Tyfodd tref Blaenau Ffestiniog yn gyflym iawn wedi i'r llechi yma ddechrau gael eu hallforio ledled y byd.
Ym mlaen cwm Ffestiniog, yng nghalon Eryri, y saif tref y Blaenau. Mae ganddi boblogaeth o bron i 5,000 ac mae 80% o'r trigolion yn gallu siarad Cymraeg.
Sut i gyrraedd
Mae Blaenau Ffestiniog ar lwybr y brif ffordd rhwng gogledd a de, yr A470 sydd yn troi i'r dde ger Maentwrog i gyfeiriad Dolwyddelan a Betws-y-coed. Os ydych chi'n dod o gyfeiriad y gogledd, trowch i'r dde oddi ar yr A5 yn syth wedi gadael Betws-y-coed dros Bont Waterloo neu o gyfeiriad Llandudno.
Mae'r gwasanaeth trên rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn cael ei rhedeg gan Arriva (08456 061660). Am fanylion ar sut i gyrraedd y dref ar y bws, ffoniwch 01286 679535 am amserlen Sir Gwynedd.
Prif atyniadau
Am flas ar fywyd y chwarelwr yn y 19eg ganrif, mae Ceudyllau Llechwedd yn cynnig siwrnai trên trwy hen dwnneli ac ogofâu yng nghrombil y mynydd.
Gellir hefyd ddilyn hen siwrnai'r llechi o'r chwarel gynt i Borthmadog wrth deithio ar Reilffordd Ffestiniog, y rheilffordd hynaf o'i bath yn y byd sydd yn dan i gael ei rhedeg gan wirfoddolwyr lleol.
Nid nepell yn Nolwyddelan mae un o brif gestyll y Tywysogion Cymreig, Castell Dolwyddelan, a oedd yn un o bencadlysoedd Llywelyn ap Gruffydd.
Mae'r dref ei hun hefyd yn ganolfan dda ar gyfer pysgota, mynydda neu gerdded.
Cyfeiriadau defnyddiol
Canolfan Hamdden Bro Ffestiniog
Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog LL41 3UF
01766 831953
Cymunedau yn gyntaf
49 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog LL41 3AG
01766 832214
Cyfle Ffestiniog
49 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog LL41 3AG
01766 831783
Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog
5 Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog LL41 3UH
01766 831338/832398
Clerc: Elwyn Hughes
Llyfrgell
Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog LL41 4ND
01766 830415
Ogofau Llechwedd
http://www.llechwedd-slate-caverns.co.uk/
Canolfan groeso
Isallt, Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog LL41 3HD
01766 830360