BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Tref Bethesda Genedigaeth y pentref
Wyddoch chi sut cafodd Bethesda ei enw? Yr awdur a'r hanesydd lleol Emlyn Evans sy'n sôn am y ddau ddylanwad mawr ar yr ardal.

"Fel yn hanes sawl ardal gyffelyb yn Arfon a Meirionnydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe ffurfiwyd patrwm bywyd Bethesda gan ddwy elfen rymus: y chwarel a'r capel.

Yn y deunawfed ganrif yr oedd Richard Pennant, Sais o Lerpwl a oedd, erbyn 1765, yn briod ag etifeddes y Penrhyn, Anne Susannah, wedi dod i ffortiwn helaeth ar farwolaeth ei dad yn 1781. Defnyddiodd Pennant ei gyfoeth i ddatblygu Chwarel Cae Braich y Cafn, fel y gelwid Chwarel y Penrhyn ar y dechrau - y chwarel a oedd yn eiddo i'w dad-yng-nghyfraith, Hugh Warburton.

Daeth Pennant yn Arglwydd Penrhyn yn 1783, ac fe ddywedir iddo fuddsoddi cannoedd o filoedd o bunnau yn y fenter enfawr hon, gan gynnwys adeiladu'r 'lein bach' chwe milltir o hyd i gludo'r cynnyrch o'r chwarel i'r cei ym Mangor ac a agorwyd yng Ngorffennaf 1801.

Erbyn hynny yr oedd oddeutu tri chant o weithwyr yn ennill eu bywoliaeth yn y chwarel a'r busnes yn cynyddu'n gyson. At ddiwedd y rhyfel mawr â Ffrainc yn 1815, pan oedd Napoleon ar ei daith olaf i'w alltud ar ynys bellennig Sant Helena wedi'i ddarostyngiad ar Faes Waterloo, yr oedd nifer y gweithwyr ar drothwy'r mil.

Ond nid oes sôn am Fethesda fel pentref a chymdogaeth am ychydig flynyddoedd eto.

Yna yn 1818 fe orffennodd Thomas Telford y lôn bost drwy'r dyffryn fel rhan o'r ffordd newydd i gysylltu Amwythig a Chaergybi, ac fe gynhwysai hyn adeiladu Pont y Pandy, neu Bont Half-way tua'r hanner ffordd rhwng y chwarel a Bangor. Yn fuan dechreuwyd codi tai a bythynnod yma a thraw o bobtu'r ffordd ar gyfer chwarelwyr, a chyn bo hir gapel mawr gan selogion o Annibynwyr a agorwyd yn 1820 a'i alw wrth yr enw ysgrythurol 'Bethesda'. A chyn pen dim amser daethpwyd i alw'r gymdogaeth gyfan ar enw'r addoldy.

Erbyn hyn yr oedd gweithlu'r chwarel sbel dros fil ac yn cynyddu ar garlam. Erbyn canol y ganrif credir bod y nifer dros dair mil, a chyrraedd uchafrif o tua 3,200 ym mlynyddoedd mwyaf llewyrchus y diwydiant yn y saith degau.

Chwarel y Penrhyn yng nghyfnod y streic

Ond yna daeth cyfnod o anghydfod diwydiannol ym mlynyddoedd olaf y ganrif: streic a barodd am bron i flwyddyn yn 1896-7, a'r trychineb eithaf dair blynedd yn ddiweddarach, a'r 'Streic Fawr' honno'n parhau hyd 1903. Dywedir bod oddeutu mil a hanner o chwarelwyr wedi gadael yr ardal i weithio ym mhyllau glo Sir Forgannwg a mannau eraill.

Ac fel y dywedwyd lawer o weithiau, ni fu pethau fyth yr un fath wedyn. Ni allent fod. Ymhen deng mlynedd go dda fe ddaeth Rhyfel Mawr 1914-18 i gwblhau'r alanas a'r chwalfa. Fel pobman arall collodd Bethesda ddegau o wŷr ieuainc ar faes y gad, a'u henwau wedi eu cofnodi hyd heddiw ar y golofn yng nghanol y pentref.

Fe ddaeth blynyddoedd y dau ddegau a'u problemau gwahanol ac ni sylweddolwyd breuddwyd y prif weinidog o Gymro am greu cymdeithas deilwng i wroniaid fyw ynddi. Ond chwarae teg i Lloyd George, oni bai am ei weledigaeth a'i ymdrechion ef fel Canghellor y Trysorlys yn llywodraeth Ryddfrydol Herbert Asquith, beth mewn difrif a fyddai wedi dod o filoedd o deuluoedd yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel, blynyddoedd llwm y cyni a'r caledi? Dyma'r pryd y casglwyd cannoedd o bunnau yn eglwysi Cymru i liniaru'r adfyd yn yr ardaloedd glofaol, ac fe wnaeth eglwys Bethesda eu rhan yn anrhydeddus ar waethaf y prinder a'r tlodi - oblegid dyma'r union amser yr oedd perchenogion chwareli llechi Gogledd Cymru yn pwyso ar i'r gweithwyr gytuno i ostyngiad sylweddol yn eu cyflogau."

O gyfrol Emlyn Evans 'O'r niwl a'r anialwch: Cynnyrch chwarter canrif', Gwasg Gee, 1991.

Dylanwad arweinwyr y capeli...

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy