BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MAWRTH
23ain Medi 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Aberdaron
Morlo llwyd Natur wyllt Enlli
Does neb yn siwr a ydy Enlli yn gartref i ugain mil sant go iawn - ond mae'n sicr yn gartref i filoedd o adar, anifeiliaid a phlanhigion. Un sy'n gwybod yn iawn am fywyd prysur ynys ei deulu ydy'r pysgotwr, Colin Evans.
"Mae fy nheulu wedi byw ar Ynys Enlli am ganrifoedd. 'Dwi'n bysgotwr a hefyd yn hwylio pobl draw i'r ynys am wyliau ac felly 'dwi wedi dod i adnabod byd natur yr ardal yn dda.

"Mae 'na adar prin ofnadwy ar yr ynys, fel Aderyn Drycin Manaw (Manks Shearwater - isod). Mae'r ynys yn bwysig ofnadwy i'r aderyn yma wrth iddo fudo'r holl ffordd o Frasil bob blwyddyn. Maen nhw'n gallu byw i fod yn 50 mlwydd oed.

"Mae dros 30,000 ohonynt yma - dydyn nhw ddim ond i'w cael mewn tri neu bedwar o lefydd eraill ym Mhrydain. Maen nhw'n gwneud mor dda ar Enlli am nad oes yna lygod mawr yma, 'na dim arall i ddwyn yr wyau neu frifo'r cywion.

"Mae yna hefyd adar ysglyfaethus - cudyll coch a glas, gwalch glas, peregrin - mae Enlli ar y llwybr ymfudo i nifer fawr o adar gwahanol.

Aderyn Drycin Manaw "'Dwi hefyd wedi gweld llamhidydd (porpoise), dolffin a morloi. Mae 'na gannoedd o forloi llwyd yr Iwerydd yma. Mae rhywfaint yn aros trwy'r flwyddyn ond mae'r niferoedd yn cynyddu'n fawr yn ystod yr haf, yn enwedig pan ddaw'r cywion bach. Mae'r olygfa yn ffantastig, dwi bron erioed wedi gweld dim byd tebyg, gyda'r holl weiddi a'r twrw - cannoedd efo'i gilydd ar y creigiau.

"Dwi ddim yn meddwl bod yr ynys wedi newid llawer o ran natur dros y blynyddoedd - dim ond fod 'na lai o bobl yma rŵan ac felly mwy o le i'r anifeiliaid a'r adar. Ers talwm byddai rhai yn saethu'r morloi, ond dydi hynny ddim yn digwydd rŵan.

"Mae'r daith dros y môr i Enlli yn dibynnu ar y tywydd wrth gwrs ond mae'r peiciau, neu'r cerrynt, yn rhai cryf yma - mae hynny'n gallu bod yn fantais weithiau!

"Ar ôl i'r tymor pysgota am grancod a chorgimwch orffen gyda'r gaeaf, dwi'n gadael yr ynys ac yn dod draw i Aberdaron i adeiladu cychod. Roedd y diwydiant yma yn un pwysig flynyddoedd yn ôl ac erbyn hyn mae 'na fwy a mwy o alw am gychod wedi eu hadeiladu o ddefnydd traddodiadol Cymreig.

"Roedd tyfu i fyny ar yr ynys yn hollol normal i mi ac yn brofiad hapus iawn."

Am fwy o wybodaeth am natur Ynys Enlli a gwibdeithiau i'r ynys ewch i wefan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli: enlli.org.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Hanes
Lluniau
Natur


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy