BBC HomeExplore the BBC

IAU
7fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Wylan
Logo Cornel y Gegin Cornel y Gegin
Mawrth 2005
Daeth llyfr ar fenthyg i'm llaw y dydd o'r blaen gan ffrind a dwi wedi cael wir bleser yn pori ynddo.
Mae'r llyfr cas caled yn rhoddedig am bresenoldeb cyson i'r ysgol diwedd tymor Gorffennaf 31, 1906 wedi ei gyflwyno i Winifred Williams, Tremadog. Mae ynddo bopeth ar sut i gadw tŷ a choginio. Mae llawer o wirionedd ynddo i ni heddiw.

Mae yn mynd i fanylder am brydau allwch wneud o bob math o anifeiliaid - mae un yn sôn am fuwch a phob rhan o'r fuwch yn cael ei ddefnyddio, dim i mi diolch.

Piclo'r dafod a'i fwydo am ddeuddeg awr - mae'n dweud ei fod yn rhagorol os ferwch yn araf. O, beth am y traed, mae'n dweud fod y ddysgliad hon nid yn unig yn flasus ond yn dra maethlon. A dyna'r pen, o na, da'i ddim i fanylu. Mae reset yma hefyd yn gwneud pryd blasus. A'r gynffon, gymerith dair awr i stiwio y gynffon medd y reset.

Ynddo hefyd mae'n rhestru yn fanwl beth sydd yn rhaid ei gael mewn cegin, ac fel mae yn gwahanu y byddigions a'r rhai ag amgylchiad gweddol ac yna y teulu cyffredin. Mae'n rhyfedd gweld cymaint o wahaniaeth yn y rhestr yma.

Mae reset ynddo hefyd am wneud cacen sbwng yn defnyddio saith o wyau, cost y cynhwysion yn is na 2 geiniog. Mae'r llyfr yma yn amhrisiadwy coeliwch fi.

Mae'n draddodiad bob Pasg i wneud y gacen Simnel. Mae'r gacen yn hawdd i'w gwneud ac yn blasu yn dda. Popty ymlaen ar wres Nwy 4 350ºF 180ºC. Seimio tun crwn maint 8 modfedd, cylch o bapur saim ar waelod y tun ac o amgylch, yna seimio eto.

10 owns o flawd codi
3 owns o almwn mân
5 owns o fenyn
5 owns o siwgwr caster
1 1/2 pwys o ffrwyth cymysg resins, cyrens a syltanas
Croen oren a lemwn wedi gratio yn fân.

1. Rhowch y blawd a'r almwn mewn desgil. Rhwbio y menyn yn ysgafn i mewn nes y bydd fel briwsion.
2. Rhoi y ffrwyth mewn desgil arall, rhoi croen, y ffrwyth a'r sudd am ben, a 3 llwy fwrdd o sieri sych a'i fwydo am ryw hanner awr.
3. Yna trowch am ben y blawd gan droi a llwy bren. 4. Curo'r wyau gyda'r siwgr.
5. Tywallt hyn i mewn eto, cymysgu yn dda. Os na fydd y gymysgedd yn disgyn yn rhwydd o'r llwy ychwanegwch ychydig o lefrith.
6. Tywallt hanner y gymysgedd i'r tun. Rhoi cylch 8 modfedd o bast almwn am ei ben ac yna gweddill y gymysgedd. Lefelu a chyllell.
7. Yn syth i mewn i bopty poeth a'i choginio am 1 1/4 - 1 1/2 awr nes bydd gweillen yn dod o'i chanol yn berffaith lân.
8. Gadael iddi oeri yn iawn cyn ei throi allan i'w haddurno. Rowlio cylch arall maint wyth modfedd o bast almwn. Toddi jam bricyll a'i daenu dros ben y gacen, ac yna rhoi y past almwn wedyn. Yn draddodiadol mae unarddeg pelen i fod o amgylch y gacen hon yn cynrychioli disgyblion yr Iesu gan adael Judas allan.

Hwyl ar ei gwneud,

Gwyneth Mair.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy