BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llechi Chwarelwyr ac Archaeoleg
Oes gennych chi hen lechen gerfiedig ger y tân acw? Dyma Andre Lomozic o Fethesda sy'n bwrw golwg ar waith Cymdeithas Archeolegol Dyffryn Ogwen a thraddodiadau lleol.
"Er bod Cymdeithas Archeolegol Bethesda yn eithaf tawel ar y funud, rydyn ni wedi gwneud lot o waith am hanes archeolegol Dyffryn Ogwen.

"Mi wnaethon ni ychydig o waith ar lechi cerfiedig. Rhyw ganrif a hanner neu fwy yn ôl, roedd chwarelwyr y Penrhyn yn naddu llechi, creu patrwm arnynt ac yn eu rhoi fel anrhegion priodas i gyplau ifanc, gan nodi dyddiad y briodas ar y llechan. Roeddent yn cael eu gosod o amgylch y lle tân mewn nifer o fythynnod yn yr ardal.

"Mi aeth y gymdeithas ati i gofnodi'r rhai oedd ar ôl a chymryd 'rubbings' ohonynt. Mi ddaru ni nodi dros 400 o lechi gwahanol a chyhoeddi llyfr - Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen - dwi'n meddwl ei fod yn dal ar gael, yn enwedig yn y siop lyfrau ail law ym Methesda.

"Mi ddaru ni hefyd wneud prosiect ar gerrig canan. Byddai'r chwarelwyr yn tyllu i mewn i garreg, rhoi powdwr ynddi, yna ei thanio.

"Mae dyn o Flaenau Ffestiniog, Gruff Jones, wedi gwneud ymchwil ar gerrig canan yr ardal. Maen nhw i'w cael o bopty'r Dyffryn, o Landegai hyd at Gapel Curig.

"Aeth y gymdeithas hefyd ati i gloddio am olion pentref o'r oes efydd ym mhentref Gelli, ger Tregarth. Roedd yn ddiddorol iawn dod o hyd i olion rhyw hanner dwsin o dai - mae 'na olion digon tebyg yn Ynys Lawd ger Caergybi.

"Prif bwrpas y gymdeithas a dweud y gwir ydy mynd i weld sut gyflwr sydd ar safleoedd archeolegol o bwys yn yr ardal, yn enwedig y rhai sydd wedi eu rhestru yn y Survey of Royal and Ancient Monuments i weld sut gyflwr sydd arnynt erbyn hyn.

"Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes yr ardal yma. Daeth fy nhad yma o wlad Pwyl adeg y rhyfel ac mae Dyffryn Ogwen yn debyg iawn i'w gyn gartref, ond bod 'na lot mwy o goed draw yng ngwlad Pŵyl!

"Mi ddes i yn aelod o Gymdeithas Archeolegol Bethesda am fy mod i'n awyddus i ddysgu mwy am hanes yr ardal ac mi ddysgais am lawer iawn o bethau nad oedd gen i syniad amdanyn nhw cynt."

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy