BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Wylan
Disgyblion Bl8 Ysgol Ardudwy yn mwynhau eu hymweliad â Ffrainc Taith yr adran Ffrangeg i Baris
25 Medi 2003
Aeth 42 o ddisgyblion Bl8 o Ysgol Ardudwy, ynghyd â'u hathrawon Mlle. Melanie Guillemin, Elfed ap Gomer, Dr David Aikman a Mrs Edith John i Baris a'r cyffiniau yn ystod Wythnos Gweithgareddau'r ysgol.

Ar y rhaglen roedd profi atyniadau y ddau barc thema sydd gan gwmni Disney yn Ewrop, sef Disneyland Paris a Disney Studios; esgyn Twr Eifel; gweld adeiladau enwocaf y dinas o fwrdd un o'r Bateaux Mouches ar y Seine; ymweld ag ardal Montmarte; a dweud 'Bonjour' wrth y ddau gymeriad Asterix ac Obelix ym Mharc Asterix.

Cafwyd taith i'w chofio, gyda nifer o'r criw yn dod yn 'connoisseurs' ar reidiau iasol a heriod rhaeadrau. Profwyd aml ddanteithion a dihysbyddwyd sawl siop wrth chwilio am gofroddion i nodi'r daith.

Gwelwyd rhyfeddodau lu a rhyfeddwyd at ysblander cyfoeth pensaernïol y brifddinas Ffrengig. A do, mi roddwyd cynnig ar gyfathrebu â'r brodorion yn eu hiaith eu hunain a chael gwefr o lwyddo.

Gwasgwyd llawer i mewn i gyfnod cymharol fyr a blin iawn ond bodlon oedd y teithwyr a gyrhaeddodd yn ôl i Harlech gyda'r wawr ar y pedwerydd dydd.

Elfed ap Gomer


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy