"Mae gwreiddiau datblygiad a thyfiant tref Bae Colwyn fel yr ydym yn ei adnabod heddiw ynghlwm â gwerthiant stad y Foneddiges Erskine, sef Stad Pwllycrochan, yn 1865.
"Gwerthwyd Plasty Pwllycrochan ac fe'i hagorwyd fel gwesty ac fe werthwyd tir y stad yn barseli i ateb y galw cynyddol am gartrefi ar hyd yr arfordir.
"Roedd y rheilffordd wedi cyrraedd Colwyn - sef Hen Golwyn - yn 1849. Cafodd y Foneddiges Erskine ei stop ei hun - Pwllycrochan Halt - am ganiatau i'r rheilffordd groesi ei thir.
"Yn wreiddiol yn ymyl safle Coleg Penrhos cafodd y safle ei symud i'r lleoliad presennol a'i ddatblygu fel gorsaf rheilffordd y dref.
"Credir mai o gwmpas 1872 y defnyddiwyd yr enw Bae Colwyn gyntaf a hynny fel enw'r orsaf.
"Tyllwyd llawer iawn o'r pridd yr oedd ei angen i adeiladu arglawdd y rheilffordd o'r ardal lle mae Canolfan Siopa Bay View yn sefyll heddiw.
"Ond mae'r ardal yn cael ei gofio gan lawer ohonom fel cartref ffair Pat Collins, yr orsaf ambiwlans a'r iard nwyddau.
"Dechreuwyd y gwaith o adeiladu'r promenâd o Hen Golwyn i Llandrillo-yn-Rhos yn 1872 ac fe barhaodd y gwaith ymhell i'r 20fed ganrif gynnar wrth i'r gwaith gael ei wneud fesul cam.
"Tyfodd y dref yn sydyn iawn. Agorwyd Gwesty Bae Colwyn, oedd â 92 llofft, yn 1871.
"Hon oedd y gwesty gwreiddiol i gael ei galw'n Westy Bae Colwyn ac mi safai ym mhen Ffordd Marine wrth ymyl y môr. Mae fflatiau Princess Court ar y safle bellach.
"Yn y dyddiau cynnar byddai gwesteion y gwesty yn cael eu cyfarch yn yr orsaf rheilffordd gan staff mewn cotiau coch a glas.
"Bu amryw o westeion amlwg yn aros yno dros y blynyddoedd, yn eu plith Adelina Patti, David Lloyd George a Cary Grant. Caewyd y gwesty yn 1973."
Datblygiad Bae Colwyn - Rhan Dau
 |