BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Gwyn Sion Ifan o Awen Meirionydd Cofio '97
Mae rhai yn dweud mai un o'r goreuon erioed oedd Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1997. Dyma rai o drigolion y dref yn cofio beth yn union oedd mor wych am yr ŵyl yma - ond a ydych chi yn cytuno?
Eisteddfod 2009 ar y BBC.

Gwyn Sïôn Ifan o siop lyfrau Awen Meirion
Daeth tyrfaoedd i'r Bala oherwydd bod y tywydd o'n plaid ni, felly roedd yn brysur iawn yn y siop ac ar y maes.

Y peth dwi'n cofio mwyaf yw bod gen i lot mwy o waith na'r arfer! Mae cael siop ar y maes yn golygu lot o waith am o leiaf pum wythnos cyn yr ŵyl. Rhaid i ni benderfynu pa lyfrau i'w archebu cyn y seremonïau coroni a chadeirio, gan nad ydym yn gwybod pwy sydd am ennill, nac os bydd yna deilyngdod, wrth gwrs. Rhaid dibynnu ar ein profiad, a gobeithio am y gorau. Dwi'n cofio ddaru cyfrol am foddi Capel Celyn werthu'n dda yn ystod Eisteddfod '97.

Dwi yn edrych ymlaen at eleni; mae'n braf iawn cael hi yn ôl yn y Bala ar ôl holl weithgareddau'r pwyllgorau lleol. Mae'n anhygoel bod pobl yn barod i wneud gymaint o waith gwirfoddol er mwyn yr eisteddfod, ac er mwyn eu hardal.

Philys Jones o Lanuwchllyn
Y peth pwysicaf yw'r tywydd; hwnnw sy'n gwneud eisteddfod. Dwi'n mynd pob flwyddyn a dwi 'di cael sawl un gwlyb. Ond mae o wastad yn gyfle i'r Cymry selog ddod at ei gilydd a dwi'n edrych ymlaen at weld pob cystadleuaeth eleni; dwi wrth fy modd yn y pafiliwn, yn enwedig y seremonïau coroni a chadeirio. Roedd yna deilyngdod ym mhob un yn y Bala.

Y corau cerdd dant ar y dydd Sadwrn olaf sy'n aros yn fy meddwl i, a gwrando ar y feirniadaeth gan Mair Carrington-Roberts; gwerth chweil.

Nicola Harland o'r Bala
Dwi wedi dysgu Cymraeg, a wastad yn mwynhau'r eisteddfod.

Roeddwn yn aelod o gôr yr eisteddfod yn '97, gyda 250 o bobl leol eraill! Ddaru ni gychwyn ymarfer ym Medi '96 ac roedd yn brofiad gwych.

Edwina Evans Edwina Evans o westy Plas Coch
Roeddwn yn gweithio mewn tafarn yn y dre yn '97 ac roedd yn fendigedig. Roedd y tafarndai yn andros o brysur ac ysbryd pawb yn uchel iawn. 'Doedd na ddim trafferth o gwbwl, yn y dre na'r maes; ddaru bawb bihafio.

Mae'n fantais i'r Eisteddfod fod yn y Bala gan fod o'n cadw popeth o fewn tafliad carreg; does dim rhaid mynd a'ch car i fynd o'r dref i'r maes, gallwch gerdded pobman.

Mi ges i'r cyfle i fynd i'r Maes ar y dydd Llun cyntaf, ond aeth hi'n rhemp wedyn a doedd dim amser i adael y dafarn, gwaetha'r modd. Dwi'n hoffi mynd i'r eisteddfod. Mae 'na lot o ladd ar bobl ifanc, ond mae'r eisteddfod yn gyfle iddynt dynnu eu doniau at ei gilydd a rhoi hwb i'r iaith a'r diwylliant Gymraeg a chadw popeth yn fyw.

Meinir Lloyd-Wood o Langower
Roeddwn yn gweithio yn y ganolfan hamdden adeg yna. Roedd hi'n brysur efo plant yn dod i nofio fin nos ar ôl iddynt fod yn brysur ar y maes trwy'r dydd. Roedd hi'n brysur yn y dydd hefyd, gyda phawb yn dod i'r caffi i weld Anti Mari, neu am gawod!

Fy nghof gorau oedd gyrru i'r gwaith a gweld nionyn mawr wedi ei gerfio allan o garreg ar ochr y mynydd. Roedd Eilir Rowlands wedi ei greu fel symbol i'r eisteddfod, gan fod yr Afon Wnion yn llifo gerllaw.

Canolfan Cywain Alison Price, rheolwraig canolfan Cywain
Dwi'n cofio'r eisteddfod yn '97, yn enwedig y tywydd - doedd dim rhaid poeni am wisgo'r cotiau glaw na'r wellingtons, jest cerdded i'r maes, mwynhau, a cherdded adref.

Rydym ni yng Nghanolfan Cywain yn edrych ymlaen at gael yr eisteddfod mor agos i ni eleni. Rydym wedi bwcio bandiau i chwarae wrth i ni gael barbiciw a hog roast min nos yn ein amphitheatr. Dim ond hen ysgubor oedd yma yn 1997, felly mae'r tir yma ger y maes wedi newid lot!

Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr eisteddfod
Mae'r niferoedd cystadlu yn uwch nag unrhyw eisteddfod sydd wedi bod o'r blaen, ac mae'r maes carafannau yn llawn hefyd. Efallai bod hyn oherwydd bod pobl dal i feddwl 'roedd eisteddfod Bala 1997 mor ffantastig, ac felly mae'n rhaid dŵad eto!

Roedd y tywydd yn wych wrth gwrs, ond mae'r safle yn un da hefyd.

Nid oes unman arall lle bo'r maes mor agos i'r dref Dim ond un prif Stryd sydd yn y Bala ac mae rhan fwyaf o'r tafarndai a'r bwytai yno. Gan fod y ffordd ar gau i drafnidiaeth, roedd pawb yn gallu mynd a dod, fel bod y dref ei hun yn rhan o'r maes.

'Rydych hefyd yn cael y teimlad fod pobl Meirionydd yn gwybod yn union beth yw eisteddfod, felly mae'r ŵyl yn ôl yn ei chartref draddodiadol. Mae'n siŵr gen i nad oes yna lawer o ardaloedd eraill fel Meirionydd ar ôl yng Nghymru sy'n mor Gymreig â llawn diwylliant a gweithgarwch.

Ond mi gawson ni sialens gyda'r maes yma yn 1997. Mae'n rhaid rhoi'r pafiliwn mewn un lle, ac un lle yn unig, er mwyn peidio â gwneud difrod i'r olion Rhufeinig. Roedd rhaid hefyd rhoi pebyll eraill i fyny heb osod pegiau yn y ddaear. Roedd CADW ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd braidd yn bryderus yn 1997, ond dwi'n meddwl eu bod yn hapus gyda'r ffordd rydym yn trin y maes arbennig yma erbyn hyn.

Llew Gwent o'r Bala
Roeddwn yn stiwardio drwy gydol Eisteddfod 1997. Dwi'n cofio'n dda'r gymanfa ganu ar y noson olaf. Ar ôl wythnos o dywydd bendigedig, roedd hi'n bnawn annaturiol o boeth ar y Sul yna. Roedd yn bygwth glaw wrth i bobl gyrraedd y pafiliwn, ac roedd 'na andros o storm - mellt a tharanau - tra bo'r cyngerdd ymlaen.

Ond mi beidiodd y glaw cyn i bawb ddod allan! Roedd hyd yn oed y storom fawr wedi mynd yn ôl y drefn, yn cadw at yr amser pan fo pawb yn ddiogel o dan do!

Yr hanes o dan y maes.

Cyfrannwch

Gwenan Jones, Rhyduchaf ger Y Bala
Dwi'n cofio steddfod 97 yn dda, yn bersonol cymeryd rhan yn yr oedfa fore sul dan ofal parch Bryn Williams, Coleg Y Bala bryd hynny. Dwi'n cofio dilyn fy mrawd mawr Sion Goronwy yn cystadlu mewn nifer gystadleuathau canu dan 25ain ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts! Chai ddim ei glywed ar y prif lwyfan eleni oherwydd ei fod yn ganwr opera proffesiynol erbyn hyn. Ond dwi'n edrcyh mlaen i'w glywed yn canu yn Maes D ar faes yr Eisteddfod pnawn Sadwrn Awst 1at am 3! Cofio y wefr o weld sioe Er Mwyn Yfory yn y pafiliwn- a wir yn dymuno cael bod yn y cast. Cofio bod yn siomedig nad oedd blwyddyn 11 yn cael bod yn rhan o'r sioe gan fod yr hen DGAU yn ffwndro pethe!! Dwi di gneud ffrindiau gyda nifer o fobl adraws y wlad ac ma pawb wastad yn dweud wrthai fod Bala 97 yn eisteddfod wych! A dwi'n ffyddiog y bydd hi y tro yma hefyd!!


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy