BBC HomeExplore the BBC

LLUN
28ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awyr agored

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cerdded
Ynys Enlli Pererindod Pen Llŷn
Dilynwch olion traed pererinion Cristnogol y gorffennol dros Ben Llŷn i Ynys Enlli yng nghwmni'r Parchedig Andrew Jones (gyda lluniau Mary Smith).

Diben y ddwy bererindod ym Mhen Llŷn yw cyrraedd Ynys Enlli, ynys yr ugain mil o saint, sydd wedi bod yn ganolfan ysbrydol ers canrifoedd. Mae'r ddau lwybr yn cychwyn mewn dwy o eglwysi pwysicaf yr ardal - hen fynachdai Clynnog Fawr a Thywyn.

Ers i'r Cristnogion cynnar ddianc i'r Aifft i gael llonydd i addoli Duw, lledaenodd y traddodiad o agor canolfannau i addoli mewn heddwch, i Rufain, Ffrainc ac yna i Brydain. Oherwydd y traddodiad yma, gadawodd Sant Cadfan ei eglwys yn Nhywyn a theithio am yr ynys a welai ar y gorwel - Ynys Enlli - er mwyn sefydlu mynachdy yno.

Rydym wedi gweld cynnydd yn niferoedd y pererinion yn ddiweddar, yn enwedig o America. Mae'n bosib gyrru o un lle i'r nesaf erbyn hyn wrth gwrs, ond mae rhai dal yn cymryd wythnos i ffwrdd o'r gwaith i ddilyn un llwybr neu'r llall. Ond rŵan maen nhw'n gallu aros mewn gwesty moethus a chael G'n'T bach ar ddiwedd y dydd yn lle gwersylla mewn cae ger yr eglwys fel yr hen ddyddiau!

Llwybr y gogledd
Dyma lwybr pererindod fwyaf poblogaidd Pen Llŷn. Mae'n cychwyn yng Nghlynnog Fawr ac yn mynd ymlaen i Bistyll, Nefyn, Edern, Tudweiliog, Llangwnadl ac Aberdaron.

Mae'n anodd gwybod yn union lle'r oedd y llwybrau gwreiddiol ond byddent yn cerdded o eglwys i eglwys,. Roedd hyn am fod y llefydd yma yn lefydd da i orffwys neu oherwydd eu harwyddocâd ysbrydol.

Llwybr y de
Mae'r llwybr yma yn anoddach i'w olrhain gan fod aber y Mawddach wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd. Wrth gychwyn yn Nhywyn, byddai'n rhaid mynd i mewn i'r wlad cyn belled a Ddolgellau er mwyn croesi'r afon ond heddiw, wrth gwrs, gellid croesi dros y Cob.

Yn fras, byddent yn mynd o Dywyn i gyfeiriad Dolgellau, heibio i Abaty Cymer a Llanelltyd. Wedyn i fyny tuag at y Bermo, Dyffryn Ardudwy, Harlech, draw i Abererch ac i lawr i Aberdaron.

Cliciwch isod i ddilyn y ddau lwybr:
Llwybr y gogledd
Llwybr y de
Esgyrn pererinion Aelhaearn


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy