BBC HomeExplore the BBC

IAU
3ydd Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr Wylan
Chwaraewyr y tîm cyntaf, Rheolwr Viv Williams, Cymorth Cyntaf Ifor Roberts, Ysgrifennydd Gemau Meirion Parry, a chefnogwr mwyaf brwd y tîm Dilwyn Parry gyda thlws Cynghrair Cymru Unedol ar ddiwedd y gêm gwpan yn erbyn Yr Wyddgrug. Lluniau: Rod Davies Port yn bencampwyr
Mai 2003
Fe sicrhaodd tîm Porthmadog bencampwriaeth Cynghrair Cymru Unedol ar gae Bwcle, un o'u prif wrthwynebwyr, brynhawn Sadwrn, Ebrill 19.
Enillwyd o 3 gôl i 2 mewn gêm agos a chyffrous, gyda pherfformiad y ddau dîm yn nodweddiadol o'r safon uchel a welwyd yn y Gynghrair drwy'r tymor, yn arbennig felly gan y prif dimau.

Fe sicrhaodd Port ddyrchafiad i Brif Gynghrair Cymru y tymor nesaf, os bydd y newidiadau a ddisgwylir gan awdurdodau'r Gynghrair honno wedi eu cwblhau erbyn eu hymweliad â'r Traeth ar Fai'r 14eg.

Mae'r swyddogion a chefnogwyr wrthi fel lladd nadroedd y dyddiau yma i sicrhau y bydd popeth yn ei le erbyn y diwrnod hwnnw, ac maent yn gwbl ffyddiog y gwireddir y freuddwyd o weld y Clwb yn dychwelyd i'r Brif Gynghrair ar ôl absenoldeb o bedair blynedd. Nid oes amheuaeth nad ydyw eu dycnwch a'u brwdfrydedd yn haeddu hynny.

Nid oes amheuaeth ychwaith nad ydynt hwy a'r tîm yn haeddu gwell cefnogaeth gan ddilynwyr pêl-droed yr ardal, ac nid oes amheuaeth nad oes digon o bobl felly yn yr ardal i sicrhau tyrfaoedd teilwng iawn ar y Traeth i bob gêm gartref y tymor nesaf. Ni ellir llai nag edmygu safon y chwarae ar y lefel yma o bêl-droed, a bydd y safon yn uwch eto y tymor nesaf gyda thimau fel Y Barri a Bangor yn ymweld â ni.

Ychydig ddyddiau cyn y gêm ym Mwcle cafwyd canlyniad boddhaol i'r gwrandawiad yn Llandudno i achos y golwr, Richard Harvey. Mae pawb sydd yn gysylltiedig â'r Clwb, yn arbennig felly y chwaraewyr, Viv Williams y rheolwr ac Osian Roberts yr hyfforddwr, i'w canmol am gario ymlaen i sicrhau tymor mor llwyddiannus, a'r bygythiad yma fel rhyw gwmwl du uwch eu pennau am gyfnod rhy hir o lawer.

Er iddynt ennill y Bencampwriaeth, nid dyma ddiwedd y tymor o bell ffordd, gan fod Port yn Rownd Derfynol Cwpan Her yr Arfordir yn erbyn Llandudno ar Fai 13, ac yn Rownd Gyn-derfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn yr un gwrthwynebwyr ar ôl sicrhau'r fuddugoliaeth yn erbyn Yr Wyddgrug y Sadwrn diwethaf 3-0.

Byddai ychwanegu dwy Gwpan at eu llwyddiant yn barod yn y Gynghrair yn ddiweddglo teilwng iawn i dymor i'w gofio.

GLJ


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy