BBC HomeExplore the BBC

IAU
7fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Biwmares
Yr hen dref
Chwarae tenis yn y castell a gweld y nyrs yn y carchar - roedd Biwmares yn lle llawn dirgelwch i blant y dref. Dyma Sheila Jones a'i hatgofion hi am ei chartref.

"Cefais fy ngeni ym Miwmares ac mae'n dal i fod yn lle gwych i fyw. Fuaswn i ddim yn byw yn unlle arall.

"Es i Ysgol David Hughes. Yn wreiddiol, roedd yr ysgol yn y dref yma. Cafodd ei chychwyn yn 1603 ac roedd yn ysgol breifat i fechgyn, ond gadawyd i ferched ymuno yn nes ymlaen. Newidiodd o'r drefn ramadeg i'r system uwchradd yn y pumdegau Mi ddaru ni ddathlu ei phedwar can mlwyddiant yn 2003 - roedd yn barti gwych!

Hen ysgol ramadeg David Hughes "Yn anffodus, symudwyd yr ysgol i Borthaethwy yn 1962 gan fod y boblogaeth wedi cynyddu. Roedd yr adeilad yn rhy fach erbyn hynny ac nid oedd digon o dir ar gael ym Miwmares i'w ehangu. Es i am fy mlwyddyn olaf i Borthaethwy ond roeddwn yn casáu'r ysgol newydd. 'Doedd o ddim yr un fath.

"Mae'r hen adeilad ym Miwmares yn ganolfan gymunedol erbyn hyn. Dwi'n helpu i redeg pethau yno - rydan ni'n cynnal gwersi iaith, dawns, celf - mae 'na hyd yn oed briodas a chynhebrwng wedi cael eu cynnal yno. Mae ganddon ni glwb ffilmiau bob pedwerydd nos Iau yn y mis hefyd.

"Roedd Biwmares yn lle gwych i fyw fel plentyn. Roedden ni'n chwarae yn y castell - roedd y llwybrau a'r corneli bach yn wych i guddio ynddynt! Doedd 'na ddim goleuadau yna ar y pryd chwaith, felly roedd yn lle oedd yn codi ofn mawr arnon ni weithiau.

"Roedd pwll nofio awyr agored yn arfer bod y tu hwnt i'r green. Mae'r olion yn dal yno ond dydy o ddim yn cael ei ddefnyddio - dwi'n siŵr y bysai'n anghyfreithlon erbyn hyn! Bron i nghyfneither fy moddi yno unwaith...

"Roedd ganddon ni gwrt tenis hefyd, i fyny yn Happy Valley. Roedd y cyrtiau gwreiddiol o fewn waliau'r castell!

"Arferai'r carchar fod yn glinig i blant. Dwi'n cofio crwydro o amgylch yr hen stafelloedd - er nad oedden ni i fod i fentro i'r rhan fwyaf ohonynt!

"Fe wnaeth y person olaf i gael ei grogi y tu allan i'r carchar roi melltith ar gloc yr eglwys gyferbyn - Eglwys y Santes Fair a San Niclas. Mae gan dŵr y cloc bedwar wyneb, ac yn ôl y sôn wnaeth yr wyneb oedd gyferbyn a fo fyth ddweud yr amser cywir wedi hynny. Ddaru o ddim dweud yr un amser â'r tri arall am flynyddoedd - ond efallai fod hynny'n ymwneud â'r ffaith ei fod yn wynebu'r gwynt de orllewinnol o'r môr! Cafodd ei drwsio ac mae'n gweithio'n iawn rŵan - ond mae'n stori dda!

"Ger drws yr eglwys y mae arch Brenhines Siwan, er ei fod yn wag. Cafodd ei ddarganfod mewn coedwig flynyddoedd yn ôl, yn cael ei ddefnyddio fel cafn ceffyl!

"Mae 'na hefyd enghreifftiau gwych o 'misericords' ger seddi'r côr yn yr eglwys. Math o gerfluniau ydynt o ddelweddau neu bennau cymeriadau o'r gorffennol - fel hen wraig i bysgotwr! Maen nhw'n dangos sut oedd bywyd yn yr ardal cyn i Fiwmares gael ei sefydlu felly mae'n rhaid eu bod yn dyddio yn ôl i gyfnod y mynachdy gwreiddiol oedd yma cyn y 13eg ganrif.

"Dwi'n deall eu bod yn rhai o'r esiamplau gorau o 'misericords' yn y wlad.

"Felly mae 'na lot o hanes yma ym Miwmares. Mae'n lle digon tawel, ond mae 'na lot yn mynd ymlaen. Dydy hi ddim gymaint yn brysur efo traffig, ond efo bywyd.

"Rydym yn cael regata a gŵyl blynyddol ac nid oes rhaid mynd dramor i weld dolffin - mi wnes i weld un ger Ynys Môn llynedd.

"Mae 'na hefyd adloniant yn Sgwâr y Castell (neu Sgwâr y White Lion) bob p'nawn drwy'r haf. Mae 'na ganu, dawnsio a pherfformio - mae'n lot o hwyl."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy