BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awyr agored

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cerdded
Rhiannon Davies Fy hoff daith
Mae Rhiannon Davies o Lansannan yn dipyn o gerddwraig sy'n adnabod pob modfedd o'i bro genedigol ar ôl gwneud arolwg o lwybrau cyhoeddus y plwyf yn y 1990au.
Mae hefyd wedi cerdded ledled Prydain ac Ewrop ond mae ei hoff daith yn dod â hi nôl i'w milltir sgwâr ym mhentref Llansannan.

Yn ogystal â golygfeydd hardd o fynyddoedd Eryri, mae ei thaith hefyd yn cwmpasu hanes yr ardal hefyd:

Llwybrau plwyf Llansannan
Gofynnwyd i Rhiannon Davies wneud arolwg o lwybrau plwyf Llansannan gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn 1995. Mae'r plwyf yn ymestyn o Henllan i Lanfair Talhaearn ac at Fynydd Hiraethog cyn belled â Llyn Alwen i'r de.

Dechreuodd y llwybr cyntaf fis Gorffennaf 1995 a cherddodd yr olaf fis Tachwedd 1996. Cerddodd 229 llwybr i gyd - 201 o hydau llwybrau troed, 22 o lwybrau merlota ac 16 BOAT, sef culffyrdd sy'n agored i bob trafnidiaeth.

Gyda help ffrindiau ddaeth i gyd-gerdded gyda hi, roedd rhaid nodi pob arwydd, camfa, giât ayb - 31 o wahanol symbolau a phob rhwystr; ffensys, gwrychoedd, teirw, cŵn peryglus, ffermwr neu berchenogion anghynnes - 28 o wahanol symbolau.

Ar y pryd roedd nifer mewn cyflwr gwael iawn, gyda gwrychoedd a weiren bigog ar eu traws, heb sôn am deirw bygythiol ac ambell dirfeddiannwr gwrthwynebus! Ond erbyn hyn mae rhwydwaith da iawn o lwybrau wedi eu harwyddo gyda chamfeydd da meddai Rhiannon Davies.

Er ei bod wedi cysegru dros flwyddyn o'i bywyd i gerdded y llwybrau hyn, mae'n teimlo iddi ddod i adnabod ei phlwyf yn dda.

"Cwynais lawr ynglŷn â'r arolwg llwybrau ac roeddwn yn hynod falch o drosglwyddo ffurflenni i'r Cyngor Cefn Gwlad a chael mwynhau cerdded heb nodi camfeydd a dringo dros ffensys a rhwygo fy nhrowsus," meddai. "Un peth rwyf wedi ei werthfawrogi ydy'r ardal lle dwi'n byw. Wnes i erioed sylweddoli mor hardd ydy'r wlad o gwmpas... Mae lleoedd fel Bodeiliog, Bryn Bod, Cae Gau, Llawr y Cwm, Ty'n y Mynydd yn golygu rhywbeth imi rŵan...

"Credaf yn gryf iawn fod yn gyfrifoldeb arnom i gadw'r llwybrau'n agored."

"Rydyn ni'n dechrau yn y Llan wrth Swyddfa'r Post a'r eglwys. Rydych chi'n stopio i ddechrau i edrych ar gofgolofn yr enwogion sydd â rhestr o enwogion lleol arni: Tudur Aled, William Salesbury, Henry Rees, Gwilym Hiraethog a Iorwerth Glan Aled.

Wedyn rydych chi'n mynd ymlaen heibio i gapel y Presbyteriaid - Capel Coffa Henry Rees - ac mae 'ne gofgolofn i Edward Parry, Bryn Bugad o flaen y capel. Fo wnaeth sefydlu'r achos Methodistaidd yn yr ardal ac roedd o'n derbyn y Diwygwyr i'w dŷ, a oedd yn drosedd, ac mi gafodd ei erlid.

Fe roddodd ddarn o dir i adeiladu capel y Methodistiaid yn Tan y Fron, pentref bach ryw dair milltir o Lansannan. Fo hefyd gyfansoddodd Caned Nef a Daear Lawr. Cafodd ei eni yn 1723 ac roedd yn hen hen hen hen daid imi!

Wedyn 'dech chi'n mynd i fyny ar hyd ffordd Abergele o'r pentref a 'dech chi'n troi i Coed Nant y Plwm lle mae na lot fawr o siafftiau hen weithfeydd plwm a ddechreuodd yno tua 1841.

Oddi yno, rydych chi'n mynd yn eich blaen ac yn dod i'r top trwy'r coed collddail ac mae na lot fawr o adar yno.

Wedyn o'r top, o ben Moel Unben, mae na olygfeydd gwych, gwych o Eryri. Hwnne ydy pinacl y tro ac rydych chi'n gweld i'r môr, mynyddoedd Eryri a Mynydd Hiraethog.

Rydych chi'n mynd ymlaen wedyn i Goed Llanfair Unben ac yn cerdded o Ddyffryn Aled i Ddyffryn Elwy, gan basio hen blasty Dyffryn Aled Dyffryn Aled, wedyn mi ddowch chi yn y man at afon Aled a cherdded ar hyd yr afon nôl i Llan a diwedd y daith.

Y golygfeydd a'r amrywiaeth sy'n ei gwneud yn un o fy hoff deithiau. Rydych chi'n dod drwy'r coed collddail wedyn yn dod i ben y foel lle mae'r golygfeydd yn wych, wedyn yn gorffen ar lan yr afon Aled."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy