BBC HomeExplore the BBC

IAU
7fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Wylan
Stryd Fawr Porthmadog Problem traffig Port
Mawrth 2006
Y mae'n bur debyg na welir ffordd osgoi i Borthmadog am rai blynyddoedd eto, ond ai dyna'r unig ateb i'r tagfeydd dyddiol yn ystod yr haf?

Mater arall sy'n codi ei ben yw'r posibilrwydd mai symud y broblem i Benrhyndeudraeth a Phenmorfa a wneir gan y bydd rhwystrau yn y ddau bentref yn creu mwy o broblemau os bydd trafnidiaeth drom yn cyrraedd yn gynt.

Mae'r posibilrwydd, hefyd, y ceir tagfeydd ym mhen Tremadog i'r ffordd newydd wrth i draffig ddod i mewn a mynd allan o Port.

A oes ateb arall? Mae'n rhaid cael ateb dros dro beth bynnag.

Bum yn trafod y broblem gyda golygydd mis Chwefror, a hynny ar gornel y stryd ddi-draffig. Dyma rai o'r syniadau a ddeilliodd o'r drafodaeth:

1. Gan fod y broblem ar ei gwaethaf am ryw ddeng wythnos yn ystod yr haf, a hynny, fel arfer rhwng 10.00 y bore a 4.00 y prynhawn, gellid gwahardd parcio ar y stryd o Bont yr Harbwr hyd at groesfan y trên yn y pen arall rhwng yr oriau hyn.

2. Dim caniatâd i loriau a faniau ddadlwytho'u nwyddau rhwng 10.00 y bore a 4.00 a prynhawn.

3. Dim caniatâd i loriau mawr yn cario carafannau, cychod neu dai pren i ddod trwy'r dref yn ystod yr oriau a nodwyd. Byddai'r pedwar mesur yma'n cadw'r stryd yn glir drwy'r dydd.

5. Aildrefnu'r mynediad i Tesco fel bod y traffig ar y ffordd yn cael blaenoriaeth ac nid y traffig sy'n mynd a dod o Tesco. Mae hyn yn bod yn barod yng Nghaernarfon.

6. Newid amseriadau'r tair set o oleuadau croesi sydd ar y stryd. Gorfodi'r cerddwyr i aros am ychydig mwy, yn lle'r sefyllfa hurt sy'n bodoli (yn enwedig yn y goleuadau wrth yr harbwr) lle maent yn newid i goch ar ôl i un neu ddau gar basio.

7. Efallai y gellid gosod goleuadau dros dro i reoli'r llif o ffordd Penamser ar yr ynys gan fod llawer iawn o yrwyr ar yr ynys pan nad oes ffordd allan ac o ganlyniad, yn cloi llif y traffig. Pedwar golau - Penamser, ffordd o Dremadog, Heol Newydd a'r Stryd. Mae'n haws rheoli felly yn hytrach na chloi'r ffordd yn gyfan gwbl.

Mae'n bur debyg y bydd y lein fach yn cyrraedd Port cyn i'r ffordd osgoi gael ei hadeiladu, felly mae gwir angen arbrofi i rwystro'r tagfeydd enbyd sy'n rhoi enw drwg i'r dref ac yn golygu fod mwy a mwy o bobl yn cadw draw.

Os na fydd hyn yn help i leddfu'r broblem, yna gellir meddwl am ddulliau eraill ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wedi'r cyfan, rhaid cofio fod y ffordd osgoi rhwng 5-10 mlynedd i ffwrdd cyn hadeiladu (os o gwbl).


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy