BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Wylan
Concyrs Concyrs
Tachwedd 2005
Y mae hon yn un hen gêm boblogaidd na chewch chwi mo'i chwarae yn rhai ysgolion erbyn hyn.
Er hynny, ers tua 40 mlynedd y mae cystadleuwyr o bedwar ban byd yn tyrru i Ashton unwaith y flwyddyn i gystadleuaeth Pencampwr Concyrs y Byd.

Y mae'r rheolau mor llym a chaeth a rheolau yr awdl yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar ôl cyrraedd Ashton y maent yn cael dewis concyr. Gawn nhw ddim cadw eu concyrs mewn drôr am fisoedd, eu rhoi yn y popty neu eu paentio efo farnais i geisio eu caledu fel y gwnaeth plant erioed.

Os cofiwch roeddem wedi mabwysiadu rheol arbennig:- os yw eich concyr yn un newydd sbon a chwithau yn malu cneuan 20 oed y mae oed eich un chwi yn 21. Nid yw hynny yn cyfrif yng ngornest y byd.

Y beirniaid sydd yn penderfynu hyd y llinyn a gorau'n y byd os yw yn fyr er mwyn anelu'n gywrain at ganol arf eich gwrthwynebydd.

Gwae chwi os gollyngwch eich concyr. Os gwna eich gelyn weiddi "stamp" cyn i chwi weiddi "dim stamp" gall sathru eich concyr yn dameidiau gyda'i esgid.

Os gwna'r llinyn glymu yn un y gwrthwynebydd cewch dro ychwanegol os gwnewch weiddi "llinyn" o'i flaen ef.

Caiff pob chwaraewr dair tro. Y mae pob gem yn para 5 munud. Os nad yw yr un gneuen wedi malu ymestynnir yr ornest honno.

Os oeddech yn hen law ar y gêm pan oeddech yn yr ysgol ers talwm brysiwch i roi eich enw i lawr i herio pencampwr Siapan, Awstralia neu'r Unol Daleithiau. Bydd yr ornest nesaf ar yr ail ddydd Sul yn Hydref 2006.

ML

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy