BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Wylan
Taid ar fwrdd yr SS Voltaire Cofio Taid, y 'Dahlia King'
Mehefin 2004
Ganwyd fy nhaid, Griffith Henry Pritchard ar Awst 14, 1881 yn un o saith o blant i chwarelwr o Flaenau Ffestiniog.
Tra roedd yn blentyn fe symudodd y teulu i 6 Holywell Terrace, Cricieth lle roedd ei fam yn gweithio yng Ngwesty'r Brynhir.

Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed ac aeth yn brentis saer coed i gwmni lleol Robert Evans. Tra roedd yn gweithio yn Muriau, sef cartref Mrs Watkins daeth yn ffrindiau efo'r gogyddes, sef merch ifanc o'r enw Elisabeth Williams o Borthmadog.

Disgynnodd y ddau mewn cariad a bu'r ddau yn canlyn am amser. Er ei bod yn edrych fod priodas ar y gorwel, mae'n debyg i Taid gael traed oer. Efallai ei fod yn teimlo ei fod yn rhy ifanc i setlo i lawr. Hwyrach ei fod eisiau byw ychydig cyn i ddyletswyddau teuluol fod yn rhwystr iddo. Yn sicr roedd yr awydd i weld y byd yn ei waed.

Heb ddweud dim wrth ei deulu na'i gariad Lis, fe aeth i Lerpwl a chafodd waith fel saer coed neu 'chippy' ar long stemar fechan yr SS Voltaire a oedd yn eiddo i gwmni enwog Larnport and Holts y Blue Star Line. Bu arni yn hwylio o gwmpas Gogledd a De'r Amerig. Ymwelodd ag Efrog Newydd a Buenos Aires lle gwelodd dlodi ofnadwy. Hoffai adrodd hanes am weld ei ormes ymladd ceiliogod gyntaf yno.

Taid (ar y dde) yn garcharor rhyfel yn yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.Wedi sawl blwyddyn ar y môr daeth yn ôl i Gricieth ar wyliau a chafodd groeso cynnes gan ei deulu. Rhoddodd dun tobaco o Efrog Newydd yn anrheg i'w dad a 'napkin holder' gyda arfbais y llong SS Voltaire i'w farn. Mae'r ola'n dal yn eiddo'r teulu.

Un arall oedd yn falch o'i weld yn ôl oedd cath y teulu. Tra roedd fy nhaid ar y môr fe ddiflannodd y gath, ond yn union yr adeg iddo ddychwelyd daeth y gath i mewn i'r tŷ ac eistedd ar ei lin!

Ar ôl ei wyliau adref dychwelodd yn ôl i'r llong a oedd ar gychwyn ar fordaith i'r Eidal. Roedd hi 'nawr yn gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf - adeg beryglus i longau Prydeinig fod ar y môr agored. Roedd llongau tanfor yr Almaenwyr o gwmpas ond trwy lwc fe ddaeth yr SS Voltaire yn ôl yn saff i Lerpwl.

Pan gafodd fy nhad ei draed ar dir sych aeth i chwilio am ei hen gariad, Lis. Roedd ei fam wedi dweud wrtho mewn llythyr ei bod hi'n gweithio fel morwyn i deulu De Larenaggas - perchnogion llongau Sbaeneg enwog yn Lerpwl. Wedi iddo gael hyd i'r tŷ, canodd gloch y drws ffrynt, a thrwy lwc, Lis atebodd. Roedd hithau wedi ei syfrdanu oherwydd nid oedd wedi ei weld na chlywodd ganddo ers iddo adael Cricieth! Ei eiriau cyntaf iddi oedd - 'Lis, a wnei di fy mhriodi?' Nid oedd raid i Nain feddwl eiliad cyn iddi ateb, 'Gwnaf Griff'.

Priodwyd Nain a Taid ar Dachwedd 11, 1916, yng Nghapel yr Annibynwyr yn Neston, Lerpwl. Ychydig o ddyddiau a gafodd y ddau gyda'i gilydd. Oherwydd y rhyfel roedd yn rhaid iddo yntau ddychwelyd i'w long.

Ni welodd Nain ef eto am dair blynedd arall oherwydd ar yr 2il o Ragfyr, 1916 suddwyd yr SS Voltaire tra roedd hi ar y môr 650 o filltiroedd i'r de o arfordir Iwerddon. Enw'r llong hwyliau Almaenig a'i suddodd oedd y Mowe ('Yr Wylan' yn y Gymraeg!). Ni fyddai criw'r llong yn arddangos baner y llynges Almaenig hyd nes yr oeddynt wedi hwylio yn ddigon agos i longau'r gelyn. Yna byddent yn dadorchuddio'r faner ynghyd â dau wn mawr cyn saethu at y gelyn. Drwy ddefnyddio'r tactegau yma buont yn gyfrifol am suddo dros 40 o longau masnach Prydeinig.

Achubwyd fy nhaid a'r rhan fwyaf o'i gyd-longwyr gan griw'r Mowe a'u cludo i wersyll carcharorion rhyfel yng ngogledd yr Almaen. Yn yr un gwersyll roedd carcharorion o Rwsia, Ffrainc a Norwy. Cafodd ei drin yn wael gan yr Almaenwyr. Ni chafodd lawer i'w yfed na'i fwyta a chollodd lawer o bwysau tra roedd yno. Prin hefyd oedd dŵr glân i olchi ac aeth y carcharorion i edrych yn ogystal â theimlo'n wael.

Tra roedd yn y gwersyll gwelodd lun o'i fam yn cerdded tuag ato cyn iddi ddiflannu. Wythnosau yn ddiweddarach derbyniodd lythyr gan ei wraig gyda'r newydd trist fod ei fam wedi marw ar y diwrnod hwnnw.

Dihangodd o'r carchar sawl gwaith ond cafodd ei ddal bob tro. Unwaith bu'n rhydd am ddyddiau hyd nes i ffarmwr ei ddal yn dwyn cabaitsh o'i gae a'i arwain o flaen ei wn yn ôl i'r carchar. Fe'i trosglwyddwyd i wersyll arall saffach a chafodd well triniaeth yno. Dyma lle y bu hyd ddiwedd y rhyfel.

Ar ôl y rhyfel daeth Nain a Taid yn ôl i Gymru gan ymgartrefu ym Mryn Tirion, 1 Stryd Glaslyn, Porthmadog. Yn ystod y 30au roedd siop da-da a thobaco yn yr ystafell ffrynt. Cyflogwyd fy nhaid mewn sawl lle megis Chwarel Moel-y-gest lle bu'n gweithio'r peiriannau. Roedd hefyd alw am ei grefft fel saer coed a bu yn un o'r gweithwyr a adeiladodd hen Ysgol Eifion Wyn.

Ond daeth rhyfel arall i effeithio ar ei fywyd. Ar ôl i awyrennau'r Luftwaffe a'r 'doodlebugs' ddinistrio rhannau helaeth o Lundain yn ystod y Blitz yr Ail Ryfel Byd aeth yno i gynorthwyo gyda'r dasg o ailadeiladu'r brifddinas. Bu'n gweithio ar hyd ei oes, ac yn ei saithdegau roedd yn gwneud 'odd-jobs' yn Laundry Tremadog i deulu Beers neu 'Beards' fel y galwai ef hwy!

Yn ei amser rhydd garddio ar ei blot yn Cae Pawb oedd ei brif ddiddordeb. Roedd yn hoff o dyfu blodau yn enwedig Dahlias.

Enillodd sawl gwobr mewn sioeau lleol cymaint yn wir nes i'w gyd-arddwyr roi'r llysenw y 'Dahlia King' arno.

Bu farw ar Ebrill 22, 1966 ac yntau'n 84 mlwydd oed. Fe gafodd fywyd hir a diddorol, ond anodd ar adegau. Cof plentyn yn unig sydd gennym o Taid a hynny yn eistedd ar ei lin ac yntau'n smocio ei hoff getyn. Tybed a oes gan rai o drigolion hŷn Port atgofion amdano. Buaswn yn falch o'u clywed.

Gan Bryn Jones, Borth-y-gest.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Oes ganddoch chi straeon neu atgofion am daid Bryn Jones?
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy