BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Aberdaron
Gwen Pritchard Jones Awen Aberdaron
Sut daeth hen ewyllys gwraig weddw a llofruddiaeth ficer Aberdaron yn destun nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen? Yr awdur Gwen Pritchard Jones o Bantglas sy'n dweud yr hanes.

"Mae yna dŷ arbennig o hyfryd o'r enw Bodwrdda, ger Aberdaron. Cafodd ei adeiladu'n wreiddiol yn 1621 gan Huw Gwyn Bodwrda (Bodwrdda oedd yr hen ffordd o ysgrifennu'r enw ond erbyn heddiw, un 'd' yn unig sydd ynddo).

"A dyna lle cefais i'r syniad i'r nofel yma gyntaf.

"Dwi'n bwriadu trosi'r nofel i'r Saesneg ac mae gen i bethau eraill ar y gweill sydd angen gwaith ymchwil iddyn nhw.

"Rydw i'n cael pleser arbennig o edrych ar hen adeiladau a chreiriau, ceisio dychmygu sut oedd bywyd i bobl mewn gwahanol gyfnodau. Mae rhai awduron yn dweud eu bod yn edrych ar bobl mewn gorsaf drenau neu rywle, ac yn dychmygu ei bywydau er mwyn cael ysbrydoliaeth ond y gorffennol sy'n rhoi cic i mi.

"Wrth wneud rhagor o waith ymchwil, mi ddois ar draws ewyllys a rhestr eiddo Catrin Bodwrda. Roedd hi'n ferch stâd y Penrhyn cyn iddi briodi i mewn i deulu'r Bodwrda. Bu farw Catrin yn 1704

"Mi wnes i ddarganfod ei bod wedi creu ymddiriedolaeth i alluogi dau fachgen amddifad o blwyf Aberdaron i gael hyfforddiant a phrentisiaeth mewn crefft. Mae'n dal i fodoli heddiw - cysylltiad uniongyrchol rhwng y gorffennol a'r presennol.

"Mi wnes i hefyd ymchwilio i hanes ficer Aberdaron a gafodd ei gyhuddo yn 1623 o fod yn esgeulus. Cafodd ei alw o flaen yr esgob ym Mangor o achos hynny.

"Mi benderfynais i felly geisio cyplysu'r ddau hanes, a chreu stori o'u hamgylch.

"Felly, yn fy llyfr mae Catrin yn tua 18 oed ac wedi dyweddïo gyda'i chefnder, John Bodwrda (mae hynny'n ddigon wir).

"Mi wnes i fynd ati i drïo dychmygu eu perthynas a'u priodas, a gafodd ei drefnu gan y teulu fel oedd yr arfer ymysg y bonedd, a thrïo dychmygu merch ifanc yn wynebu priodas dan orfod. Beth mae hynny'n ei olygu, yn enwedig o feddwl fod ei gŵr, yn ôl yr hanes, wedi marw erbyn 1648. Golygai hyn y byddai Catrin wedi bod yn weddw am dros 50 mlynedd, er y byddai'n arferol i rywun yn ei sefyllfa hi orfod ailbriodi.

"Arweiniodd hyn imi gychwyn dyfalu am ei chymeriad - sut ferch fyddai wedi gwrthsefyll pwysau i ailbriodi? Pam wnaeth hi sefydlu'r ymddiriedolaeth?

"Arwr y nofel yw Siôn Rhisiart. Mae'n fab i bysgotwr o Aberdaron ac mae'r ddau yn cael perthynas, er ei bod yn amhosib iddynt briodi.

"Mewn gwirionedd, bu farw'r ficer yn 1624 ond yn y nofel mae'n cael ei lofruddio ac mae Siôn yn cael ei hun i drafferthion wrth i'r sgweier dybio ei fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad pan oedd yn fachgen bach. Ond a yw'r sgweier yn euog?

"Roeddwn wedi ei 'sgwennu fel stori fer yn wreiddiol, tua ugain mlynedd yn ôl. Ond roeddwn yn teimlo erioed fod 'na ddeunydd nofel iddo, ond fy mod yn methu â phenderfynu ai nofel i blant neu oedolion fyddai. Yn y diwedd, fe'i hysgrifennais ar gyfer oedolion.

"Er mwyn cael yr ysgogiad i ymdopi â'r holl waith o 'sgwennu nofel - (mae'n cymryd cryn dipyn o ddyfalbarhad) mi wnes i ymuno â chwrs gradd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Maen nhw'n rhoi deadlines i mi! Rhaid i mi wneud hyn a hyn mewn cyfnod o arbennig o amser os ydw i am lwyddo - a rydw i'n cael adborth pobl eraill hefyd wrth gwrs.

"Roedd yn deimlad gwych i ennill Gwobr Goffa Daniel Owen am Dygwyl Eneidiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2006 - roedd pawb mor garedig."

Gwrandewch ar sgwrs gyda Gwen Pritchard Jones ar raglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru.

  • Rhaglen Dei Nos Sul
  • Fflur DafyddFe wnaeth Aberdaron ac Enlli ysbrydoli enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Abertawe a'r Cylch 2006 hefyd. Atyniad oedd enw nofel fuddugol Fflur Dafydd, a dreuliodd gyfnod fel awdur preswyl ar Ynys Enlli. Mwy ...


    Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Hanes
    Lluniau
    Natur


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy