BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Wylan
'Anti Enid' Y ryfeddol Anti Enid
Mawrth 2008
Roedd yn ddiwrnod o ddathlu mawr yn Froheulog, Penrhyn ddydd Mercher, 20fed Chwefror pan oedd y rhyfeddol Mrs Enid Williams, 'Anti Enid' i'w llu cydnabod, ffrindiau a theulu, yn dathlu ei phen-blwydd yn 106 mlwydd oed.
Bu'n croesawu'r holl ymwelwyr a alwodd drwy'r dydd, ac yn eu plith bobl teledu, radio a phapurau newydd, yn siriol a chyda gwên foddhaus - yr oedd y croeso a gafodd pawb yn dangos mor falch oedd hi o weld pob un a alwodd.

Fe ofynnwyd iddi gan fwy nag un beth oedd y gyfrinach i fyw mor hir ac yr oedd yn barod iawn gyda'i hateb i bawb - dim smocio, dim yfed alcohol a mwynhau bywyd!

Mae'n sicr iawn mai un o'r prif resymau pam ei bod yn mwynhau bywyd yw bod ganddi gymaint o ffrindiau a chymdogion yn galw a hithau bob amser mor groesawus ohonynt.

Y prif destun rhyfeddod yw ei gweld mor heini a chwim ei meddwl a'i chof a hithau wedi ei geni ddwy flynedd cyn Diwygiad 1904, deuddeng mlynedd cyn i'r Rhyfel Byd Cyntaf dorri allan, a phedair blynedd ar ddeg cyn i Lloyd George ddod yn Brifweinidog Prydain Fawr. Yr oedd felly'n bymtheg oed pan fu farw Hedd Wyn.

Bu'n aelod ffyddlon yng Nghapel Nasareth ar hyd ei hoes ac y mae'n edrych ymlaen at gael dod i'r capel pan fydd y tywydd wedi cynhesu. Yr oedd yno i'r Oedfa Nadolig ychydig wythnosau'n ôl ac yr oedd 102 o flynyddoedd o wahaniaeth oed rhyngddi hi a'r ieuengaf yn y gwasanaeth y prynhawn hwnnw! Mae ganddi ddau ris i'w dringo i fynd i'w hystafell wely bob nos.

'Does yna ddim byd gwell na dringo grisiau i gadw eich penna'glinia'n ystwyth,' meddai wrthyf y diwrnod o'r blaen!

Mae'n falch iawn o ddangos y llu cardiau a gafodd, yn arbennig yr un a gafodd o Balas Buckingham - y trydydd iddi ei gael ers iddi gyrraedd ei chant oed. Y drefn yw bod un yn cael ei anfon i rai sydd yn cyrraedd y cant, yna y nesaf ar gyrraedd 105 a phob blwyddyn ar ôl hynny. 'Mi fyddai'n cael un bob blwyddyn o hyn ymlaen,' meddai!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy