BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
15fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awyr agored

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Tenzing Norgay, John Hunt a Syr Edmund Hillary Hillary, Everest a Phen-y-gwryd
Bu farw Syr Edmund Hillary ym mis Ionawr, 2008, gan dorri cyswllt agos rhwng Cymru a'r mynydd uchaf yn y byd. Roedd yn 88 mlwydd oed.

Eryri oedd man cychwyn yr ymgyrch llwyddiannus i ddringo Everest, gyda Hillary a gweddill tîm John Hunt, yn ymarfer yng Nghymru cyn y concwest mawreddog hwnnw ym mis Mai, 1953.

Am chwe mis rhwng 1952 a 1953 ymgartrefodd y tîm yng Ngwesty Pen-y-Gwryd (yn y llun isod) yng nghesail yr Wyddfa, a chynhaliwyd sawl dathliad yno dros y blynyddoedd canlynol.

  • Lluniau o greiriau'r daith i gopa Everest ym Mhen-y-gwryd

    Esgyniad Hillary o Seland Newydd (uchod ar y dde) a Sherpa Tenzing Norgay o Nepal (uchod ar y chwith) oedd un o uchafbwyntiau'r ganrif. Gohebydd y Times, yn disgrifio'r achlysur, oedd James Morris, sy'n fwy adnabyddus i ni heddiw fel yr awdures enwog Jan Morris o Lanystumdwy.

    Gwesty Pen-y-gwrydRoedd merch perchennog y gwesty, Jane Pullee, yn ddeg oed pan glywodd fod Hillary a Tenzing wedi cyrraedd brig y mynydd.

    Dywedodd mewn cyfweliad yn 2003, hanner can mlwyddiant yr orchest, bod ei theulu wedi bod ar bigau'r drain tra'n disgwyl am newyddion am hynt y daith wedi i dîm Hillary ymadael â Chymru.

    "Am hanner nos, 1 Mehefin 1953, canodd y ffôn gyda'r Times yn galw i ddweud eu bod wedi cyflawni'r dasg," meddai.

    "Cododd fy nhad bawb o'u gwelyau, gan ddweud y byddai'n eu lluchio allan os na fyddent yn codi!"

    Cawsant siampên i ddathlu, ac mae waliau'r gwesty wedi'u haddurno efo lluniau a dogfennau yn ymwneud â'r hanes, ynghyd â'r rhaff a ddefnyddiwyd gan Hillary a Tenzing, a'r gwpan haearn y buont yn yfed ohonni.

    "Dyma gartref dringo ym Mhrydain - ffurfiwyd Clwb y Mynyddwyr yn y bar," meddai Ms Pullee.

    Tra'n aros yn Eryri bu'r tîm yn profi'r cyfarpar dringo - yr esgidau a'r cyflenwad ocsigen - am dri mis.

    Dirprwy arweinydd y tim oedd Charles Evans, a drigai gerllaw yng Nghapel Curig. Llawfeddyg o Ddyffryn Clwyd oedd Syr Charles cyn iddo fynd yn bennaeth ar Brifysgol Cymru, Bangor.

    Bu bron iddo guro pawb i'r copa, gan mai ef oedd prif ddringwr y parti ym 1953, ond pan oedd o a'i bartner Tom Bourdillon lai na chanllath o'r copa bu raid iddynt droi'n ôl oherwydd nam yn eu cyfarpar ocsigen. Oni bai am hynny, Cymro fyddai wedi bod y cyntaf i'r copa!

    Syr Edmund Hillary yn 1999 Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach cyrhaeddodd Hillary a Tenzing y brig, gan ennill y clod. Aeth Hillary ymlaen i greu ymddiriedolaeth i helpu pobl Nepal, ac adeiladwyd ysbytai, ysgolion a phontydd yno; gwnaed ef yn ddinesydd anrhydeddus yn Nepal yn 2003.

    Yn dilyn marwolaeth Hillary yn Ionawr 2008, dywedodd Ms Pullee eu bod wedi gostwng banner Seland Newydd a oedd yn chwifio uwch ben y gwesty fel arwydd o barch.

    Mae hi'n cofio Syr Hillary fel dyn arbennig a oedd yn credu mai sefydlu Ymddiriedolaeth yr Himalaya yn Nepal oedd ei gyflawniad mawr, nid dringo Everest. Daeth i Ben-y-gwryd am y tro olaf yn 1998.

    Mae sawl cysylltiad rhwng Cymru ag Everest.

    Enwyd y mynydd ar ôl y tirfesurydd George Everest o Grucywel yn Sir Fynwy.

    Charles Bruce o Aberpennar oedd y dyn cyntaf i symbylu cais i ddringo'r mynydd ac ef oedd arweinydd cais Mallory ac Irvine yn 1922.

    Cwm yw enw rhan orllewinol y mynydd fel teyrnged i gymoedd Eryri.

    Roedd Irvine, partner Mallory, yn hannu o Gynwyd ger y Bala - mae ei gorff ar y mynydd byth.

    Eric Jones o Dremadog oedd trydydd aelod y tîm a ddringodd Everest yn 1978, pan aeth Messner and Habler i'r brig heb ocsigen.

    Caradog Jones oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd y brig.

    Cynhelir aduniad ym Mhen-y-gwryd fis Mai 2008 i ddathlu 55 mlynedd ers yr esgyniad cyntaf i gopa Everest a 53 mlynedd ers y daith gyntaf i ben Kangchenjunga, a arweiniwyd gan Charles Evans.

  • Jan Morris yn cofio Syr Edmund Hillary

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy