BBC HomeExplore the BBC

SUL
29ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Blaenau Ffestiniog
BB Blaenau
Daeth pobl Blaenau Ffestiniog at ei gilydd am noson fawr efo BBC Cymru ac S4C ar noson derfynol cystadleuaeth Big Brother i weld os byddai Glyn Wise, arwr 18 oed y gyfres, yn gadael y tŷ enwog gyda'r wobr gyntaf.

Daeth Glyn yn ail ac, er ymddangosiad y glaw, roedd ei gefnogwyr yn groch eu cefnogaeth i'r hogyn sydd wedi rhoi Blaenau ar y map.

  • Cefnogwyr Glyn
  • Siop Bapur Newydd
    Y siop bapur newydd ar y stryd fawr ar drothwy'r bleidlais fawr. next page
    1  2  3  4  5  6  7  8  9  10 
    11  12  13  14  15  16 

  • Mona yn y siop bapur newydd
  • Darlledwyd rhaglen bb. Cymru, wedi ei gyflwyno gan Ffion Dafis, yn fyw o Glwb Rygbi bro Ffestiniog gyda'r difyrrwr Tudur Owen a dau o hoff fandiau Glyn, Gai Toms a Frizbee, o flaen tyrfa o gannoedd o bobl.

    Dathlwyd hefyd gyfraniad cydletywr Glyn, Imogen Thomas i'r gyfres, yng nghwmni ei thad, Charles a'i brawd Aled, oedd yn y Blaenau i wylio'r rownd derfynol.

    Medd Ffion Dafis: "Does dim amheuaeth bod y misoedd diwethaf wedi bod yn llawn profiadau sydd wedi newid bywyd Glyn. Rydym wedi'i weld yn aeddfedu, yn llythrennol, o flaen ein llygaid. Mae o wedi troi o fod yn hogyn lletchwith yn ei arddegau i fod yn ddyn ifanc, hyderus.

    "Mae Glyn wedi dysgu llawer o sgiliau bywyd - o ferwi ŵy i olchi ei ddillad ei hun - ac wedi swyno gweddill y cystadleuwyr gyda'i natur hawddgar a'i angerdd am ei wlad a'i iaith.

    Bu BBC Radio Cymru, lle profodd Glyn Wise ei flas cynta o enwogrwydd, hefyd yn darlledu o'r clwb rygbi drwy gydol y noson gyda ffrindiau a ffans Glyn.

  • Mwy o luniau'r dorf ar y noson

  • Cyfrannwch

    Ifor
    Ymlaen ir diwadd Glyn !! Danfonwch e bost i bawb 'da chi'n eu nabod yn eu hannog i bleidleisio i Glyn heno. Dros Blaenau, Dros y Gymraeg, a Thros Gymru.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy