evolve
Gwrandewch ar City Boys gan Evolve
Evolve Band o Lanelwy ydy Evolve. Pedwar aelod oedd ganddo yn wreiddiol pan gafodd ei ffurfio yn 2003 ond ymunodd y chwaraewr bâs yn 2004. Rhyddhawyd eu EP cyntaf, City Boys, fis Mawrth 2006 a'u dylanwadau ydy Oasis, Stone Roses, U2 a bandiau indi'r 90au yn ogystal â'r Arctic Monkeys.
Julian Watson - Prif Lais
Jonathan Taylor - Gitâr Flaen/Llais Cefndir
Martin Hughes - Gitâr Rhythm
Geraint Alexander - Gitâr Fâs
Arran Hands - Drymiau.

Gweddill y cystadleuwyr:

Zenith
Band o bedwar o ardal Conwy ydy Zenith. Maen nhw'n disgrifio eu sŵn fel 'roc melodic cŵl - roc mellow.' Dylanwadau Amy, y lleisydd, ydy Kelly Clarkson, KT Tunstall ac Alanis Morrisette.
Amy Renshaw - Llais
Jason Dickins - Drymiau
David Harding - Smith - Gitâr Fâs
Jonathan Harding - Smith - Gitâr a Llais

Salem
Mae gan Salem o Ynys Môn bedwar aelod ac maen nhw'n chwarae 'roc melodig trwm'. Mae eu cerddoriaeth yn tueddu tuag at roc amgen ac ymysg eu dylanwadau mae Korn, Metallica a Machine Head. Maen nhw'n gigio drwy ogledd Cymru ac mor bell â Warrington a Birkenhead.
Martin Pritchard - Llais
Richard Moore - Gitâr fâs
Joel Youngs - Drymiau
Anthony Ross - Gitâr

Gafyn Buckland
Artist unigol ydy Gafyn a bydd yn perfformio ar ei ben ei hun. Maen disgrifio ei gerddoriaeth fel 'roc amgen, arbrofol, indi'. Mae'n hoffi defnyddio samplau wrth berfformio'n fyw. The Coral a'r Super Furries ydy ei ddylanwadau.

Denuo
Tom Mason ydy Denuo. Mae'n chwarae pob un o'r offerynnau ar y demo ac mae'n dod o Fetws-yn-rhos ger Abergele. Mae wedi ei ddylanwadu gan Bloc Party, Angels & Airwaves a'r Foo Fighters.

Ewch i weld y bandiau i gyd ar lwyfan Canolfan Hamdden Biwmares fis Mehefin 2006 yn y sioe sleidiau:


Gitarwyr Lantern
previous page Lantern next page
1  2  3  4  5  6  7  8  9  10 
11 

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy