BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Aberdaron
Christine Evans Bywyd ar Enlli
Sut daeth merch o Swydd Efrog i fyw ar Ynys Enlli? Dyma hanes y bardd Christine Evans, o Enlli (yn yr haf) ac Aberdaron (yn y gaeaf).

Mi ges i fy ngeni yn Swydd Efrog, yng ngwlad y Brontës. Mae'r rhosydd i fyny fa'na yr un mor oer a gwyntog a maen nhw'n ei ddweud yn y llyfrau!

Ond roedd fy nhad yn dod o Bwllheli, a dwi newydd ddarganfod fod fy nain wedi cael ei magu yna hefyd. Felly mae gen i fwy o gysylltiad efo Pen Llŷn nag oeddwn yn ei wybod.

Roeddwn yn gallu siarad ychydig o Gymraeg fel plentyn - wel, y tri gair ddaru nain ei ddysgu i mi, sef 'gwely', 'cariad' a 'cwsg'.

Ond doeddwn i ddim wedi bod i Bwllheli o gwbl tan i dad farw. Wedyn, gan fod gen i frawd a chwaer ieuengach a mam oedd yn sâl, mi benderfynais mai fy nyletswydd i oedd edrych ar ôl y teulu.

Mi welodd mam hysbyseb am swydd dysgu yn yr ysgol ramadeg ym Mhwllheli. Wnes i 'mond trïo am y swydd i blesio mam, a gan fod dad wedi dod o'r ardal - ro'n i'n credu y byddwn yn llwyddiannus!

Ar ôl mynd i'r coleg yn Exeter roeddwn wedi dysgu yn Llundain am gyfnod ac felly roedd Pwllheli yn ymddangos ryw dair blynedd y tu ôl i bethau, yn enwedig y ffasiwn. Ond roedd yn bleser dysgu'r plant yna ac roedd gan y rhieni gymaint mwy o ddiddordeb a pharch at addysg yng Nghymru. Cefais fy nghyflwyno fel 'yr athrawes Saesneg o Lundain' - dramatig iawn!

Roeddwn wedi bwriadu aros am ddwy flynedd yn unig, gan fy mod wedi gohirio swydd fel gwirfoddolwyr tramor. Ond o fewn y ddwy flynedd, roeddwn yn briod!

Mi es i draw i Ynys Enlli a chyfarfod Ernest, mab i Wil Evans - neu Wil Tŷ Pella - ffermwr o'r ynys. Mae Ernest yn gallu olrhain hanes ei deulu ar yr ynys yn ôl i'r 1770au a fo oedd y plentyn olaf i gael ei addysg yn ysgol Enlli.

Mae Ernest yn bysgotwr ac yn trwsio cychod, fel ein mab, Colin.

Ymwelwyr yn glanio ar Ynys Enlli Felly dwi wedi byw yn Aberdaron neu ar Enlli ers y 1060au - dydyn ni ddim yn byw ar yr ynys trwy'r flwyddyn. Mi fyddai'n anodd, yn enwedig i fy ngŵr, byw heb wres canolog, teledu a ffôn dibynadwy yn ystod y gaeaf!

Mae'n rhaid i ni gerdded i ben yr allt uchaf ar yr ynys i gael signal ffôn, neu ddibynnu ar ffôn yn y tŷ sydd wedi ei gysylltu i drosglwyddydd ar dop yr allt gan weiren hir. Os nad oes digon o egni yn y generadur, sy'n cael ei bweru gan yr haul, bydd y ffôn yn dechrau peidio â gweithio. Mi faswn i'n hoffi cael generadur gwynt ar yr ynys ond mae'n rhaid cael hawliau cynllunio yn gyntaf.

Dydyn ni ddim yn gallu cysylltu â'r we ar yr ynys chwaith - felly os oes gan unrhyw un syniadau am sut gawn ni gysylltu â'r we, heb gyflenwad parhaol o egni, dywedwch! Byddai'n wych, yn enwedig i fab bach y warden adar.

Mae'n rhaid i chi fod yn drefnus iawn i fyw ar ynys mor fach. Mae gen i ardd lysiau go dda erbyn hyn ond dydyn ni ddim yn gwneud pethau fel menyn ein hunain, fel y byddai mam Ernest. Felly, mae'n rhaid gwneud rhestr siopa hir i sicrhau fod gandon ni bethau fel te a choffi, sudd oren a siwgr.

Goleudy Enlli Rydym wedi cael ein dal allan gan y tywydd sawl gwaith hefyd. Roeddwn yn hwyr mynd yn ôl i'r ysgol ddwywaith yn y 60au. Yr adeg honno, pan roedd dyn yn edrych ar ôl y goleudy, roedd yn rhaid i mi anfon telegram trwy'r radio telegraph - wnes i byth glywed ei diwedd hi yn yr ysgol!

Rydym yn dod yn ôl i Uwch Mynydd, Aberdaron, pan ddaw'r tymor pysgota i ben yn yr hydref. Mi roeddwn yn gwneud ychydig o ddysgu yn y gaeaf ac erbyn hyn, er fy mod i wedi ymddeol, dwi'n dal i ddysgu ysgrifennu creadigol a darllen fy marddoniaeth.

Mae Aberdaron yn lle distawach yn y gaeaf na'r ynys yn yr haf. Mae 'na saith ffarm neu fwthyn ar Enlli i bobl aros a chan fod nifer fawr yn dod yn ôl dro ar ôl tro, mae pawb wastad yn galw draw am baned. Mae o fel cael teulu estynedig.

Enlli yn ysbrydoliaeth i farddoniaeth Christine...

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Hanes
Lluniau
Natur


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy