BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
29ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bae Colwyn
Pier Victoria Bywyd y Bae
Yn sgîl ymgyrch Yma i Chi ym Mae Colwyn, daeth rhaglen Manylu BBC Radio Cymru, i'r dref i fwrw golwg ar fwrlwm ei gorffennol fel tref wyliau, ansicrwydd y presennol a'r gobeithion am y dyfodol.
Gwrandewch ar glipiau sain o'r rhaglen: gohebydd Manylu, Anna Marie Robinson, fu'n sgwrsio â rhai o drigolion y dref.

Cyfnod y Fictoriaid

Gyda dyfodiad y rheilffordd, roedd Fictoriaid gogledd Lloegr yn falch iawn o dyrru i Fae Colwyn am awyr iach llesol a hwyl ar lan y môr. Roedd cyfoeth y chwyldro diwydiannol yn cael ei wario ar brynu tai mawr yn y dref ac heb hwylustod car, roedd yn lle gwych i aros am bythefnos o wyliau ffasiynol.

Roedd 58 o westai a 365 o dai aros ym Mae Colwyn yn y cyfnod ar dref ar ei hanterth fel tref glan môr fel yr eglura gwrando Rona Aldridge, Arweinydd Diwylliant Sir Conwy.

Stâd Peulwys a'r tŵf yn y boblogaeth
Ar ddiwedd y 1970au a'r 1980au bu tŵf ym mhoblogaeth y dref a bu'n rhaid canfod arian i adeiladu stâd dai cyngor ac ysgol newydd i ymateb i'r tŵf hwnnw. Codwyd tai ar gyfer nifer ohonynt ar y stâd newydd ar dir fferm y Peulwys.

Alun Jones oedd prifathro cyntaf Ysgol Tan-y-marian ar y stâd a godwyd mewn lleoliad braf â golygfa fendigedig dros y bae.

Dyma atgofion gwrando Alun Jones am yr ysgol a'r plant a ddaeth o dan ei ofal, nifer ohonynt o aelwydydd oedd yn mynd a dod o'r ardal ac yn blant oedd wedi cael magwraeth galed.

Gwyliau tramor a'r A55
Hedfan i ffwrdd i fwynhau haul tramor mae twristiaid yn ei wneud erbyn hyn a chyda phob teulu bron yn berchen ar gar, mae llai yn mynd ar y trên i'r traeth am wyliau.

Mae llawer o bethau felly wedi newid ym Mae Colwyn ers y 1970au, gan gynnwys dyfodiad yr A55. Ond a yw'r ffordd newydd yn fendith neu'n felltith?

Dyma gwrando Rona Aldridge, sydd hefyd yn aelod o brosiect Bywyd y Bae - partneriaeth rhwng y cyngor ac asiantaethau lleol sydd eisiau adnewyddu'r dref - i roi ei barn am sut i adfywio'r dref sydd bellach ger y môr yn hytrach nag yn dref glan môr draddodiadol.

Dyfodol Bae Colwyn
Gyda'r dref fel yr oedd wedi dirywio, llawer o siopau wedi cau, a nifer o'r hen dai mawr gwely a brecwast yn fflatiau i bobl â thrafferthion sydd wedi symud i mewn i'r dref, beth am y dyfodol?

Nid yw'r cynghorydd tref, Gwyn Huws, byth am adael y dref, er gwaethaf ei thrafferthion. Efallai bod defnydd gwahanol i'r tai mawr tri llawr erbyn hyn, ond 'mae na awyrgylch dda ym Mae Colwyn ac mae glan y môr yn lle gwych meddai'r gwrando Cynghorydd Huws



Lleol i Mi
Trefi
Chwaraeon


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy