BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
22ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Wylan
Dafydd P Jones, Perchennog a Rheolwr Contractwyr Dinas yn derbyn tlws Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru Contractwr y Flwyddyn!
Medi 2007
Contractwyr Dinas yn cael eu gwobrwyo gan Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru am safon ei gwaith.
Rydym ni, ddarllenwyr Yr Wylan, yn ymfalchio fod gŵr lleol, sef Dafydd P Jones o Glan Y Wern, Llanfrothen, wedi ennill gwobr amaeth-amgylcheddol 2007 o fewn adran contractwyr trwy Gymru benbaladr..

Mae'r wobr hon yn cydnabod pobol sydd, drwy gyfrwng eu gwaith, yn cyfrannu at lwyddiant arferion amaeth-amgylcheddol yng Nghymru. Gweinyddir y wobr gan y Sioe Amaethyddol Frenhinol, y Ffermwyr Ifainc a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Caiff ei noddi gan y Grid Cenedlaethol.

Cafodd y beirniaid weld enghreifftiau niferus o'i waith ar safle adfer chwarel ger Bryncir. Cawsant eu plesio nid yn unig gan safon uchel y gwaith ond gan safon uchel y gweithwyr hefyd.

Mae Mr Jones yn cyflogi 10 i 12 o weithwyr ac yn sicr mae wedi llwyddo i greu ethos gwaith sy'n hyrwyddo gwella parhaol. Roedd y beirniaid o'r farn fod dod o hyd i waith newydd, prisio tasgau'n gystadleuol a sicrhau fod popeth yn ei le yn galw am sgiliaurheolaethol o'r radd flaenaf - da iawn fo!

Dywedodd un beirniad: 'Mae llwyddiant Mr Jones i sicrhau fod yr holl weithwyr yn gweithredu i'r un safon gyson uchel yn goblyn o gamp ar ei ran.'

Dywedodd Mr Jones: 'Rydw i'n falch iawn o'r wobr hon ac o lwyddiant cwmni contraetwyr Dinas. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi gwneud y llwyddiant hwn yn bosibl gan gynnwys fy nheulu, y gweithwyr a'r cwsmeriaid am eu cefnogaeth.'

Rydan ni'n clywed yn aml am ddirywiad pethau yng nghefn gwlad Cymru heddiw. Llongyfarchiadau teilwng iawn i Mr Dafydd Jones am ddangos y ffordd ymlaen a chael y fath lwyddiant ar lefel genedlaethol.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy