BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awyr agored

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cerdded
Llwybr y Llewod 8-13
8. Ar ôl cyrraedd y giât fochyn sy'n arwain i'r hen A5 croeswch y ffordd a cherddwch i'r dde heibio'r ddwy arhosfa.

9. Dilynwch lwybr cyhoeddus i'r chwith drwy blanhigfa Coed Môr. Ar ôl ychydig lathenni gellir crwydro i'r dde ble gellir gweld Coedardd (Arboretum) sy'n cynnwys nifer o goed o wahanol rannau o'r byd. Ail ymunwch â'r llwybr a'i ddilyn i lawr i gyfeiriad y Fenai.

10. Ar waelod y llwybr, o edrych i'r chwith gellir gweld Pont y Borth. Mae'r bont yn 1500 troedfedd o hyd; rhan ohoni'n cael ei chynnal gan y tri pier bwaog ar ochr y tir mawr a phedwar pier ar ochr Môn. Mae rhychwant y darn sydd ynghrog rhwng y ddau 'byramid', un ohonynt yn gorffwys ar Ynys y Moch, yn 580 troedfedd. Cwblhawyd y bont ac agorwyd hi i'r cyhoedd ar 30ain o Ionawr 1826. Croesodd coets gyntaf y post am 1.30 y bore gyda'r peiriannydd preswyl William Provis yn teithio arni.

Uchelgaer uwch y weilgi - gyr y byd
Ei gerbydau drosti,
Chwithau, holl longau y lli,
Ewch o dan ei chadwyni.

(Dewi Wyn o Eifion).

Yn syth o'ch blaen fe welwch Ynys Gorad Goch. Ar ochr ogleddol yr ynys fe welwch y trap pysgod anarferol (y gored) a grewyd drwy addasu rhai o nodweddion yr ynys a gwneud defnydd o'r llanw.

11. Cerddwch i'r dde ar hyd y llwybr i gyfeiriad Pont Llanfair (Britannia). Cyn cyrraedd y bont gellir gweld hen sylfaeni ac adfeilion y Barics a ddefnyddiwyd gan y gweithwyr tra'n adeiladu'r bont. Cynlluniwyd y bont gan Robert Stephenson ac yn dilyn 5 mlynedd o waith adeiladu ar gost o £601,865 croesodd y trên cvntaf ym mis Mawrth 1850. Achoswyd difrod helaeth i'r bont yn dilyn tân difrifol yn 1970. Cryfhawyd ac addaswyd y bont i dderbyn ceir yn ogystal â threnau. Agorwyd y bont i geir ym 1980. Un o weithiau mwyaf cyfarwydd John Evans (Y Bardd Cocos) yw'r un sy'n disgrifio'r llewod carreg o boptu Pont Britannia:

Pedwar llew tew
Heb ddim blew,
Dau'r ochor yma,
A dau'r ochor drew.

12. Pan gyrhaeddwch y bont, dilynwch y ffordd sy'n arwain i'r dde i fyny'r allt. Cyn cyrraedd gwesty Carreg Brân gellir gweld cerfluniau'r llewod, a anfarwolwyd gan y Bardd Cocos, uwchlaw'r llwybr.

13. Gyferbyn â'r mynediad i'r gwesty, trowch i'r chwith i lawr yr allt i gyfeiriad Eglwys Santes Fair. Un o ganlyniadau trist llwyddiant y pentref tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd chwalu'r hen eglwys ganol oesol a chodi'r adeilad presennol gerllaw yn ei lle. Roedd yr hen eglwys yn hynod o fach, a phenderfynodd yr offeiriad ar y pryd, Y Parch Thomas Jones Williams, M.A., mab asiant y Marcwis cyntaf, fod angen dathlu'r oes newydd a ddaeth i'r pentref gyda dyfodiad y rheilffordd gydag adeilad mwy. Cost yr adeiladu oedd £950 a chysegrwyd yr eglwys newydd gan Esgob Bangor ym Medi 1853. Ymgasglodd clerigwyr o bob rhan o'r esgobaeth, a chofnododd y North Wales Chronicle iddynt gael stablu eu meirch ym muarth fferm Pant Lodge.

Ym mynwent yr eglwys mae cofgolofn i'r dynion a laddwyd wrth adeiladu Pont Britannia oedd â'i chysgod mawr dros yr hen eglwys. Er ei bod yn amlwg yn rhy fach ar gyfer anghenion y plwyf, ymddengys yn drist fod yn rhaid chwalu'r hen adeilad gwyngalchog mor ddiseremoni.

  • Parhau gyda'r daith


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Ffilmiau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy